Asesiad o'r Farchnad Dai Leol

Ar hyn o bryd mae'r Cyngor wrthi'n cynnal Asesiad o'r Farchnad Dai Leol newydd, a fydd yn disodli'r asesiad presennol a ddangosir isod.  Disgwylir i'r gwaith hwn gael ei gwblhau erbyn diwedd 2022 a bydd yr asesiad newydd yn cael ei lanlwytho ar y dudalen we hon yn dilyn cymeradwyaeth gan y Cyngor.

Paratowyd yr asesiad o'r farchnad dai leol yn unol â chanllawiau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Mae'r asesiad yn darparu dadansoddiad cadarn a chynhwysfawr o anghenion tai ledled y fwrdeistref. Cynhaliwyd y dadansoddiad ar sail ward, ardal marchnad dai a lefel bwrdeistref. Mae'r asesiad yn rhoi sail dystiolaeth gadarn i'r Cyngor ar gyfer paratoi'r cynllun datblygu lleol, y strategaeth dai leol a'r polisïau a chynlluniau cysylltiedig.

Am ragor o wybodaeth, ffoniwch 01443 863121 neu anfon e-bost i StrategaethADatblygu@caerffili.gov.uk.
 

Cysylltwch â ni