News Centre

​Cllr Kevin Etheridge wins prestigious local government award

Postiwyd ar : 03 Rhag 2021

​Cllr Kevin Etheridge wins prestigious local government award

Mae'r Cynghorydd Kevin Etheridge, sy'n cynrychioli Ward Coed Duon ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, wedi ennill Gwobr Hyrwyddwr Cymunedol yng Ngwobrau Uned Wybodaeth Llywodraeth Leol (LGIU) ac CCLA.

Gwobrau Cynghorwyr LGIU ac CCLA, sy'n cael eu cynnal bob blwyddyn, yw'r unig seremoni wobrwyo genedlaethol sy'n dathlu gwaith hanfodol cynghorwyr unigol ledled Cymru a Lloegr. Yn 2021, fe wnaeth y rhestr fer dynnu sylw at 48 o gynghorwyr eithriadol sy'n wir hyrwyddwyr byd llywodraeth leol a'u cymunedau. Cafodd yr enillwyr eu henwi ddydd Mercher 1 Rhagfyr, a chafodd y cyfan ei ffrydio yn fyw ar YouTube.

Mae'r Gwobrau Cynghorwyr blynyddol bellach yn eu deuddegfed flwyddyn ac wedi parhau i ddathlu goreuon byd llywodraeth leol. Wrth i gymunedau barhau i adfer yn sgil y pandemig, mae'r Gwobrau hyn yn ffordd hynod bwysig o hyrwyddo'r hyn y mae cynghorwyr lleol yn ei wneud er budd eu cymunedau.

Roedd y gystadleuaeth yn arbennig o dynn eleni, gyda dros 400 o enwebiadau wedi dod i law. Cafodd yr enillwyr eu dewis gan grŵp o feirniaid a oedd yn cynnwys uwch gynghorwyr a rhanddeiliaid blaenllaw o bob rhan o'r sector.

Meddai'r Cynghorydd Philippa Marsden, Arweinydd y Cyngor, “Rydyn ni'n hynod falch o'r Cynghorydd Etheridge am ennill y wobr hon. Roedd yn erbyn y cynghorwyr gorau byd llywodraeth leol ledled Cymru a Lloegr, ac mae cydnabyddiaeth genedlaethol i'w ymrwymiad a'i waith caled yn y gymuned yn haeddiannol. Da iawn.”

Mae modd gwylio'r Cynghorydd Etheridge yn derbyn ei wobr, yma: www.youtube.com/watch?v=urI0Mvkq7KM

 



Ymholiadau'r Cyfryngau