Bydd taliadau ar gyfer y Cynllun Cymorth Costau Byw yn cychwyn y mis hwn.
Isod mae rhai o bwyntiau allweddol y cynllun.
Mae’r Cynllun yn cynnwys 2 elfen; prif gynllun (yn ymwneud â rhai talwyr treth y cyngor) a chynllun dewisol. Mae pob awdurdod lleol yng Nghymru yn penderfynu ar ei gynllun dewisol ei hun o fewn canllawiau Llywodraeth Cymru (LlC); Cabinet y Cyngor fydd yn penderfynu ar ein polisi a bydd manylion cymhwysedd yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach ym mis Ebrill.
Mae’r prif gynllun yn darparu ar gyfer taliad ‘Costau Byw’ o £150 o dan ddau amod.
A. Amod Hawlio Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor
Os oedd y deilia(i)d tŷ yn cael cymorth drwy Gynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor ar 15 Chwefror 2022, asesir bod ganddo/ganddynt hawl i gael taliad o £150 yn awtomatig waeth beth fo'r band prisio y mae ei eiddo/eu heiddo ynddo (A i I).
B. Amod Bandiau'r Dreth Gyngor
Asesir bod gan aelwydydd sy'n meddiannu eiddo ym mandiau A i D y dreth gyngor hawl i gael taliad o £150 ar yr amod eu bod yn bodloni pob un o'r meini prawf canlynol:
- yn atebol i dalu'r dreth gyngor ar eiddo ar 15 Chwefror 2022
- ddim wedi cael eithriad ar gyfer yr eiddo hwnnw ar 15 Chwefror 2022
- yn byw yn yr eiddo hwnnw fel eu prif breswylfa ar 15 Chwefror 2022
- yn gyfrifol am dalu'r biliau cyfleustodau cysylltiedig a biliau eraill yr eir iddynt yn rheolaidd ar gyfer yr eiddo hwnnw ar 15 Chwefror 2022.
Mae aelwydydd sy'n byw mewn eiddo a brisiwyd fel Band E ond sy'n derbyn gostyngiad yn y band i Fand D oherwydd anabledd yn gymwys o dan y prif gynllun.
Nid yw'r £150 yn ad-daliad ar fil treth y cyngor, mae'n daliad i helpu gyda chostau cynyddol yr holl filiau cyfleustodau.
Bydd UN taliad i bob cartref cymwys.
Bydd y prif gynllun yn cychwyn cyn gynted â phosibl ym mis Ebrill ond, gan y gallai tua 70,000 o aelwydydd o fewn Bwrdeistref Sirol Caerffili fod yn gymwys, bydd taliadau'n cymryd sawl mis i'w cwblhau. Bydd y cynllun yng Nghymru yn rhedeg am tua 6 mis tan 30/09/2022.
Os ydych chi'n talu eich treth y cyngor chi drwy ddebyd uniongyrchol, rydyn ni'n disgwyl y bydd modd gwneud y taliad yn uniongyrchol i'ch cyfrif banc chi, heb fod angen i chi gofrestru eich manylion chi gyda ni. Byddwn yn cyhoeddi'r taliadau hyn yn ystod mis Ebrill.
Ar gyfer yr holl dalwyr treth y cyngor cymwys eraill, bydd prif gynllun Llywodraeth Cymru yn gofyn am broses gofrestru drwy wefan y Cyngor fel y gallwn ni gasglu manylion eich cyfrif banc chi. Bydd ffurflen ar-lein ar gael yn ystod mis Ebrill ar dudalen gwefan Cynllun Cymorth Costau Byw pan fyddwn yn barod i ddechrau prosesu cofrestriadau. Byddwn yn anfon llythyr at gartrefi y credwn y gallent fod yn gymwys i gael cymorth, yn eu gwahodd i gofrestru eu manylion gan ddefnyddio'r ffurflen ar-lein. Bydd llythyrau'n cael eu dosbarthu dros nifer o wythnosau, gan ddechrau tua diwedd mis Ebrill.
Bydd angen gwneud trefniadau ar wahân ar gyfer y bobl hynny nad oes ganddyn nhw fynediad at y rhyngrwyd a/neu lle nad oes ganddyn nhw gyfrif banc addas.
Bydd y mwyafrif o drethdalwyr sy'n cael eu heithrio rhag talu'r dreth (er enghraifft, cartref sy'n cynnwys myfyrwyr cymwys yn gyfan gwbl, y rhai sy'n gadael gofal hyd at 25 oed, neu bobl â nam meddyliol difrifol) yn dod o dan y cyfnod ddewisol o'r cynllun.
Bydd rhagor o wybodaeth am y cyfnod dewisol yn ymddangos yma pan fyddant ar gael.
Rydyn ni'n annog trigolion i fod yn ystyriol o e-byst, negeseuon testun neu alwadau ffôn o ffynonellau amheus sy'n cynnig gwybodaeth am y cynllun, oherwydd gallai hyn fod gan rywun sy'n ceisio dwyn eich gwybodaeth bersonol chi, megis manylion eich cyfrif banc chi.
Mae manylion cynllun Llywodraeth Cymru ar gael yma Y Cynllun Cymorth Costau Byw: canllaw i awdurdodau lleol | LLYW.CYMRU