Arweinydd y Cyngor yn ymweld â chanolfan frechu Trecelyn
Postiwyd ar : 17 Chwe 2021
Mae'r Cynghorydd Philippa Marsden, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, wedi ymweld â'r ganolfan brechu torfol yng Nghanolfan Hamdden Trecelyn i ddarganfod sut mae'r rhaglen frechu newydd yn mynd.
Fe wnaeth yr Arweinydd weld yn uniongyrchol pa mor drefnus oedd y cyfan a diolch i staff anhygoel y GIG, gweithwyr y Cyngor a'r fyddin o wirfoddolwyr sydd wedi helpu i sefydlu'r safle, ac a fydd yn ei gadw i redeg dros y misoedd nesaf i roi gobaith i gynifer o'n cymunedau.
Mae'r cyfleuster hwn, ynghyd â'r canolfannau profi lleol, yn cynrychioli'r cam cadarnhaol diweddaraf yn y frwydr i atal y feirws ofnadwy hwn rhag lledaenu ac, yn y pen draw, ein cael ni'n ôl i'r ffordd arferol o fyw.
Dywedodd Philippa, Arweinydd y Cyngor, “Byddwn i'n annog unrhyw un sydd wedi cael gwahoddiad i gael brechlyn, i ddod ymlaen i'w dderbyn. Gallaf eich sicrhau, o'r hyn rydw i newydd ei weld, y bydd hi'n broses ddiogel, wedi'i rheoli'n dda a heb straen. Hoffwn i ddiolch i bawb dan sylw am eu hymdrechion.
Cofiwch, nid oes angen i chi wneud unrhyw beth er mwyn cael y brechiad. Bydd yr holl drigolion cymwys yn cael apwyntiad, felly, nid oes angen ffonio'ch Meddyg Teulu, y Bwrdd Iechyd na'r Cyngor i wneud ymholiadau.