News Centre

Cyhoeddi enillydd cyntaf o £500 ym Mwrdeistref Sirol Caerffili

Postiwyd ar : 08 Ebr 2022

Cyhoeddi enillydd cyntaf o £500 ym Mwrdeistref Sirol Caerffili
Mae enillydd cyntaf ymgyrch Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Gweddillion am Arian, wedi’i gyhoeddi.

Fel rhan o'r ymgyrch, sy'n cael ei lansio ar 7 Mawrth ac yn rhedeg drwy gydol 2022, bydd tai yn cael eu monitro gydag un cyfranogwr ailgylchu bwyd yn cael ei ddewis ar hap bob mis, gyda phob enillydd yn cael £500.

Nod yr ymgyrch yw cynyddu nifer y trigolion sy'n ailgylchu eu gwastraff bwyd nhw; ar hyn o bryd, mae tua 40% o drigolion y Fwrdeistref Sirol yn gwneud hyn. Mae'r Awdurdod Lleol yn gobeithio y byddai'r cynnydd o ran ailgylchu gwastraff bwyd yn arwain at leihau faint o sbwriel sy'n cael ei daflu, gan roi hwb i'r cyfraddau ailgylchu cyffredinol ac ategu ymrwymiad y Cyngor i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a, thrwy hynny, gyfrannu at y nodau cenedlaethol a byd-eang o ran datgarboneiddio.

Mrs Susan Jones a Mr Robin Hibbert sy'n byw yn Trem y Felyn, Caerffili, yw enillwyr cyntaf y fenter gwobrau ariannol. Dywedodd Mrs Jones, “Allwn ni ddim credu ein bod ni wedi ennill. Rydyn ni wedi bod yn ailgylchu gwastraff bwyd ers blynyddoedd lawer, felly, mae cael ein cydnabod fel hyn yn anhygoel. I unrhyw un nad yw'n ailgylchu eu gwastraff bwyd nhw, nawr yn bendant yw'r amser i ddechrau. Bydd yr arian hwn yn help mawr ar hyn o bryd.”

Mae Mark Williams, Cyfarwyddwr Corfforaethol yr Economi a’r Amgylchedd ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn dywedodd, “Llongyfarchiadau mawr i Mr Hibbert a Mrs Jones. Rydyn ni'n edrych ymlaen at wobrwyo drwy gydol y flwyddyn fwy o bobl sy'n ailgylchu.

“Rydyn ni, fel bwrdeistref sirol wrth, ein bodd i fod ar flaen y gad mewn ymgyrch sy’n amlygu pwysigrwydd ailgylchu gwastraff bwyd a’i effaith fuddiol ar newid hinsawdd wrth ailddosbarthu arian cyhoeddus yn ôl i’r gymuned fel hyn.”

Bydd enillwyr yr ymgyrch, Gweddillion am Arian, yn parhau i gael eu dewis bob mis drwy gydol 2022.

Am ragor o wybodaeth neu i wneud cais am gadi gwastraff bwyd, ewch i: www.caerphilly.gov.uk/Services/Household-waste-and-recycling/Food-waste?lang=cy-gb


Ymholiadau'r Cyfryngau