Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Fy nhudalennau
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi gwag
COVID-19 - Yr wybodaeth ddiweddaraf am ysgolion
Gwybodaeth Brechlyn COVID-19
Cefnogi Pobl – cymorth yn ymwneud â thai
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Gwastraff heb ei gasglu
Amserlenni bysiau
Canolfannau ailgylchu
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Cyngor a chymorth am lifogydd
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
A allaf helpu?
CORONAFEIRWS (COVID-19)
: yr wybodaeth cyngor a chymorth diweddaraf
Newyddion
Newyddion
Chwefror 2021
‘Dim toriadau newydd a chynnydd yn Nhreth y Cyngor sydd ymhlith y lleiaf yng Nghymru’
News Centre
‘Dim toriadau newydd a chynnydd yn Nhreth y Cyngor sydd ymhlith y lleiaf yng Nghymru’
Postiwyd ar : 17 Chwe 2021
Mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi argymell cynnydd yn Nhreth y Cyngor sydd ymhlith y lleiaf yng Nghymru.
Fe wnaeth y Cabinet gyfarfod heddiw (dydd Mercher 17 Chwefror) i gytuno ar gynigion cyllideb drafft ar gyfer 2021/22, sy'n cynnwys cynnydd o 3.9% yn Nhreth y Cyngor. Byddai hyn yn cyfateb i gynnydd o 89c yr wythnos ar gyfer eiddo Band D.
Bydd y cynigion cyllideb nawr yn cael eu hystyried i'w cymeradwyo'n derfynol mewn cyfarfod y Cyngor Llawn yr wythnos nesaf.
Yn ogystal â'r cynnydd isel yn Nhreth y Cyngor, mae'r Cabinet hefyd wedi cytuno na fydd y gyllideb ddrafft uchelgeisiol yn cynnwys unrhyw doriadau newydd i wasanaethau ar gyfer 2021/22.
Croesawodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Philippa Marsden, y penderfyniad, “Rwy'n falch o'r ffordd y mae'r awdurdod hwn yn parhau i reoli ei gyllideb yn sgil ein rheolaeth ariannol gadarn gyfredol ac ein dull darbodus.
“Rydyn ni'n gweithio'n galed i sicrhau bod y Cyngor yn parhau i fod yn ariannol gadarn yn ystod y cyfnod ansicr hwn, a hoffwn i ddiolch i bawb dan sylw am wneud hyn yn bosibl.
“Rwy'n gwbl gefnogol i gynigion y gyllideb ddrafft, ac rwy'n siŵr y bydd trigolion ledled y Fwrdeistref Sirol yn croesawu'r newyddion na fydd toriadau newydd. Mae'n golygu y gallwn ni barhau i ddiogelu ein gwasanaethau allweddol ar gyfer y dyfodol.”
“Mae'n debygol y bydd y cynnydd yn Nhreth y Cyngor ymhlith y lleiaf yng Nghymru ac, er nad yw'r un ohonom ni eisiau gweld cynnydd, mae'n bwysig deall bod hyn yn chwarae rhan bwysig wrth fantoli'r gyllideb,” meddai'r Cynghorydd Marsden.
Er gwaethaf y darlun cyffredinol cadarnhaol, mae'r Cyngor yn awyddus i bwysleisio nad yw'r setliad gan Lywodraeth Cymru yn ymdrin â goblygiadau'r pandemig coronafeirws cyfredol – o ran y costau ychwanegol na'r incwm a gollir. Bydd hyn yn parhau i gael ei ariannu trwy grantiau a bydd y sefyllfa'n cael ei hadolygu'n ofalus.
Mae'r adroddiad llawn ar gael yma:
https://democracy.caerphilly.gov.uk/ieListDocuments.aspx?CId=128&MId=12514&LLL=1
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Cyngor Caerffili yn chwifio'r faner ar gyfer Diwrnod y Gymanwlad
Yn Cydweithio i Ddiogelu ein Cefn Gwlad a'n Gwlad
Cyngor Caerffili i ystyried ymestyn parcio am ddim
Dweud eich dweud – System archebu y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref
Atgoffa trigolion Caerffili i roi eu barn ar deithio llesol
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y
Please help us improve our website...