News Centre

Cyngor ar fin cyflwyno cynlluniau ar gyfer cynllun tai byw bywyd hŷn arloesol

Postiwyd ar : 01 Rhag 2021

Cyngor ar fin cyflwyno cynlluniau ar gyfer cynllun tai byw bywyd hŷn arloesol
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cyhoeddi y bydd yn cyflwyno cais cynllunio ar gyfer datblygu cynllun tai byw bywyd hŷn newydd arloesol ar safle hen gartref gofal Tŷ Darran, Rhisga.

Bydd yr adeilad newydd arfaethedig yn cael ei ddylunio gyda lefelau uchel o effeithlonrwydd ynni i leihau biliau tenantiaid, a hefyd leihau allyriadau carbon. Bydd hefyd yn cynnwys fflatiau eang a lifft i bob llawr.

Os bydd y datblygiad yn cael ei gymeradwyo, bydd yn cynnwys amrywiaeth o fannau cymunedol y bydd modd eu defnyddio ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau wedi'u trefnu. Bydd y fflatiau hefyd yn cynnwys mannau awyr agored personol, fel balconïau, ynghyd â gerddi cymunedol hygyrch.

Bydd y cynllun tai newydd yn cael ei reoli gan y Cyngor a bydd yn cael ei ddefnyddio i adleoli tenantiaid presennol o gynlluniau tai yn yr ardal sydd, oherwydd nifer o faterion, wedi'u rhaglennu i'w cau. Bu ymgynghori â'r tenantiaid dan sylw drwy gydol y broses, a byddan nhw'n cael eu cynnwys wrth ddatblygu'r cynlluniau yn y dyfodol.

Meddai'r Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet y Cyngor dros Ofal Cymdeithasol a Thai, “Os bydd y cynigion ar gyfer y datblygiad hwn yn cael eu cymeradwyo, bydd cyfle i ni drawsnewid yr arlwy presennol o ran tai i bobl hŷn yn yr ardal.

“Bydd y cyfleuster newydd yn wahanol i unrhyw un o'n cynlluniau tai lloches presennol; bydd lefelau uchel o effeithlonrwydd ynni, a mannau cymunedol ac awyr agored hyblyg a fydd yn cynnig mwy o gyfleoedd i wella iechyd a lles tenantiaid.”


Ymholiadau'r Cyfryngau