Pleidleisio drwy’r post

Mae pleidleisio drwy'r post yn gyflym, yn hawdd, ac yn golygu y gallwch chi bleidleisio mewn etholiadau heb fod angen mynd i Orsaf Bleidleisio.

Sut mae pleidleisio drwy’r post yn gweithio?

Bydd eich papur pleidleisio, ynghyd â’ch datganiad pleidleisio drwy’r post, yn cael ei anfon at eich cyfeiriad cofrestredig wythnos neu fwy cyn yr etholiad.

Bydd angen i chi rhoi eich dyddiad geni a llofnod ar y datganiad, cwblhewch eich pleidlais yn y ffordd arferol drwy roi croes a dychwelyd y datganiad a phapur pleidleisio yn yr amlen ragdaledig a ddarperir.

Byddwn wedyn yn gwirio eich dyddiad geni a’ch llofnod yn erbyn y manylion a rhoddwyd ar eich ffurflen gais yn flaenorol er mwyn rhwystro twyll ac i ddiogelu eich pleidlais. Os oes rheswm dilys pam na allwch roi eich llofnod arferol, efallai byddwch yn cael hawlildiad ond bydd dal angen i chi rhoi eich dyddiad geni.

Os ydych yn penderfynu cofrestru fel pleidleisiwr/wraig drwy’r post ni allwch, o dan unrhyw amgylchiadau, bleidleisio mewn person mewn gorsaf bleidleisio. Serch hynny, gallwch gymryd eich pleidlais drwy’r post drwy law i’r orsaf bleidleisio ar y diwrnod pleidleisio.

Gwneud cais i bleidleisio drwy’r post

Os ydych wedi cofrestru i bleidleisio yn barod gallwch wneud cais am ffurflen gais pleidlais drwy’r post ar-lein.

Fel arall gallwch gysylltu â ni am ffurflen gais. Byddwn wedyn yn anfon ffurflen gais pleidleisio drwy’r post atoch yn y post.

Ar y ffurflen hon, bydd angen i chi rhoi eich llofnod a’ch dyddiad geni. Bydd y rhain yn gweithredu fel 'Pethau Adnabod Personol' ac yn rhwystro twyll.

Os ydych eisiau gwneud cais am bleidlais drwy’r post newydd neu newid pleidlais drwy’r post presennol, rhaid i geisiadau gael eu derbyn nid yn hwyrach na 5pm un ar ddeg diwrnod gwaith cyn y diwrnod pleidleisio.

Gwneud cais am bleidlais drwy’r post i gyfeiriad gwahanol

Os ydych eisiau i’ch papur pleidleisio gael ei anfon at gyfeiriad gwahanol, bydd angen i chi gysylltu â ni nid yn hwyrach na 5pm un ar ddeg diwrnod gwaith cyn y diwrnod pleidleisio.

Gall pleidleisiau drwy’r post gael eu hanfon at gyfeiriad y tu allan i’r DU, ond dylech gadw mewn cof yr amser y mae’n cymryd i anfon a dychwelyd eich papurau pleidleisio mewn amser ar gyfer yr etholiad. 

Cysylltwch â ni