Diwygio ffiniau'r Cyngor

Cyhoeddodd Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru ei argymhellion terfynol ar gyfer newidiadau i gyfansoddiad wardiau ym Mwrdeistref Sirol Caerffili y llynedd, sydd wedi'u derbyn gan Lywodraeth Cymru ac a fydd yn cael eu defnyddio yn yr etholiadau llywodraeth leol ar 5 Mai 2022.

Mae'r argymhellion yn golygu y bydd nifer y cynghorwyr sy'n cynrychioli Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gostwng o 73 i 69 ar gyfer yr etholiadau cyngor lleol ar 5 Mai. Mae nifer y wardiau etholiadol yn gostwng o 33 i 30.

Mae rhai ffiniau hefyd wedi'u newid, sy'n golygu y byddwch chi, o bosibl, bellach mewn ward etholiadol sirol wahanol (y ward y mae'r Cynghorydd Bwrdeistref Sirol yn ei chynrychioli).

Mae trigolion yn cael eu hannog i ddarllen yr wybodaeth ar eu cerdyn pleidleisio gan fod posibilrwydd bod enwau wardiau wedi newid ac, mewn rhai ardaloedd, mae'n bosibl bod yr orsaf bleidleisio wedi newid hefyd.

Dyma'r wardiau dan sylw:-

Aberbargod a Bargod – Mae adrannau Bargod ac Aberbargod wedi'u cyfuno, a bydd tri chynghorydd ar gyfer yr adran newydd.

Bedwas a Threthomas – Mae ardal gymunedol Bedwas a Threthomas yn ffurfio adran newydd, a bydd tri chynghorydd ar ei chyfer hi.

Cefn Fforest a Phengam – Mae adrannau Cefn Fforest a Phengam wedi'u cyfuno, a bydd tri chynghorydd ar gyfer yr adran newydd.

Machen a Rhydri – Mae cymunedau Machen (rhan o adran Bedwas, Trethomas a Machen gynt) a Rhydri (rhan o adran Sant Iago gynt) yn cyfuno i ffurfio adran newydd, a bydd dau gynghorydd ar ei chyfer hi.

Moriah a Phontlotyn – Mae'r rhan fwyaf o adran Moriah ac adran Pontlotyn wedi'u cyfuno, a bydd dau gynghorydd ar gyfer yr adran newydd.

Twyncarno – Mae nifer fach o strydoedd wedi symud o ardaloedd Moriah a Phontlotyn i adran Twyncarno. Bydd un cynghorydd o hyd ar gyfer yr ardal.

Y Fan – Bydd y rhan sy'n weddill o hen adran Sant Iago (sydd heb symud i adran newydd Machen a Rhydri) yn ffurfio adran newydd o'r enw ‘Y Fan’, a bydd dau gynghorydd ar gyfer yr adran newydd.

I gael rhagor o wybodaeth am sut i bleidleisio neu newidiadau i'ch ardal bleidleisio, ffoniwch ein llinell gymorth ar 01443 864203.