Datganiad Caethwasiaeth Fodern

Mae Cyngor Caerffili yn darparu ystod eang o wasanaethau cyhoeddus statudol a dewisol, a ddarperir yn uniongyrchol drwy ein gweithlu ein hunain, a thrwy sefydliadau sector preifat a thrydydd sector. 

Ym mis Tachwedd 2017, ymunodd Cabinet Cyngor Caerffili â Chod Ymarfer Llywodraeth Cymru ('y cod’): Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyn Gyflenwi. Mae 12 ymrwymiad y cod yn cynnwys mynd i'r afael â Chaethwasiaeth Fodern a Masnachu Pobl, mae'r datganiad hwn yn nodi'r camau y mae'r Cyngor wedi'u cymryd, a bydd yn eu cymryd, i sicrhau nad oes arferion Caethwasiaeth Fodern nac arferion cyflogaeth di-foesegol yn ei fusnes ei hun neu gadwyn gyflenwi. 

Mae Cyngor Caerffili wedi ymrwymo'n llwyr i ddarparu gwelededd i'w ddatganiad Caethwasiaeth Fodern a sicrhau tryloywder yn ein cadwyn gyflenwi. Yn unol â Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015, mae'r Cyngor yn cydnabod y cyfrifoldeb sydd ganddo fel cyflogwr i fod yn ymwybodol o'r potensial am achosion o Gaethwasiaeth Fodern ac i adrodd am achosion neu bryderon o'r fath i'r cyrff perthnasol. 

Datganiad Caethwasiaeth Fodern (PDF)

Cysylltwch â ni