Canllawiau i gwesteiwyr

Os ydych chi wedi cofrestru i groesawu teulu neu unigolyn sy'n cyrraedd o Wcráin, rydyn ni'n gwerthfawrogi popeth rydych chi'n ei wneud i helpu'r ymdrech ddyngarol ac rydyn ni yma i'ch helpu a'ch cefnogi chi.

Rydyn ni am wneud yn siŵr bod gennych chi'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i'ch helpu chi yn eich rôl chi fel gwesteiwr.

Dylai'r canllawiau atodedig eich helpu chi i baratoi a deall eich rôl chi.

Os hoffech chi gysylltu â ni am gyngor, defnyddiwch y cyfeiriad e-bost canlynol: CymorthWcrain@caerffili.gov.uk

Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu llinell gymorth Cymru: Cenedl Noddfa i Wcráin, sydd ar agor rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Gall gwesteiwyr a'u gwesteion ddefnyddio hwn.

I ffonio o fewn y Deyrnas Unedig: 0808 175 1508

I ffonio o’r tu allan i’r Deyrnas Unedig: 020 4542 5671(+44 90)20 4542 5671