News Centre

​Cerfluniau Snoopy gan ddisgyblion wedi cael eu dadorchuddio!

Postiwyd ar : 04 Ebr 2022

​Cerfluniau Snoopy gan ddisgyblion wedi cael eu dadorchuddio!

Mae dros 70 o gerfluniau Snoopy bach wedi’u rhyddhau ar draws Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili a Chaerdydd ar gyfer lansiad llwybr celf cerfluniau Snoopy A Dog’s Trail i Ysgolion, i gyd wedi’u dylunio a’u haddurno gan blant ysgol ledled De Cymru.

Dros y dyddiau nesaf (30 a 31 Mawrth), bydd dros 70 o gerfluniau Snoopy bach yn cael eu dadorchuddio ledled Caerffili, Caerdydd a Phorthcawl ar gyfer lansiad A Dog’s Trail, sef llwybr celf gyda cherfluniau o Snoopy, i gyd wedi'u dylunio a'u haddurno gan blant ysgol ledled de Cymru.

Mae llawer iawn o gyffro wedi bod o ran A Dog’s Trail, cymaint felly fel bod y gyfres o fersiynau llai o’r cerfluniau Snoopy anferth wedi mynd i’r strydoedd wythnos ynghynt, gyda 75 ohonyn nhw’n pawennu’u ffordd nhw ledled strydoedd Caerffili, Caerdydd a Phorthcawl ar eu llwybr eu hunain.

Ymunodd dros 80 o ysgolion lleol o bob rhan o dde Cymru â’r hwyl a chreu eu llwybr cerfluniau Snoopy llai eu hunain fel rhan o Raglen Dysgu A Dog’s Trail with Snoopy. Gyda lliwiau llachar, mae disgyblion a grwpiau ledled y rhanbarth wedi peintio, lliwio, lluniadu a braslunio eu dyluniadau, gan roi gwedd newydd i’r cerfluniau. Mae ysbrydoliaeth y disgyblion ar gyfer eu dyluniadau yn cynnwys eu cymuned leol nhw, dathlu cynwysoldeb ac amrywiaeth yn ogystal â gwarchod ein planed ni. Mae’r artistiaid ifanc i gyd wedi codi arian i sicrhau y gall Dogs Trust barhau i ofalu am gŵn a'u hailgartrefu nhw yn ne Cymru.

O 30 Mawrth, gallwch chi ddod o hyd i’r cerfluniau Snoopy bach ledled mannau cyhoeddus yng Nghaerffili, Caerdydd a Phorthcawl drwy lawrlwytho'r ap, A Dog’s Trail, cyn i’r prif lwybr fynd yn fyw ar 8 Ebrill.
Cliciwch yma i weld y llwybr cerfluniau bach o Snoopy. 

https://adogstrail.org.uk/wp-content/uploads/2022/03/Dogs_Trail_Map_Welsh.pdf 

 
 



Ymholiadau'r Cyfryngau