News Centre

Gypsy Lane – Cau ffordd

Postiwyd ar : 11 Awst 2022

Gypsy Lane – Cau ffordd
Gypsy Lane

Mae Grŵp Prosiectau Peirianneg Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a'r adran Draenio Tir yn cynnal gwaith hanfodol draenio priffyrdd a thir ar hyd Gypsy Lane (Groes-wen, Caerffili).

Disgwylir i'r gwaith ddechrau ar 15 Awst 2022 a bydd wedi'i gwblhau erbyn 30 Medi 2022; fodd bynnag, bydd y Grŵp Prosiectau Peirianneg a'r Prif Gontractwyr yn ymdrechu i gyflymu'r rhaglen lle bynnag y bo modd.

**Bydd y gwaith yn cael ei wneud mewn dau gam.

  • Cam 1 – The Brambles a maes parcio Meadows Farm Village – Er mwyn hwyluso adeiladu wal gynnal newydd, draenio tir a mewnlenwi'r difrod i wal gynnal y briffordd.
  • Cam 2 – Rhwng mynedfa Garreg Llwyd a mynedfa Gyspsy Lane i feithrinfa Pugh's Garden Village: Er mwyn adeiladu cefnfur cwlfert ger mynedfa Meadows Farm Village.

Bydd Meadows Farm Village a Pugh's Garden Village yn parhau i fod ar agor ar gyfer busnes a bydd y mynediad drwy Old Nantgarw Road.

Ac eithrio i fynediad i fusnesau a phreswylwyr lleol, bydd Gyspsy Lane ar gau i gerddwyr a cherbydau yn ystod y dyddiadau uchod. Dilynwch lwybr y gwyriad traffig wrth gyrraedd yr ardal. **Ar gyfer y gwaith hwn, gweler lluniadau llwybr y gwyriad sydd ynghlwm. Bydd gwyriad Cam 1 yn ei le o 15 Awst tan 11 Medi a bydd gwyriad Cam 2 yn dechrau ar 10 Medi tan 30 Medi 2022.

Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra wrth i ni wneud y gwaith cynnal a chadw hanfodol hwn. 



Ymholiadau'r Cyfryngau