Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis. Cliciwch am fwy o fanylion.
Caerphilly Logo
Cofrestrwch i dderbyn e-byst hysbysu
  • Skip to content
  • Hygyrchedd
  • Cysylltwch â ni
  • Y ganolfan newyddion
  • Fy nhudalennau
  • English
  • Tasgau poblogaidd
  • Preswylydd
  • Busnes
  • Pethau i'w gwneud
  • Y Cyngor
  • Cymerwch ran
  • Tasgau poblogaidd
    • Swyddi gwag
    • COVID-19 - Yr wybodaeth ddiweddaraf am ysgolion
    • Gwybodaeth Brechlyn COVID-19
    • Cefnogi Pobl – cymorth yn ymwneud â thai
    • Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
    • Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
    • Gwastraff heb ei gasglu
    • Amserlenni bysiau
    • Canolfannau ailgylchu
    • Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
    • Cyngor a chymorth am lifogydd
    • Diwrnodau casglu gwastraff
  • Preswylydd
  • Busnes
  • Pethau i'w gwneud
  • Y Cyngor
  • Cymerwch ran
A allaf helpu?
CORONAFEIRWS (COVID-19) : yr wybodaeth cyngor a chymorth diweddaraf
  • Newyddion    Newyddion    Chwefror 2021    Cyngor Caerffili yn dadorchuddio glasbrint gwerth £231 miliwn ar gyfer y dyfodol

News Centre

Cyngor Caerffili yn dadorchuddio glasbrint gwerth £231 miliwn ar gyfer y dyfodol

Postiwyd ar : 16 Chwe 2021

Cyngor Caerffili yn dadorchuddio glasbrint gwerth £231 miliwn ar gyfer y dyfodol

Mae cynigion buddsoddi mawr gwerth cyfanswm o £231 miliwn wedi'u dadorchuddio gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, gan ddangos glasbrint cyffrous ac uchelgeisiol ar gyfer yr ardal gyfan yn y dyfodol.

Mae'r Cyngor wedi datblygu fframwaith cynhwysfawr ‘Llunio Lleoedd’ a fydd yn gosod cyfeiriad buddsoddi ar draws yr ardal dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.

Bydd trigolion ledled y Fwrdeistref Sirol yn cael eu hannog i ddweud eu dweud a helpu i lunio'r cynigion, gan eu bod yn allweddol wrth helpu i gyflawni'r jig-so i sicrhau bod y Cyngor yn targedu ei fuddsoddiad lle mae ei angen fwyaf.

Yn ogystal â chynigion buddsoddi yn y dyfodol, mae'r fframwaith Llunio Lleoedd hefyd yn nodi'r hyn a wariwyd dros y blynyddoedd diwethaf, yn ogystal â'r hyn sydd eisoes wedi'i gymeradwyo ac sydd ar y gweill ar gyfer y dyfodol agos. Mae'r prif ffigurau allweddol fel a ganlyn:

  • £153 miliwn – y swm a wariwyd hyd yn hyn rhwng 2017 a 2020 ar becynnau buddsoddi mawr gan gynnwys datblygu ysgolion newydd, gwella priffyrdd gan gynnwys cylchfan Pwll-y-pant, gwella tai cyngor fel rhan o SATC a buddsoddi mewn caeau 3G.
  • £129 miliwn – buddsoddiad sydd ar y gweill ar hyn o bryd ar brosiectau y cytunwyd arnynt fel dymchwel eiddo ar Fryn Hafodyrynys, datblygiad tai Gardd y Siartwyr, gwelliannau fel rhan o SATC a chyfleusterau hamdden gan gynnwys trac rhedeg newydd yn Oakdale a buddsoddi mewn cae 3G ychwanegol.
  • £231 miliwn – buddsoddiad wedi'i gynllunio ar gyfer y dyfodol yn cynnwys ystod eang o gynigion a fydd yn destun ymgynghori ac ymgysylltu â'r gymuned fel rhan o drafodaeth Llunio Lleoedd.

Croesawodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Philippa Marsden, y cynigion cyffrous, “Bydd ein cymunedau i gyd yn elwa ar becyn buddsoddi cyffredinol sydd werth mwy na £485 miliwn, sy'n gyflawniad rhyfeddol ac yn dangos yn glir ein hymrwymiad i adfywio a thrawsnewid y Fwrdeistref Sirol. Mae symiau enfawr o arian yn cael eu gwario mewn meysydd allweddol fel tai, addysg, priffyrdd, trafnidiaeth a hamdden gyda chynlluniau i fuddsoddi hyd yn oed yn fwy dros y blynyddoedd i ddod.”

“Rydyn ni wedi gosod rhaglen fuddsoddi uchelgeisiol i'n cymunedau i'w helpu nhw allan o bandemig COVID-19, gan ddarparu optimistiaeth a gwytnwch ar gyfer y dyfodol. Rydyn ni am gael y gymuned i gymryd rhan lawn yn y broses hon, felly byddwn ni hefyd yn amlinellu ffyrdd i drigolion gymryd rhan dros y misoedd nesaf i ddweud eu dweud a helpu i lunio dyfodol eu cymuned.”

Bydd y fframwaith Llunio Lleoedd hwn yn rhan bwysig o gynllun adfer y Cyngor yn sgil COVID-19, sydd â'r nod o gefnogi cymunedau lleol wrth iddynt ddechrau dod allan o bandemig COVID-19. Bydd hefyd yn dod â manteision economaidd-gymdeithasol ychwanegol o ran creu swyddi lleol a chefnogi'r economi leol a chadwyni cyflenwi ac ati.

Bydd yr adroddiad Llunio Lleoedd llawn yn cael ei ystyried mewn cyfarfod craffu arbennig yr wythnos nesaf cyn cyfarfod y Cabinet ar 24 Chwefror. Mae'r adroddiad ar gael yma: 

https://democracy.caerphilly.gov.uk/documents/s34336/Wellbeing%20and%20Placeshaping%20Cabinet%20Report.pdf?LLL=0


Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
  • Cyngor Caerffili yn chwifio'r faner ar gyfer Diwrnod y Gymanwlad
  • Yn Cydweithio i Ddiogelu ein Cefn Gwlad a'n Gwlad
  • Cyngor Caerffili i ystyried ymestyn parcio am ddim
  • Dweud eich dweud – System archebu y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref
  • Atgoffa trigolion Caerffili i roi eu barn ar deithio llesol
Ymholiadau'r Cyfryngau
  • Cyfeiriad E-bost
  • Ffôn
  • Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
  • A
  • B
  • C
  • Ch
  • D
  • Dd
  • E
  • F
  • Ff
  • G
  • Ng
  • H
  • I
  • L
  • Ll
  • M
  • N
  • O
  • P
  • Ph
  • R
  • Rh
  • S
  • T
  • Th
  • U
  • W
  • Y

Cysylltwch â ni ar gyfryngau cymdeithasol ac ymunwch â'r sgwrs


Am brofiad gwell, edrychwch ar y wefan hon ar Internet Explorer 11 neu uwch, Mozilla Firefox 27 neu uwch, Safari 7 neu uwch, Chrome 30 neu uwch, Opera 12 neu uwch neu feddalwedd borwr gyfwerth.

  • Ymwadiad
  • Hawlfraint
  • Polisi Preifatrwydd
  • Cwcis
  • Accessibility
  • Map o'r safle
Hawlfraint © 2017, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Cedwir pob hawl