Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-2024 

Rhagair

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn credu na ddylid gwahaniaethu yn erbyn neb na'i roi dan anfantais oherwydd ei hunaniaeth neu ei gefndir. Rydym eisiau bwrdeistref sirol lle mae pawb yn cael ei drin yn gyfartal ac yn deg ym mhob agwedd ar fywyd pob dydd.

Er ein bod yn ymdrechu i drin yr holl drigolion ac ymwelwyr â'r Fwrdeistref Sirol yn gyfartal, rydym hefyd yn cydnabod bod gan bobl wahanol anghenion. Mae'r cynllun hwn yn ystyried y gwahanol anghenion hyn a'i nod yw sicrhau nad oes rhwystrau sy'n atal unrhyw un rhag cael mynediad at wasanaethau'r Cyngor.

Wrth i'n cymunedau newid, mae amrywiaeth yn fater allweddol i ni. Credwn ei bod yn ddyletswydd arnom i fynd i'r afael â gwahaniaethu ac annog mwy o gydlyniant drwy greu cymunedau lle mae pawb yn teimlo ei fod yn cael ei barchu ac yn ddiogel rhag aflonyddu. 

Rydym hefyd yn parhau i ymrwymo i sicrhau cydraddoldeb ym mhob agwedd ar ein gwasanaeth ac yn ein harferion cyflogaeth, sydd hyd yn oed yn bwysicach yn ystod yr amseroedd heriol hyn ac mewn hinsawdd ariannol mor anodd.

Bydd y cynllun yn cael ei fonitro bob blwyddyn er mwyn adolygu effaith y cynnydd a wnawn a bydd yr adroddiadau blynyddol yn parhau i gael eu cyhoeddi. Bydd yr adroddiadau hefyd yn cael eu cyhoeddi a'u hyrwyddo'n eang yn fewnol ac yn allanol er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r gwaith sy'n cael ei wneud.

Gobeithiwn eich bod yn cytuno bod y cynllun hwn yn parhau i ddatblygu'r gwaith cydraddoldeb ac amrywiaeth yr ydym wedi'i wneud hyd yma ac yn dangos ein hymrwymiad parhaus i sicrhau parch a thegwch i bawb yn y Fwrdeistref Sirol.

Christina Harrhy
Prif Weithredwr 
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Y Cyng. Philippa Marsden
Arweinydd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Adran 1: Amdanom Ni

Mae bwrdeistref sirol Caerffili yn cwmpasu ardal sy'n ymestyn o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn y gogledd, i Gaerdydd a Chasnewydd yn y de.  Caiff yr ardal ei ffinio gan awdurdod lleol Merthyr Tudful yn y gogledd, Rhondda Cynon Taf yn y gorllewin a Blaenau Gwent a Thorfaen yn y dwyrain. 

Mae'r ardal yng nghanol Cymoedd De Cymru a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd.  Mae bwrdeistref sirol Caerffili yn cwmpasu tua 108 milltir sgwâr (28,000 hectar) o ardal Cymoedd De-ddwyrain Cymru.  Mae ychydig dros 18.6 milltir o hyd a bron i 11 milltir o led, ac wedi'i ffurfio gan gymoedd tair afon: Rhymni, Sirhywi ac Ebwy.  Mae 180,000 o drigolion yn byw yn y fwrdeistref sirol mewn cymysgedd o gymunedau trefol a gwledig.  Defnyddir tri chwarter y fwrdeistref sirol at ddibenion amaethyddiaeth a choedwigaeth.  Y Cyngor yw'r 5ed cyngor lleol mwyaf yng Nghymru a'r cyflogwr mwyaf yn yr ardal.  

Mae'r Cyngor yn cyflogi bron i 9,000 o aelodau o staff ac mae 73% ohonynt yn byw yn y fwrdeistref sirol.  Fe'u cyflogir mewn amrywiaeth o wahanol swyddi yn y meysydd gwasanaeth sy'n rhan o'r Cyfarwyddiaethau canlynol: 

  • Gwasanaethau Corfforaethol ac Addysg 
  • Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai
  • Cymunedau

Caiff y Cyfadrannau eu harwain gan Gyfarwyddwyr Corfforaethol sydd, ar y cyd â'r Prif Weithredwr dros dro, yn aelodau o'r Tîm Rheoli Corfforaethol sy'n goruchwylio'r broses strategol o reoli busnes y Cyngor.  Mae'r Cyngor yn gweithredu llywodraeth leol ar ffurf cabinet wedi'i arwain gan Arweinydd a gefnogir gan wyth Aelod o'r Cabinet.  Mae gennym 73 o Gynghorwyr etholedig ag amrywiaeth o rolau, gan gynnwys cytuno ar fframwaith polisi, Treth y Cyngor a'r gyllideb.  

Mae ein gweledigaeth a'n gwerthoedd yn rhan annatod o'n Strategaeth Trawsnewid #Tîm Caerffili – Yn Well gyda'n Gilydd.  Ei nod yw trawsnewid y ffordd rydym wedi darparu gwasanaethau yn y gorffennol.  Bydd yn ystyried sut y caiff gwasanaethau eu blaenoriaethu, sut y gallant fod yn fwy effeithlon o safbwynt busnes, yn archwilio cyfleoedd newydd i gryfhau'r ffocws ar gwsmeriaid a defnyddio mwy o ddulliau digidol, yn ystyried modelau darparu amgen ac yn chwilio am gyfleoedd masnachol.   

Mae ein mantra newydd, sef 'Calon Gymdeithasol a Meddwl Masnachol', yn greiddiol i'r rhaglen hon o newid trawsnewidiol.  Mae'n cydnabod ein hymrwymiad i wasanaeth cyhoeddus ac anghenion ein trigolion, ond hefyd yn dangos ein hawydd i ystyried cyfleoedd masnachol newydd ac arloesol lle y bo'n briodol, er mwyn cynhyrchu incwm ychwanegol i'w ailfuddsoddi mewn gwasanaethau i'w helpu i barhau'n wydn.  

Ein diben yn y strategaeth hon yw: 

"Creu gallu a rhagwelediad er mwyn datblygu atebion i rai o’r heriau mwyaf i’r Fwrdeistref Sirol, gan sicrhau bod y Cyngor yn deall ac yn ymateb i anghenion a blaenoriaethau newidiol ein cymunedau”.  

 

Rydym yn anelu at gyflawni'r canlyniadau canlynol: 

  • Meithrin cydberthnasau gwaith cadarn â'n cymunedau a'n partneriaid er mwyn manteisio i'r eithaf ar ein hadnoddau cyfun er mwyn sicrhau bwrdeistref sirol wydn ar gyfer y dyfodol.  
  • Rhoi model gweithredu newydd ar waith a fydd yn annog dulliau arloesol o ddarparu gwasanaethau ac yn sicrhau ein bod yn defnyddio ein hadnoddau yn y ffordd orau.
  • Helpu i gau'r bwlch rhwng tlodi a ffyniant drwy wella cyrhaeddiad addysgol ac ysgogi'r economi leol i greu swyddi o ansawdd uchel. 

Mae datganiad cydraddoldeb y Cyngor yn nodi'r ymrwymiad hwn yn glir; 

Mae'r Cyngor yn cydnabod bod gan bobl anghenion, gofynion a nodau gwahanol, a byddwn yn gweithio yn erbyn pob math o wahaniaethu drwy hyrwyddo cysylltiadau da a chyd-barch o fewn ein cymunedau, ein trigolion, ein haelodau etholedig, y rhai sy'n gwneud cais i ni am swyddi a'n gweithlu a rhyngddynt.

Byddwn hefyd yn gweithio i greu mynediad cyfartal at ein gwasanaethau i bawb, waeth beth fo'u tarddiad ethnig, rhyw, Oed, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd, ailbennu rhywedd, credoau crefyddol neu ddiffyg cred, y defnydd o'r Gymraeg, iaith arwyddion Prydain neu ieithoedd eraill, cenedligrwydd, cyfrifoldeb am unrhyw ddibynyddion neu unrhyw reswm arall na ellir dangos bod cyfiawnhad drosto.

Mae parch tuag at amrywiaeth yn fater allweddol wrth i'n cymunedau newid a datblygu yn yr 21ain ganrif.  Rhaid inni barchu'r hyn a fu o'r blaen a'r cyflawniadau hyd at y pwynt hwnnw, ond rhaid inni hefyd dderbyn a pharchu bod pethau wedi newid ac yn parhau i esblygu.  Rhaid inni fod yn barchus tuag at bob unigolyn sy'n byw neu'n gweithio yma, sy'n cynrychioli neu sy'n ymweld â'r fwrdeistref sirol.

Mae'n rhaid i wasanaethau'r Cyngor adlewyrchu'r anghenion amrywiol hyn ac mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili eisoes gefndir cryf yn darparu gwasanaethau hygyrch mewn ffordd synhwyrol, bwyllog a chost-effeithiol.  Mae cyllid llywodraeth leol yn cael ei herio o hyd ac mae’n rhaid ystyried unrhyw yr effaith ar yr unigolion mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, drwy Asesiadau Effaith Cydraddoldeb, y mae'r cynllun hwn yn gadarn o'u plaid.  

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i sicrhau ei fod yn cyflawni gwerth am arian o'i benderfyniadau caffael trydydd parti, gan gydnabod gwerth defnyddio dulliau caffael i gefnogi ei amcanion Diwylliannol, Cymdeithasol, Economaidd ac Amgylcheddol ehangach, mewn ffyrdd sy'n cynnig buddiannau hirdymor gwirioneddol i'r gymuned a wasanaethir ganddo a phobl Cymru, gan ar yr un pryd ystyried gwerth am arian.

Mae ein Rhaglen Gaffael yn strategaeth fyw, sy’n hyblyg ac yn addasadwy ac yn ymateb i'r amgylchedd newidiol; mae’n fodiwlaidd ei natur er mwyn gallu ei hadolygu'n hawdd a'i diweddaru bob blwyddyn yn unol â datblygiadau yn y tirlun caffael.  Byddwn yn anelu at welliant parhaus er mwyn cyflwyno newidiadau gwirioneddol a gwella bywydau'r rheini sy'n byw ac yn gweithio yn ein bwrdeistref.  

Bydd y Cyngor yn defnyddio ei brosesau caffael i feithrin newid cymdeithasol cadarnhaol lle y bo'n briodol.  Mae'r Cyngor wedi mabwysiadu Cod Ymarfer y Gadwyn Gyflenwi Foesegol a byddwn yn ei roi ar waith er mwyn meithrin amodau gwaith teg i bawb.  

Bydd y cynllun yn cael ei fonitro bob blwyddyn er mwyn adolygu effaith y cynnydd a wneir gennym a byddwn yn parhau i gyhoeddi ein Hadroddiad Cydraddoldeb statudol.  Bydd hefyd yn cael cyhoeddusrwydd ac yn cael ei hyrwyddo'n eang yn fewnol ac yn allanol er mwyn gwella ymwybyddiaeth o'r gwaith sy'n mynd rhagddo.  

Cyd-destun

Datblygwyd y Cynllun Cydraddoldeb Strategol hwn ar gyfer 2020-2024 i ddangos ymrwymiad y Cyngor i fodloni Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011.  Mae'n amlygu cysylltiadau â'r ddeddfwriaeth a'r rheoliadau ar Safonau'r Gymraeg a materion Hawliau Dynol a sut mae'n ategu pedwar o'r saith nod yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 Llywodraeth Cymru, sef Cymru iachach, Cymru sy'n fwy cyfartal, Cymru o gymunedau cydlynol a Chymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu.  Mae hefyd yn amlinellu sut y bydd y Cyngor yn cyflawni ei gyfrifoldebau o dan Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus i hybu cydraddoldeb a chynhwysiant i bob grŵp gwarchodedig.   

Gan adeiladu ar ein gwaith cydraddoldeb blaenorol, mae'r cynllun yn esbonio i'r staff, y trigolion, y rhanddeiliaid a'r aelodau etholedig sut mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili am gyflawni ei ymrwymiadau cydraddoldeb a dal hefyd i fod yn sefydliad cynhwysol nad yw'n goddef gwahaniaethu o unrhyw fath.   

Er mwyn ein helpu i ysgrifennu'r cynllun hwn, gwnaethom ymgysylltu â'n trigolion, ein staff, ein rhanddeiliaid a'n haelodau etholedig.  Gwnaethom hefyd ddefnyddio amrywiaeth o wybodaeth am gydraddoldeb a'n helpodd i ddiffinio ein hamcanion cydraddoldeb ar gyfer y 4 blynedd nesaf, a thrwy wrando arnynt, gobeithio bod yr amcanion hyn yn ystyrlon ac y byddwn yn gallu eu cyflawni.  

Gwnaethom edrych i weld pa flaenoriaethau yr oedd angen eu hystyried yn genedlaethol ac ar lefel y Cyngor, gan eu seilio ar y dystiolaeth a oedd ar gael i ni i gefnogi'r gwaith.  Cynhaliwyd cryn dipyn o waith dros y blynyddoedd er mwyn asesu ein cynnydd yn erbyn Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus drwy gynlluniau gwasanaeth a'r broses hunanasesu.  

Gwnaethom ystyried ffynonellau gwybodaeth allanol fel adroddiadau gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a Llywodraeth Cymru, polisïau a blaenoriaethau, adroddiadau ymchwil ac ystadegau perthnasol eraill a oedd ar gael i'n helpu.

Mae nifer o adroddiadau allanol gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi ategu ac wedi dylanwadu ar ddatblygiad ein hamcanion cydraddoldeb newydd ni.  

A yw Cymru'n Decach? 2015 – Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol  

Edrychodd adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol A yw Cymru'n Decach? 2015 ar saith her allweddol y mae angen mynd i'r afael â nhw yng Nghymru.  Yn ôl yr adroddiad, mae anghydraddoldebau a cham-drin hawliau dynol wedi ymwreiddio a bydd angen ymdrech gydunol gan unigolion a mudiadau yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector i fynd i'r afael â nhw a'u lleihau.  

Dyma'r 7 her a nodwyd oedd: 

  1. Cau bylchau cyrhaeddiad mewn addysg 

  2. Annog recriwtio, datblygu a gwobrwyo teg mewn cyflogaeth 

  3. Gwella amodau byw mewn cymunedau cydlynol 

  4. Cynyddu mynediad at gyfiawnder ac annog cyfranogiad democrataidd 

  5. Gwella mynediad at wasanaethau iechyd meddwl a chefnogi pobl sy'n profi problemau iechyd meddwl 

  6. Atal cam-drin, esgeulustod a chamdriniaeth mewn lleoliadau gofal a chadw 

  7. Dileu trais, cam-drin ac aflonyddu yn y gymuned 

Mae'r heriau hyn yn heriau parhaus; ond, mae cynnydd wedi'i wneud tuag at ateb yr heriau hyn drwy nifer o gynlluniau gweithredu effeithiol o fewn y Cyngor.  Er enghraifft, ym mis Mawrth 2018, mabwysiadodd y Cyngor set o amcanion llesiant ar gyfer 2018-2023 yn ei Gynllun Corfforaethol.  Amcan Llesiant 1 yw Gwella cyfleoedd addysg i bawb a bydd hyn yn cael sylw drwy'r Strategaeth Uchelgeisiau a Rennir 2019-2022.  Mae rhestr lawn o ddogfennau ategol perthnasol wedi'i chynnwys ym mhob un o'r amcanion llesiant.  

A yw Cymru'n Decach? 2018 – Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol 

Mae fformat adroddiad diweddaraf y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, A yw Cymru'n Decach? 2018, yn amlinellu'r themâu a ganlyn.  Mae amcanion y cynllun wedi'u datblygu i gyd-fynd â'r themâu hyn; 

  • Addysg
  • Gwaith 
  • Safonau Byw
  • Iechyd
  • Cyfiawnder a Diogelwch Personol 
  • Cymryd Rhan 

Mae'r adroddiad yn sôn bod rhywfaint o gynnydd wedi'i wneud o ran gwneud Cymru'n decach, ond mae'n awgrymu bod llawer mwy o waith i'w wneud.  Ffocws allweddol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol fydd anfantais sosio-economaidd, anabledd, rhyw a hil a bydd y rhain yn cael eu hadlewyrchu yn Amcanion Cydraddoldeb Strategol y Cyngor ar gyfer 2020-2024.  

Wrth ddatblygu'n hamcanion cydraddoldeb, roedd A yw Cymru'n Decach? 2015 ac A yw Cymru'n Decach? 2018 yn hanfodol o ran ein harwain at yr amcanion cydraddoldeb rydyn ni'n ymgynghori yn eu cylch ac y manylir arnynt yn y ddogfen hon.  

Mae'r cynllun Gweithredu yn Adran 2 yn nodi sut y mae'r amcanion cydraddoldeb a'r camau gweithredu yn gysylltiedig â'r themâu a nodwyd yn adroddiad A yw Cymru'n Decach? 2018.

Er mwyn helpu i wella'r camau gweithredu blynyddol, rydym hefyd yn croesawu unrhyw sylwadau cyffredinol, parhaus ar gynnwys, ansawdd a hygyrchedd y ddogfen ac ar effaith y camau gweithredu hynny ar y bobl a wasanaethir gennym a'r bobl a gyflogir gennym.  

Os oes gennych unrhyw sylwadau neu os hoffech wybod mwy am y gwaith y mae'r Cyngor yn ei wneud, cysylltwch â:

Tîm Cydraddoldeb, y Gymraeg ac Ymgynghori 
Tŷ Penallta
Parc Tredomen
Ystrad Mynach
CF82 7PG
e-bost cydraddoldeb@caerffili.gov.uk 
ffôn 01443 864404

Deddfwriaeth

Deddf Cydraddoldeb 2010

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn dod â chyfreithiau gwrthwahaniaethu blaenorol ynghyd ac yn disodli'r cyfreithiau hynny, gan greu un Ddeddf.  Mae'r Ddeddf yn cynnwys Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, sydd wedi disodli'r holl ddyletswyddau unigol a oedd ar waith yn flaenorol, sef cydraddoldeb o ran hil, anabledd a rhyw.  Mae adran 149 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, sy'n gosod dyletswydd ar y Cyngor, a sefydliadau cyhoeddus eraill, i roi sylw dyladwy wrth wneud penderfyniadau a darparu gwasanaethau er mwyn sicrhau ein bod yn bodloni'r gofyniad i wneud y canlynol:

  • Dileu gwahaniaethu, aflonyddu a fictimeiddio ac ymddygiad arall anghyfreithlon a waherddir gan y Ddeddf.
  • Hybu cyfle cyfartal rhwng personau sy'n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a phersonau nad ydynt yn ei rhannu.
  • Meithrin cysylltiadau da rhwng personau sy'n rhannu nodwedd warchodedig a phersonau nad ydynt yn ei rhannu.

Wrth hybu cyfle cyfartal rhwng personau sy'n rhannu nodwedd warchodedig a phersonau nad ydynt yn ei rhannu, mae'n rhaid i ni hefyd sicrhau ein bod yn gwneud y canlynol;

  • Dileu a lleihau'r anfanteision a wynebir gan bobl oherwydd eu nodweddion gwarchodedig.
  • Cymryd camau i ddiwallu anghenion pobl o grwpiau gwarchodedig p'un a ydynt yn wahanol i anghenion pobl eraill ai peidio.
  • Annog pobl â nodweddion gwarchodedig i gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus neu mewn gweithgareddau eraill lle nad oes nifer cymesur ohonynt yn cymryd rhan.

Mae'r trydydd nod yn cyfeirio at feithrin cysylltiadau da ac mae hyn yn golygu mynd i'r afael â rhagfarn a hybu dealltwriaeth rhwng personau sy'n rhannu nodwedd warchodedig a phersonau nad ydynt yn ei rhannu.  Gallai hyn olygu o dan rai amgylchiadau y caiff rhai pobl eu trin yn fwy ffafriol nag eraill, ar yr amod bod hynny o fewn darpariaethau'r Ddeddf. 

Rhestrir naw nodwedd warchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010: 

  • Oed
  • Crefydd neu Gred 
  • Anabledd
  • Rhyw
  • Ailbennu Rhywedd
  • Cyfeiriadedd Rhywiol
  • Beichiogrwydd a Mamolaeth
  • Priodas a Phartneriaeth Sifil
  • Hil

Yng Nghymru, mae dyletswyddau statudol penodol arnom, sef rheoliadau sy'n nodi'r camau gweithredu y mae'n rhaid i'r Cyngor eu cymryd er mwyn cydymffurfio.  Cyhoeddwyd y Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011 gan Lywodraeth Cymru ym mis Ebrill 2011 ac maent yn cynnwys y meysydd canlynol; 

  • Amcanion Cydraddoldeb – llunio a chyhoeddi set o amcanion cydraddoldeb sy'n bodloni Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus.  
  • Ymgysylltu – cynnwys pobl sy'n cynrychioli un nodwedd warchodedig neu fwy ac y mae ganddynt ddiddordeb yn y ffordd y mae'r Cyngor yn ymgymryd â'i swyddogaethau.  
  • Asesiadau Effaith Cydraddoldeb – cynnal Asesiadau Effaith Cydraddoldeb a'u cyhoeddi ochr yn ochr ag adroddiadau y mae angen gwneud penderfyniadau yn eu cylch.  
  • Gwybodaeth am Gydraddoldeb – casglu a chyhoeddi gwybodaeth am gydraddoldeb sy'n sicrhau cydymffurfiaeth â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus.  
  • Gwybodaeth am Gyflogaeth – casglu a chyhoeddi data monitro'r gweithlu bob blwyddyn.  
  • Gwahaniaethau Cyflog – sicrhau bod gan y Cyngor amcan cydraddoldeb sy'n ymwneud yn benodol â gwahaniaethau cyflog rhwng y rhywiau.  
  • Hyfforddi Staff – hybu gwybodaeth a dealltwriaeth o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a'r dyletswyddau penodol yng Nghymru.  Defnyddio gweithdrefnau asesu perfformiad i nodi anghenion hyfforddi staff a'u diwallu.  
  • Cynllun Cydraddoldeb Strategol – cyhoeddi cynllun cydraddoldeb strategol sy'n nodi Amcanion Cydraddoldeb y Cyngor ar gyfer bodloni Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus.  
  • Caffael – wrth gaffael gwaith, nwyddau a gwasanaethau gan sefydliadau eraill, cynnwys amodau sy'n berthnasol i Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus fel rhan o'r prosesau caffael.  

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i sicrhau y caiff Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ei hystyried wrth ddarparu gwasanaethau ac ymgymryd â gweithgareddau.  Mae'r Ddeddf yn rhoi egwyddor datblygu cynaliadwy ar waith sy'n anelu at wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.  Bydd hyn yn ein helpu i greu Cymru yr ydym am fyw ynddi, nawr ac yn y dyfodol.

 

Er mwyn sicrhau bod pawb yn gweithio tuag at yr un weledigaeth, mae'r Ddeddf yn nodi saith nod llesiant, ac er y bydd cynllun Cydraddoldeb Strategol y Cyngor yn berthnasol i bob un o'r nodau llesiant, mae'r cynllun yn cefnogi cynnydd yn erbyn y 3 nod canlynol yn benodol:  

  • Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu
  • Cymru o gymunedau cydlynus
  • Cymru sy'n fwy cyfartal

Mae Egwyddor Datblygu Cynaliadwy'r Ddeddf yn rhoi gwybod i'r Cyngor beth i'w ystyried wrth gyflawni ei ddyletswyddau o dan y Ddeddf.  Wrth wneud penderfyniadau, mae'n rhaid i'r Cyngor ystyried yr effaith y gallai'r penderfyniad ei chael ar genedlaethau'r dyfodol.  Er mwyn gwneud hynny, nodwyd pum ffordd o weithio y mae'n rhaid eu hystyried a'u rhoi ar waith wrth wneud penderfyniadau, sef: 

  • Hirdymor: Pwysigrwydd sicrhau cydbwysedd rhwng anghenion tymor byr a’r angen am ddiogelu’r gallu i ddiwallu anghenion tymor hir hefyd
  • Atal: Sut gall gweithredu i atal problemau rhag digwydd neu waethygu helpu cyrff cyhoeddus i gyflawni eu hamcanion
  • Integreiddio: Ystyried sut gall amcanion llesiant y corff cyhoeddus effeithio ar bob un o’r nodau llesiant, ar bob un o’n hamcanion eraill, neu ar amcanion cyrff cyhoeddus eraill
  • Cydweithio: Gallai cydweithredu ag unrhyw berson arall (neu wahanol adrannau yn y corff ei hun) helpu’r corff i fodloni ei amcanion llesiant
  • Cynnwys: Pwysigrwydd cynnwys pobl sydd â diddordeb mewn cyflawni’r nodau llesiant, a sicrhau bod y bobl hynny’n adlewyrchu amrywiaeth yr ardal maent yn ei gwasnaethu 

Defnyddiwyd y pum ffordd o weithio i lywio amcanion cydraddoldeb y Cyngor. 

Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011

Cyflwynwyd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 i ddisodli Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 ac fel rhan o'r ddeddfwriaeth, yng Nghymru, mae gan y Gymraeg yr un statws cyfreithiol â'r Saesneg ac ni ddylid ei thrin yn llai ffafriol. 

Mae'n rhaid i gyrff cyhoeddus gydymffurfio â set genedlaethol o Safonau'r Gymraeg a gyhoeddwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg ar ffurf Hysbysiad Cydymffurfio i'r Cyngor.  Mae'r Hysbysiad Cydymffurfio yn nodi pa rai o'r 176 o safonau yn y ddeddfwriaeth sy'n gymwys i'r Cyngor, ynghyd ag unrhyw eithriadau a'u dyddiadau gweithredu. 

Nid yw materion y Gymraeg wedi'u cynnwys yn Neddf Cydraddoldeb 2010 ond, yn hytrach, mae ganddynt set o safonau o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011.  Cydnabuwyd ers amser bod yr agenda polisi cydraddoldeb ac agenda polisi'r Gymraeg yn ategu ei gilydd ac yn dylanwadu ar ei gilydd.  Atgyfnerthir hyn ymhellach gan un o nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 – Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu. 

Gwneir datblygiadau sy'n ymwneud â'r Gymraeg yn gorfforaethol yn unol â nodau'r Mesur, a wnaeth y canlynol: 

  • cadarnhau statws swyddogol y Gymraeg; 
  • creu system newydd o osod dyletswyddau ar gyrff i ddarparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg; 
  • creu Comisiynydd y Gymraeg â phwerau gorfodi cryf er mwyn amddiffyn hawliau siaradwyr Cymraeg i gael gafael ar wasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg; 
  • sefydlu Tribiwnlys y Gymraeg; 
  • rhoi'r hawl i unigolion a chyrff apelio yn erbyn penderfyniadau a wneir mewn perthynas â darparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg; 
  • creu Cyngor Partneriaeth y Gymraeg er mwyn cynghori'r Llywodraeth ar ei strategaeth mewn perthynas â'r Gymraeg; 
  • caniatáu i Gomisiynydd y Gymraeg gynnal ymchwiliadau swyddogol i achosion lle y ceir ymgais i ymyrryd â rhyddid siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio'r iaith gyda'i gilydd. 

O ganlyniad, cafodd y Gymraeg ei hintegreiddio i'r Amcanion a'r Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb a'r Gymraeg, a lluniwyd amcan cydraddoldeb corfforaethol penodol ar ei chyfer. 

Adran 2: Amcanion a Chynllun Gweithredu Cydraddoldeb Strategol 

Amcan Cydraddoldeb 1

Cynllunio a Darparu Gwasanaethau – Deall a dileu'r rhwystrau y mae pobl yn eu hwynebu wrth gyrchu gwasanaethau

Cyd-destun

Mae'r amcan hwn yn ffocysu ar ddarparu gwasanaethau hygyrch a chynhwysol i drigolion y fwrdeistref sirol.  Byddwn yn cyflawni hyn drwy barhau i ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaethau er mwyn nodi a dileu rhwystrau i wasanaethau. 

Gall y rhwystrau sy'n cael eu profi gan grwpiau ac unigolion gynnwys cael gafael ar wybodaeth mewn fformatau priodol i ateb eu hanghenion, anawsterau iechyd meddwl, trafnidiaeth, diweithdra neu mynediad i dechnoleg.  Dylai meysydd gwasanaeth roi cynlluniau a strategaethau ar waith ar y cyd er mwyn mynd i'r afael yn llwyddiannus â'r rhwystrau a nodwyd a'u dileu. 

Meysydd yr hoffem eu gwella yw addysg, iechyd a gwasanaethau iechyd meddwl, tai, gwasanaethau cymdeithasol a thrafnidiaeth. 

Grymuso grwpiau sydd â nodweddion gwarchodedig i allu cael gafael ar y gwasanaethau y mae nhw eu hangen yn ffocws allweddol i'r Cyngor. 

Themâu o 'A yw Cymru'n Decach? 2018' 

Addysg, Gwaith, Safonau Byw, Iechyd, Cyfiawnder a Diogelwch Personol, Cymryd Rhan 

Nodweddion Gwarchodedig Perthnasol 

OedOed, Anabledd, Ailbennu Rhywedd, Priodas a Phartneriaeth Sifil, Hil, Crefydd neu Gred, Rhyw, Cyfeiriadedd Rhywiol, Y Gymraeg 

Dogfennau Ategol 

Camau Gweithredu: 

  • Rhoi egwyddorion y Strategaeth Cwsmeriaid a Digidol ar waith 
  • Sicrhau bod ein staff yn meddu ar y sgiliau angenrheidiol i ddarparu gwasanaethau digidol 
  • Ymchwilio ac ystyried mabwysiadu symbol 'Communication Access' er mwyn sicrhau y caiff gwybodaeth ei darparu gan ddefnyddio gwahanol fformatau ac ieithoedd, gan gynnwys Iaith Arwyddion Prydain
  • Gwella sgiliau trigolion i alluogi nhw i ddefnyddio technoleg ddigidol yn well 
  • Nodi anghenion gwasanaeth grwpiau penodol o ddefnyddwyr; pa rwystrau sy'n eu hatal rhag defnyddio gwasanaethau; a pha gamau gweithredu sydd eu hangen er mwyn dileu'r rhwystrau hynny
  • Sicrhau fod gwefan a mewnrwyd y Cyngor yn hygyrch fel y gall pobl ag anableddau parhau i ymgysylltu
  • Gwella'r broses ar gyfer casglu a chofnodi gwybodaeth monitro cydraddoldebau ein trigolion ar draws gwasanaethau'r Cyngor 
  • Casglu gwybodaeth monitro cydraddoldebau ar gyfer canmoliaeth a chwynion 
  • Cynnal arolwg o stoc adeiladau'r Cyngor (ac ysgolion) mewn perthynas â hygyrchedd, gan ddefnyddio'r Grŵp Mynediad Lleol 
  • Cynnal arolwg o orsafoedd pleidleisio mewn perthynas â hygyrchedd, gan ddefnyddio'r Grŵp Mynediad Lleol 

Pam?

Cynhwysiant Digidol – Mae gwella sgiliau trigolion a staff yn golygu y byddant yn gallu defnyddio gwybodaeth a chael gafael ar wybodaeth ar ffurf ddigidol, gan ddileu nifer o rwystrau a galluogi trigolion i chwarae mwy o ran.  Mae hyn yn cynnwys defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol a rhwydweithio, y newyddion, manteisio ar gyfleoedd am swyddi, cyllid (bancio ar-lein), gwybodaeth am drafnidiaeth, opsiynau tai neu hyd yn oed brynu ar-lein.  Bydd sgiliau digidol yn galluogi trigolion a staff i ddod o hyd i fanylion am wasanaethau'r Cyngor, ac i gael gafael ar wybodaeth gyfredol am ddatblygiadau a all effeithio nhw, fel ymgyngoriadau, gwaith priffyrdd, digwyddiadau ac ati. 

Monitro Cydraddoldebau – Bydd gwella'r ffordd y caiff gwybodaeth monitro cydraddoldebau ei chasglu yn nodi problemau o fewn gwasanaethau, ac a yw trigolion â nodweddion gwarchodedig yn wynebu unrhyw broblemau neu'n cael gafael ar wasanaethau mewn ffordd gyfartal.  Bydd data monitro cydraddoldebau yn ein helpu i ddeall pwy yw ein cwsmeriaid a sut i deilwra ein gwasanaethau i ddiwallu eu hanghenion.  Bydd casglu'r data hyn ar gyfer canmoliaeth a chwynion yn helpu i nodi'r meysydd lle rydym yn gwneud yn dda a'r meysydd lle y mae angen i ni wella.  Bydd y wybodaeth hon yn golygu y byddwn yn gallu darparu mynediad cyfartal i wasanaethau a dileu'r rhwystrau a nodwyd. 

Hygyrchedd – Drwy gynnal arolwg o stoc adeiladau'r Cyngor, sy'n cynnwys ysgolion a gorsafoedd pleidleisio, gallwn nodi adeiladau lle ceir problemau hygyrchedd a gweithio i'w datrys.  Gall rhwystrau ffisegol fod yn gysylltiedig ag adeiladau, gan atal trigolion rhag cael gafael ar wasanaethau, er enghraifft, pleidleisio.  Dylid ystyried arwyddion clir, goleuadau a mynediad at wasanaethau fel rhan o'r thema hon.  Fel awdurdod, mae'n rhaid i ni sicrhau bod gennym aelodau o staff sy'n meddu ar y sgiliau iaith priodol i ragori ar ddisgwyliadau cwsmeriaid, ynghyd â gwybodaeth gadarn ac amrywiol am wasanaethau'r Cyngor. 

Amcan Cydraddoldeb 2

Addysg, Sgiliau a Chyflogaeth – Gwella cyfleoedd addysg i bawb

Cyd-destun

Prif nod yr amcan hwn yw sicrhau bod ein cymunedau mewn sefyllfa dda i sicrhau cyflogaeth gynaliadwy sy'n talu'n dda fel modd o atal tlodi.  Drwy sicrhau bod ein trigolion yn barod i fynd i'r amgylchedd gwaith, byddwn yn atal problemau hirdymor sy'n gysylltiedig â sgiliau isel ac anghyflogadwyedd. 

Bydd 'Gwella cyfleoedd addysg i bawb', yn unol â'r manylion yng Nghynllun Corfforaethol y Cyngor

yn cael ei gyflawni drwy ddefnyddio canlyniadau a nodir yn y Strategaeth Uchelgeisiau a Rennir 2019-2022.  Mae'r strategaeth hon yn amlinellu ymrwymiad y Cyngor i weithio gydag ysgolion a'r Gwasanaeth Cyflawni Addysg i wella cyrhaeddiad a chyflawniad addysgol. 

Bydd cynyddu nifer y trigolion sy'n manteisio ar addysg, hyfforddiant a chyflogaeth yn gyfraniad cadarnhaol at greu cymunedau cydlynol, gwydn a ffyniannus.  Mae'r agenda sgiliau yn holl bwysig o ran datblygiad economaidd a ffyniant economaidd y wlad, Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Bwrdeistref Sirol Caerffili. 

Bydd canolbwyntio ar leihau nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant, dileu'r bwlch anweithgarwch economaidd; nodi'r bylchau a'r prinderau o ran sgiliau mewn sectorau blaenoriaeth, cynyddu nifer y prentisiaethau a gwella eu hansawdd a barn pobl amdanynt fel llwybr tuag at gyflogaeth â chyflog da, yn allweddol i hyn. 

Themâu o 'A yw Cymru'n Decach? 2018' 

Addysg, Gwaith, Safonau Byw, Iechyd, Cyfiawnder a Diogelwch Personol, Cymryd Rhan

Nodweddion Gwarchodedig Perthnasol 

Oed, Anabledd, Ailbennu Rhywedd, Hil, Crefydd neu Gred, Rhyw, Cyfeiriadedd Rhywiol, y Gymraeg

Dogfennau Ategol 

Camau Gweithredu: 

  • Gwella sgiliau trigolion drwy gynnig cyfleoedd i ennill cymwysterau a chymorth i gael gafael ar gyflogaeth 
  • Datblygu cymorth i'r sector Addysg Gymunedol i Oedolion er mwyn cynnig cyrsiau llythrennedd digidol a fydd yn cefnogi rhaglenni cyflogadwyedd lleol 
  • Anelu at leihau effaith tlodi drwy helpu trigolion i fanteisio ar gyfleoedd ac amodau cyflogaeth gwell 
  • Cyrraedd y targedau a nodwyd yn y rhaglenni cyflogadwyedd lleol drwy wella sgiliau trigolion a'u helpu i ddod o hyd i swyddi â chyflog da 
  • Drwy fuddsoddi yn ein stoc addysgol a'n stoc tai, a chynnig prentisiaethau, cyfleoedd hyfforddi a lleoliadau gwaith yn ein sefydliad, byddwn yn cynyddu nifer y trigolion lleol sy'n weithwyr medrus a chymwys ac yn cyfrannu at sicrhau Budd i'r Gymuned 
  • Parhau i ddatblygu dull gweithredu cynhwysol ar gyfer prentisiaethau

Pam?

Cyfleoedd o ran Sgiliau a Chyflogaeth - Drwy fynd i'r afael ag achosion tlodi a sicrhau bod ein rhaglenni grant gwrth-dlodi yn cydweithio, byddwn yn gallu cynnig y cymorth gorau posibl i'r unigolion mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau.  Bydd cynyddu nifer y trigolion sy'n manteisio ar addysg, hyfforddiant a chyflogaeth yn gyfraniad cadarnhaol at greu cymunedau cydlynol, gwydn a ffyniannus, gan felly wella ansawdd bywyd ac iechyd y rheini sy'n byw yn y fwrdeistref sirol.  

Cyfleoedd Addysg – Mae'r Cyngor wedi rhestru ‘Gwella cyfleoedd addysgol i bawb’ fel ei Amcan Llesiant cyntaf, ac wedi rhoi Strategaeth Uchelgeisiau a Rennir ar waith er mwyn ymgymryd â'r gwaith hwn.  Fel awdurdod, rydym wedi ymrwymo i raglen uchelgeisiol o fuddsoddi yn ysgolion yr 21ain ganrif.  Cyflawnwyd rhaglen Band A Ysgolion yr 21ain Ganrif yn unol â'r amserlen a'r gyllideb berthnasol.  Nodwyd dau brosiect cyntaf y rhaglen Band B, sydd yr un mor uchelgeisiol, a byddant yn helpu'r Awdurdod i ddiwallu anghenion ei ddysgwyr mwyaf agored i niwed a'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg. 

Trafnidiaeth – Mae Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn rhaglen fuddsoddi uchelgeisiol.  Fe'i dyluniwyd i ddatblygu seilwaith a chysylltedd trafnidiaeth, yn ogystal â chreu cyfleoedd cyflogaeth a phrentisiaethau er mwyn hybu cyfleoedd adfywio lleol a rhanbarthol mewn modd cadarnhaol.  Os bydd y seilwaith trafnidiaeth yn diwallu anghenion unigolion sy'n awyddus i fanteisio ar gyfleoedd addysg, hyfforddiant a chyflogaeth, bydd hyn yn hybu ffyniant ac yn gwella cydlyniant cymunedol. 

Amcan Cydraddoldeb 3

Cydlyniant Cymunedol – Hybu a hwyluso cymunedau cynhwysol a chydlynol 

Cyd-destun

Disgrifir cydlyniant cymunedol, fel y'i diffinnir yn nogfen Llywodraeth Cymru Cydlyniant Cymunedol: Cynllun Cyflawni Cenedlaethol 2014-2016 (y ddogfen ddiweddaraf), fel gallu pob cymuned i weithredu a thyfu mewn cytgord gyda'i gilydd yn hytrach nag mewn gwrthdaro.  Y nod yw adeiladu cymunedau lle mae pobl yn teimlo'n hyderus eu bod yn perthyn ac yn gyfforddus yn cymysgu ac yn rhyngweithio ag eraill, yn enwedig gyda phobl wahanol a phobl sydd â nodweddion gwarchodedig gwahanol. 

Mae Caerffili yn mabwysiadu'r egwyddorion mai ystyr cymuned gydlynol yw cymuned: 

  • lle ceir gweledigaeth gyffredin ac ymdeimlad o berthyn i bob cymuned; 
  • lle y caiff amrywiaeth cefndiroedd ac amgylchiadau pobl ei gwerthfawrogi a'i hystyried mewn modd cadarnhaol; 
  • lle caiff y rheini o wahanol gefndiroedd gyfleoedd tebyg mewn bywyd; 
  • lle y caiff cydberthnasau cadarn a chadarnhaol eu meithrin rhwng pobl o wahanol gefndiroedd ac amgylchiadau yn y gweithle, mewn ysgolion ac mewn cymdogaethau. 

Wrth gyfeirio at 'gymunedau', rydym yn aml yn disgrifio ardal ddaearyddol, ond gellir defnyddio'r term cymuned hefyd i ddiffinio unigolion sy'n rhannu nodwedd warchodedig (er enghraifft, ethnigrwydd neu ddiwylliant, grŵp oedran, crefydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol, iaith, rhywedd) neu ddiddordebau. 

Themâu o 'A yw Cymru'n Decach? 2018' 

Addysg, Gwaith, Safonau Byw, Iechyd, Cyfiawnder a Diogelwch Personol, Cymryd Rhan

Nodweddion Gwarchodedig Perthnasol 

Oed, Anabledd, Ailbennu Rhywedd, Priodas a Phartneriaeth Sifil, Beichiogrwydd a Mamolaeth, Hil, Crefydd neu Gred, Rhyw, Cyfeiriadedd Rhywiol, y Gymraeg 

Dogfennau Ategol 

Camau Gweithredu:

  • Codi proffil y broses o roi gwybod am ddigwyddiadau gwahaniaethol mewn ysgolion drwy gynnig hyfforddiant pellach i staff 
  • Esblygu'r dull integredig rhanbarthol, i wella iechyd a lles unigolion a theuluoedd sy'n destun trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
  • Annog gwaith amrywiaeth cymunedol gyda gwasanaethau a phartneriaid er mwyn dathlu cydraddoldeb gwahaniaethau drwy hyrwyddo dyddiadau i'w cofio a'u dathlu (h.y. Wythnos Ymwybyddiaeth Ffoaduriaid, Diwrnod Cofio'r Holocost, Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb) 
  • Ymgysylltu – datblygu panel trigolion o gymunedau lleiafrifol fel ffordd o wella'r broses o ymgysylltu â lleisiau na chaiff eu clywed cymaint 
  • Bydd y tîm cydlyniant cymunedol yn gweithio gyda'r AALl a phartneriaid i ddatblygu gwell arferion cydraddoldeb a mwy o waith gwrthwahaniaethu mewn ysgolion.  (Bydd hyn yn cynnwys hyfforddi staff, codi proffil y broses o roi gwybod am ddigwyddiadau gwahaniaethol, cymorth i ysgolion ddatblygu gwaith i gynnwys cydraddoldebau yn y cwricwlwm drwy weithdai i ysgolion a phrosiect cyfnewid i ysgolion a fydd yn cysylltu ysgol leol ag ysgol mewn ardal wahanol a chyferbyniol) 
  • Ymgysylltu â gwladolion o'r UE mewn perthynas â'r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE 
  • Monitro tensiynau cymunedol – cysylltu â Phartneriaid a chymryd camau rhagweithiol i atal tensiynau rhag gwaethygu yn y gymuned 
  • Parhau i gefnogi cyfranogiad yr ALl â Chynllun Ailsefydlu y DU

Pam?

Mae'r trafodaethau gwleidyddol cyfredol yn dilyn Brexit, mewn rhai rhanbarthau, wedi cael effaith sylweddol ar gydlyniant cymunedol - ac mae'r cynnydd cenedlaethol yn nifer y troseddau casineb a gofnodwyd yn dilyn refferendwm 2016 yn dystiolaeth bellach o'r rhaniad o fewn rhai cymunedau.  Mae ymdrin â'r rhaniad hwn a chynnig cyfle cyfartal i bob trigolyn, ni waeth beth fo'i nodwedd warchodedig, yn hanfodol er mwyn sicrhau bod Caerffili yn annog cydberthnasau cadarnhaol o fewn cymunedau a rhwng cymunedau. 

Cydlyniant Cymunedol – Mae Cymru o gymunedau cydlynus yn un o saith nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ac mae'n sicrhau bod cydlyniant yn parhau wrth wraidd dull gweithredu'r Cyngor a chyrff cyhoeddus eraill wrth roi polisïau ar waith a darparu gwasanaethau nawr ac yn y dyfodol.  Mae'r Ddeddf a Chynllun Cyflawni Cenedlaethol Llywodraeth Cymru yn gweithio law yn llaw, gan ddilyn yr un egwyddorion o ran integreiddio, cydweithio a chyfranogiad, a chan sicrhau bod polisïau a gwasanaethau yn parhau'n ymatebol i anghenion lleol. Mae'r Cynllun Cyflawni yn gydnaws â Chynllun Cydraddoldeb Strategol Llywodraeth Cymru, ac yn dangos sut y byddwn yn parhau i feithrin cysylltiadau da a mynd i'r afael ag anghydraddoldeb hirsefydledig yn ein cymunedau. 

Amcan Cydraddoldeb 4

Ymgysylltu Cynhwysol a Chymryd Rhan – Ymgysylltu â thrigolion i'w hannog i gymryd rhan a lleisio barn wrth gynllunio darpariaeth gwasanaethau 

Cyd-destun

Mae'n hanfodol bod gwybodaeth ar gael mewn gwahanol fformatau er mwyn sicrhau bod yr holl drigolion yn gallu cymryd rhan mewn unrhyw ymarferion ymgysylltu neu bob un ohonynt.  Bydd datblygiadau technoleg yn ein galluogi i ddarparu gwybodaeth ar fformatau digidol, ond mae rhwystrau o hyd sy'n atal trigolion rhag ymgysylltu.  Mae trafnidiaeth, iechyd meddwl, statws sosio-economaidd, sgiliau llythrennedd a rhifedd isel ac anawsterau penodol sydd gan grwpiau anodd eu cyrraedd neu grwpiau nad ydyn nhw'n cael eu clywed yn aml, ymysg y rhwystrau sy'n dal i atal trigolion rhag ymgysylltu â'r Cyngor a gwasanaethau cymorth ehangach. 

Caiff yr amcan hwn ei adlewyrchu yn un o'n Hamcanion Corfforaethol sy'n ystyried sut y gallwn 'Cynorthwyo trigolion i aros yn annibynnol a gwella eu llesiant'.  Mae'n cynnwys helpu pobl i helpu eu hunain drwy ddarparu cyngor ac arweiniad cynhwysfawr, gan gynnwys eu cyfeirio at wasanaethau eraill.  Mae'n golygu cael sgyrsiau ystyrlon gyda phobl i'w helpu i nodi'r hyn sy'n bwysig iddynt, a fydd yn bwydo gwasanaethau sy'n addas i'w hanghenion. 

Themâu o 'A yw Cymru'n Decach? 2018' 

Addysg, Gwaith, Safonau Byw, Iechyd, Cyfiawnder a Diogelwch Personol, Cymryd Rhan

Nodweddion Gwarchodedig Perthnasol 

Oed, Anabledd, Ailbennu Rhywedd, Priodas a Phartneriaeth Sifil, Beichiogrwydd a Mamolaeth, Hil, Crefydd neu Gred, Rhyw, Cyfeiriadedd Rhywiol, Y Gymraeg

Dogfennau Ategol 

Camau Gweithredu: 

  • Helpu trigolion i 'helpu eu hunain' drwy ddarparu cyngor ac arweiniad cynhwysfawr, gan gynnwys eu cyfeirio at wasanaethau eraill 
  • Cynnal 'sgyrsiau ystyrlon' er mwyn helpu trigolion i nodi beth sy'n bwysig iddynt er mwyn llywio gwaith cynllunio sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau 
  • Nodi gofalwyr a'u cefnogi 
  • Cynnwys y Fframwaith Ymgynghori ac Ymgysylltu ym mhob ymarfer ymgynghori a gynhelir gan wasanaethau'r Cyngor 
  • Nodi anghenion gwasanaeth grwpiau ddefnyddwyr penodol; pa rwystrau sy'n eu hatal rhag defnyddio gwasanaethau; a pha gamau gweithredu sydd eu hangen er mwyn dileu'r rhwystrau hynny
  • Adolygu a diweddaru ein grwpiau rhanddeiliaid allweddol yn y fwrdeistref sirol sy'n cynrychioli grwpiau â nodweddion gwarchodedig
  • Adolygu ac atgyfnerthu prosesau mewnol ar gyfer cynnal Asesiadau Effaith Cydraddoldeb a gwaith ymgynghori cysylltiedig
  • Sicrhau bod gweithgareddau sy'n ymwneud â newid a thrawsnewid gwasanaethau yn cynnwys egwyddorion ymgynghori da â chymunedau fel rhan o 'Drafodaeth Caerffili' 

Pam?

Cyfathrebu a Hygyrchedd – Mae angen i ni helpu trigolion i wella eu sgiliau a chaffael sgiliau digidol er mwyn cael gafael ar wybodaeth a chymryd rhan mewn gweithgareddau ar-lein.  Dylid darparu'r wybodaeth a ddarperir gennym ar ffurf hawdd ei deall sy'n defnyddio iaith syml.  Mae angen i ni ystyried sut rydym yn ymgysylltu ac yn ymgynghori â thrigolion drwy grwpiau ffocws a'r Panel Safbwynt a chynyddu cyfranogiad a sicrhau eu bod yn cynrychioli unigolion â nodweddion gwarchodedig. 

Llais – Ymgynghori'n uniongyrchol â grwpiau rhanddeiliaid allweddol er mwyn ymgynghori wyneb-yn-wyneb.  Bydd defnyddio dulliau cydgynhyrchu yn helpu i feithrin cydberthnasau â thrigolion, lle y byddant yn teimlo y gallant ddylanwadu ar benderfyniadau a gwneud penderfyniadau am y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt.  Bydd hefyd yn meithrin ymddiriedaeth ac yn grymuso'r cyhoedd i gymryd rhan wrth ddylunio a darparu gwasanaethau. 

Dileu Rhwystrau – Ystyried Egwyddorion Gunning wrth gynllunio unrhyw waith ymgynghori.  Cynllunio digon o amser ar gyfer ymarferion ymgynghori a darparu gwybodaeth ddigonol sy'n galluogi pobl i wneud penderfyniadau gwybodus / ymateb gan wybod y ffeithiau. 

Amcan Cydraddoldeb 5

Y Gymraeg – Sicrhau y gall y cyhoedd sy'n siarad Cymraeg gael mynediad i wasanaethau sy'n cydymffurfio â'r gofynion statudol 

Cyd-destun

Nid yw materion y Gymraeg wedi'u cynnwys yn Neddf Cydraddoldeb 2010 ond mae ganddynt set o safonau o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011.  Manylir rhain yn y rheoliadau a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru fel Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 1) 2015.

Mae arferion gweithio mewnol yn dal i ddatblygu i sicrhau bod yr egwyddor o gydraddoldeb ieithyddol yn cael ei pharchu ym mhob agwedd ar ddarparu gwasanaethau.  I helpu'r Cyngor i fodloni gofynion Safonau'r Gymraeg ac i ateb anghenion y boblogaeth sy'n siarad Cymraeg yn y fwrdeistref sirol, rydym yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau fel; Menter Iaith Caerffili, Fforwm Iaith, ysgolion cyfrwng Cymraeg ac ati.  Manylir ar y gwaith hwn yn strategaeth y fwrdeistref sirol Strategaeth Cymraeg Pum Mlynedd 2017-2022

Rhaid inni gydymffurfio â'r holl Safonau Cymraeg y cytunwyd arnynt, yn unol â'r manylion yn Hysbysiad Cydymffurfio'r Cyngor er mwyn sicrhau bod modd i'r boblogaeth Gymraeg ei hiaith, boed yn staff, yn drigolion, yn fyfyrwyr neu'n ymwelwyr, gael gwasanaethau'r Cyngor yn Gymraeg. 

Themâu o 'A yw Cymru'n Decach? 2018' 

Addysg, Gwaith, Safonau Byw, Iechyd, Cyfiawnder a Diogelwch Personol, Cymryd Rhan

Nodweddion Gwarchodedig Perthnasol 

Oed, Anabledd, Ailbennu Rhywedd, Priodas a Phartneriaeth Sifil, Beichiogrwydd a Mamolaeth, Hil, Crefydd neu Gred, Rhyw, Cyfeiriadedd Rhywiol, y Gymraeg

Dogfennau Ategol 

Camau Gweithredu: 

  • Gwella ymwybyddiaeth ymhlith yr aelodau o staff a ddaw i gysylltiad â phlant a phobl ifanc bod angen iddynt feithrin agweddau cadarnhaol tuag at y Gymraeg 
  • Datblygu sgiliau arwain dwyieithog ymhlith pobl ifanc er mwyn eu helpu i ddod yn hyrwyddwyr iaith cymunedol yn eu cymunedau
  • Hybu’r gwasanaethau dwyieithog sydd ar gael drwy sicrhau bod siaradwyr a dysgwyr Cymraeg o fewn meysydd gwasanaeth yn gwisgo laniardau / bathodynnau priodol 
  • Cefnogi'r broses o ddatblygu cyfeiriadur o'r gwasanaethau cyfrwng Cymraeg sydd ar gael yn lleol a’u hybu 
  • Sicrhau bod digwyddiadau a gweithgareddau cyfrwng Cymraeg yn rhan o raglen digwyddiadau cymunedol y Cyngor 
  • Hybu'r Gymraeg fel amcan cydnabyddedig i reolwyr, i galluogi nhw i fapio darpariaeth Gymraeg ym mhob rhan o'u maes gwasanaeth a chynyddu gallu lle y bo angen 
  • Ystyried yr effaith ar y Gymraeg wrth gynllunio datblygiadau tai, yn arbennig lleoedd mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, enwau strydoedd ac ati 
  • Sicrhau bod gwefan y Cyngor yn gwbl ddwyieithog ac y caiff y tudalennau eu monitro a'u diweddaru yn y ddwy iaith, ar sail rhaglen dreigl 
  • Sicrhau fod gan Fewnrwyd y cyngor ryngwyneb a bwydlenni Cymraeg yn unol â Safon 126
  • Creu ymgyrch i ddenu trigolion ifanc sy'n siarad Cymraeg i rolau arwain mewn gwaith ieuenctid, chwaraeon a gweithgareddau celf
  • Gweithio gyda phobl ifanc i wella ymwybyddiaeth o'r Gymraeg fel sgil werthfawr o ran hyfforddiant a chyflogaeth 
  • Cynnal ffair swyddi Cymraeg flynyddol i wella ymwybyddiaeth o werth yr iaith ym myd gwaith yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, a'r gallu i gysylltu â'r Cyngor yn Gymraeg dros y ffôn, wyneb-yn-wyneb ac wrth ohebu'n ysgrifenedig 

Pam?

Cyfathrebu a Hygyrchedd – Mae'n rhaid sicrhau bod gwybodaeth ar gael yn ddwyieithog fel sy'n ofynnol gan Safonau'r Gymraeg.  Byddwn yn ystyried anghenion siaradwyr a dysgwyr Cymraeg wrth ddarparu unrhyw ohebiaeth.  Wrth ymgynghori â thrigolion a darparu gwasanaethau rheng flaen, mae'n rhaid sicrhau bod staff yn meddu ar y sgiliau Cymraeg gofynnol i ddarparu gwasanaethau fel sy'n ofynnol gan Safonau'r Gymraeg.  Drwy roi cyhoeddusrwydd i wasanaethau dwyieithog y Cyngor, byddwn yn cynyddu'r galw am y gwasanaethau hynny ac yn cyflawni ein rhwymedigaethau o dan Strategaeth Cymraeg Pum Mlynedd y fwrdeistref sirol a Miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 Llywodraeth Cymru. 

Llais – Ymgysylltu ac ymgynghori â grwpiau a sefydliadau Cymraeg lleol, fel Fforwm y Gymraeg, Menter Iaith Caerffili, yr Urdd ac ati.  Annog trigolion sy'n siarad Cymraeg i ymaelodi â Phanel Safbwynt y Cyngor er mwyn sicrhau ei fod yn gynrychioliadol.  Bydd dulliau cydgynhyrchu yn helpu i feithrin cydberthnasau â siaradwyr a dysgwyr Cymraeg er mwyn iddynt deimlo y gallant ddylanwadu ar benderfyniadau a gwneud penderfyniadau am y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt.  Gallant hefyd helpu'r Cyngor i nodi enghreifftiau o arferion da a meysydd lle mae angen gwella. 

Dileu Rhwystrau – Bydd gweithio mewn partneriaeth â grwpiau a sefydliadau cyfrwng Cymraeg yn ein helpu i gyfathrebu â chynulleidfa ehangach.  Bydd yn ein helpu i ddarparu gwasanaethau i aelodau o'n cymuned, sydd o bosibl o'r farn nad yw'r Cyngor yn darparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg.  Dylai meysydd gwasanaeth fwrw ati i roi cyhoeddusrwydd i'r gwasanaethau dwyieithog sydd ar gael, gan sicrhau bod siaradwyr a dysgwyr Cymraeg yn teimlo'n rhan o'r gymuned y maent yn byw ynddi ac y gallant gael gafael ar wasanaethau gan ddefnyddio eu dewis iaith heb orfod gofyn am wneud hynny. 

Amcan Cydraddoldeb 6

Gweithlu Cynhwysol, Amrywiol a Chyfartal – Creu gweithlu sy'n adlewyrchu ac yn parchu amrywiaeth y cymunedau yn y fwrdeistref sirol 

Cyd-destun

Mae creu gweithle sy'n ddiogel a chynhwysol yn hybu amgylchedd gwaith cadarnhaol lle mae'r staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u grymuso, sy'n eu galluogi i roi gwasanaethau o safon i'n trigolion. 

Mae arnon ni angen gwell dealltwriaeth o amrywiaeth ein gweithlu.  I wneud hyn, mae'n hanfodol casglu data monitro cydraddoldeb.  Rhaid casglu'r data ar ddechrau'r broses gyflogi a'u glanhau a'u diweddaru'n rheolaidd. 

Mae tegwch yn y gwaith a pherfformiad da yn y swydd yn mynd law yn llaw.  Mae mynd i'r afael â gwahaniaethu yn helpu i ddenu, ysgogi a chadw staff ac yn gwella enw da sefydliad fel cyflogwr cynhwysol. 

Mae hyfforddiant mewn cydraddoldeb a hyfforddiant Cymraeg yn rhoi'r sgiliau a'r ddealltwriaeth y mae ar y staff eu hangen i ymgysylltu'n sensitif â thrigolion.  Mae gwella sgiliau'r staff fel eu bod yn ymwybodol o nodweddion gwarchodedig yn sicrhau bod trigolion ag anghenion penodol yn cael gwasanaethau sy'n hygyrch ac sy'n cydymffurfio â'r gofynion.  

Themâu o 'A yw Cymru'n Decach? 2018' 

Addysg, Gwaith, Safonau Byw, Iechyd, Cyfiawnder a Diogelwch Personol, Cymryd Rhan

Nodweddion Gwarchodedig Perthnasol 

Oed, Anabledd, Ailbennu Rhywedd, Priodas a Phartneriaeth Sifil, Beichiogrwydd a Mamolaeth, Hil, Crefydd neu Gred, Rhyw, Cyfeiriadedd Rhywiol, Y Gymraeg

Dogfennau Ategol 

Camau Gweithredu: 

  • Datblygu hyfforddiant cydraddoldeb ar-lein a fydd yn orfodol i bob aelod o staff a phob aelod etholedig
  • Gweithredu'r Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
    • % y gweithlu sydd wedi cwblhau hyfforddiant Ymwybyddiaeth Sylfaenol (Grŵp 1) / Nifer y staff wedi cwblhau hyfforddiant Ymwybyddiaeth Sylfaenol (Grŵp 1)
    • % y staff a nodwyd sydd wedi cwblhau hyfforddiant ‘Ask and Act’ (Grŵp 2)
    • % y staff a nodwyd sydd wedi cwblhau Hyfforddiant Pellach (Grŵp 3)
    • Gweithredu hyfforddiant Gloywi pan fydd ar gael ac yn briodol
  • Hyderus o ran Anabledd – gwella ein safon 
  • Sicrhau cydymffurfiaeth â Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011 ac annog unigolion i ddatgelu eu statws 
  • Ailsefydlu ein haelodaeth er mwyn cefnogi Mynegai Hyrwyddwyr Amrywiaeth yn y Gweithle Stonewall 
  • Cydweithio er mwyn datblygu'r brand 'Cynghorau Balch' i gefnogi digwyddiadau Pride 
  • Sicrhau bod hyfforddiant Cymraeg priodol ar gael i staff, o lefel sylfaenol hyd at lefel uwch 
  • Darparu cyfleoedd i staff wella eu sgiliau Cymraeg presennol er mwyn eu defnyddio ar gyfer busnes 
  • Darparu cyfleoedd i staff sy'n siarad Cymraeg a dysgwyr i ddefnyddio eu sgiliau iaith yn y gweithle 

Pam?

Gweithlu – Mantra Stonewall Cymru yw bod 'pobl yn perfformio'n well pan maen nhw'n gallu bod yn nhw eu hunain'.  Rydym hefyd o'r farn, er mwyn cael y gorau o'n cyflogeion ac er mwyn sicrhau eu bod yn darparu'r gwasanaethau gorau i'n trigolion, fod yn rhaid i ni feithrin diwylliant diogel a chynhwysol yn y gweithle.  Bydd annog mwy o unigolion i ddatgelu eu statws yn cefnogi ein proses monitro cydraddoldeb ac yn rhoi gwell dealltwriaeth i ni o amrywiaeth ein gweithlu. 

Stonewall Cymru – Byddwn yn parhau i weithio gyda Stonewall Cymru i ailsefydlu ein haeleodaeth a'n statws yn y Mynegai Hyrwyddwyr Amrywiaeth yn y Gweithle. 

Hyderus o ran Anabledd – Rydym yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd ar hyn o bryd.  Bydd cyrraedd statws achredu Lefel 3 o ran gweithredu fel hyrwyddwr Hyderus o ran Anabledd yn ein helpu i fynegi mewn ffordd dryloyw ein hymrwymiad i helpu i recriwtio, cadw a datblygu pobl anabl sy'n cefnogi ein gwasanaethau i gyflawni a llwyddo fel cyflogeion gwerthfawr.  Wrth gael ein cydnabod fel Arweinydd Hyderus o ran Anabledd, gallwn gael cydnabyddiaeth gan staff anabl yn ein busnes, pobl anabl y tu allan i'n busnes, ein cwsmeriaid a'r gymuned ehangach, drwy gofnodi anableddau, iechyd meddwl a llesiant yn y Cyngor a chyflwyno adroddiadau tryloyw mewn perthynas â hynny.  

Amcan Cydraddoldeb 7

Lleihau'r Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau 

Cyd-destun

Mae'n ofynnol inni edrych ar wahaniaethau cyflog rhwng y rhywiau yn y Cyngor a nodi amcan a fydd yn mynd i'r afael ag unrhyw wahaniaeth a welir. 

O dan Reoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol)(Cymru) 2011 mae'n ofynnol i'r Cyngor gasglu a chyhoeddi data cyflogaeth blynyddol ar draws nifer o nodweddion gwarchodedig.  Dim ond mewn perthynas â menywod a dynion y dylid dadansoddi gwybodaeth am nifer y bobl a gyflogir gan y cyngor, wedi'i threfnu yn ôl swydd, tâl, math o gontract a phatrwm gweithio.  Yn ogystal, rhaid i'r Cyngor gyhoeddi data ar wahaniaethau cyflog a'u hachosion, rhwng gweithwyr sydd â nodweddion gwarchodedig a hebddynt.

Fel Cyngor, rydym yn hyderus nad yw ein bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn deillio o dalu gweithwyr gwrywaidd a benywaidd yn wahanol am yr un gwaith neu waith cyfatebol.  Mae'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn deillio o'r rolau y mae dynion a menywod yn gweithio ynddyn nhw ar hyn o bryd a'r cyflogau y mae'r rolau hyn yn eu denu. 

Mae'n bwlch cyflog ni rhwng y rhywiau yn adlewyrchu achosion y bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar lefel y gymdeithas.  Er enghraifft, mae ymchwil yn dangos bod cyfrifoldeb gofal plant yn dal i ddisgyn yn anghymesur ar fenywod, er bod rhieni'n gynyddol hyblyg.  Y ffaith amdani yn y data hyn yw bod y mwyafrif mawr o swyddi rhan-amser yn cael eu dal gan fenywod ac mai'r rhain yw'r swyddi sy'n denu cyflogau yn y chwarteli isaf. 

Themâu o 'A yw Cymru'n Decach? 2018' 

Addysg, Gwaith, Safonau Byw, Iechyd, Cymryd Rhan 

Nodweddion Gwarchodedig Perthnasol 

Oed, Priodas a Phartneriaeth Sifil, Beichiogrwydd a Mamolaeth, Rhyw 

Dogfennau Ategol 

Camau Gweithredu: 

  • Adolygu'r data sy'n ymwneud â'r gweithlu a phennu'r camau gweithredu sydd eu hangen i gyflawni'r ddyletswydd gyffredinol fel y'i nodir yn Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011 
  • Cyhoeddi gwybodaeth am gyflogaeth fel sy'n ofynnol o dan Reoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol)(Cymru) 2011
  • Defnyddio proses arfarnu Fy Amser i ddatblygu staff benywaidd 
  • Gwella ymwybyddiaeth o gyfleoedd swyddi a chyfleoedd busnes ymhlith grwpiau anhraddodiadol (h.y. peidio â chysylltu swyddi â rhyw benodol mewn ffordd ystrydebol) 
  • Adolygu a diweddaru polisïau adnoddau dynol yn rheolaidd er mwyn cynnwys materion fel gweithio'n hyblyg, gweithio'n rhan amser neu opsiynau rhannu swydd, absenoldeb rhiant a rennir ac ati. 

Pam?

Mae cyflwyno adroddiadau ar fylchau cyflog rhwng y rhywiau yn ein helpu i ddeall graddau ac achosion ein bylchau cyflog a nodi unrhyw faterion y mae angen ymdrin â nhw. 

Nid yw'r ffaith bod bwlch cyflog rhwng y rhywiau o reidrwydd yn golygu bod achos o wahaniaethu rhwng y rhywiau.  Bydd cyhoeddi a monitro bylchau cyflog yn ein helpu i ddeall y rhesymau dros unrhyw fylchau cyflog ac ystyried a oes angen i ni ddatblygu cynllun gweithredu er mwyn mynd i'r afael â'r achosion.  Er enghraifft, os bydd gwaith dadansoddi yn dangos dosbarthiad anghyfartal o ddynion a menywod mewn swyddi a bod menywod wedi'u gorgynrychioli mewn swyddi â chyflogau is. 

Adran 3: Datblygu Amcanion Cydraddoldeb A'r Broses Ymgysylltu 

Y Gaerffili a Garem 2018-2023 – Cynllun Llesiant – Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerffili 

Ers dwy flynedd bellach, mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerffili, ei bartneriaid a rhanddeiliaid, trigolion a chymunedau, wedi bod yn cydweithio i asesu llesiant bwrdeistref sirol Caerffili a datblygu cyfres o amcanion a rennir er mwyn gwella llesiant dros y pum mlynedd nesaf. 

Mae'r Cynllun Llesiant ‘Y Gaerffili a Garem 2018-2023 ’ yn nodi beth y bydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn ei gyflawni ar y cyd â'r sector statudol, y sector preifat a'r trydydd sector, ynghyd â'n cymunedau. 

Dyma'r cynllun cyntaf ar gyfer yr ardal, ac mae'n anelu at gyflawni gwelliannau hirdymor o ran llesiant.  Mae'n cynnwys 4 amcan lefel uchel: 

  • Newid Cadarnhaol – Ymrwymiad ar y cyd i wella'r ffordd rydym yn gweithio gyda'n gilydd
  • Dechrau Cadarnhaol – Rhoi'r dechrau gorau mewn bywyd i genedlaethau'r dyfodol
  • Pobl Gadarnhaol – Grymuso a galluogi ein holl drigolion i gyflawni eu potensial eu hunain
  • Lleoedd Cadarnhaol – Galluogi ein cymunedau i fod yn wydn ac yn gynaliadwy

Mae'r Cynllun Llesiant a'i Gynllun Cyflawni yn dangos sut mae'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi dewis ei amcanion a'r camau y mae'n bwriadu eu cymryd i'w cyflawni. 

Datblygwyd y cynllun gan ddefnyddio amrywiaeth helaeth o ddata ac ymatebion ymgynghori ac mae'n nodi gweithgarwch ar gyfer cyfnod 5 mlynedd y cynllun.  Wrth wneud hynny, blaenoriaethwyd y gweithgarwch a gynlluniwyd er mwyn manteisio i'r eithaf ar adnoddau cyfunol a sicrhau'r cyfraniad mwyaf posibl at y nodau llesiant cenedlaethol i Gymru. 

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 

Daeth y Ddeddf i rym ym mis Ebrill 2016 ac mae'n golygu bod yn rhaid i gynghorau ddarparu gwybodaeth, cymorth a gwasanaethau yn y ffordd a nodir yn y Ddeddf.  Mae'r Ddeddf yn rhoi mwy o gyfle i unigolion a'u gofalwyr leisio barn ar y gofal a'r cymorth a gânt.  Er mwyn helpu pobl i gyflawni llesiant, byddant yn gwneud penderfyniadau am eu gofal a'u cymorth mewn partneriaeth gyfartal â gweithwyr proffesiynol.  I'w helpu i wneud hynny, bydd gwybodaeth a chyngor ar gael yn hawdd iddynt am yr hyn sydd ar gael yn eu hardal. 

Bydd proses asesu newydd ar gyfer gofal a chymorth yn seiliedig ar yr hyn sy’n bwysig iddynt fel unigolion.  Bydd yn ystyried eu cryfderau personol a’r cymorth sydd ar gael iddynt gan eu teulu, eu ffrindiau ac eraill yn y gymuned.

Mae'r Ddeddf yn canolbwyntio ar helpu pobl i aros yn iach, i fod yn ddiogel rhag niwed, i fod mor annibynnol â phosibl ac i gael cymorth yn eu cymuned leol a chan y gymuned honno. 

Mae'r Ddeddf yn nodi pum egwyddor:

  • Hybu Llesiant: Gweithio gyda phobl er mwyn deall beth sy'n bwysig iddynt a'u helpu i gyflawni beth sy'n bwysig o ran eu llesiant 
  • Llais a rheolaeth: Rhoi unigolion wrth wraidd eu gofal; rhoi llais iddynt wrth wneud penderfyniadau mewn perthynas â'u bywyd a rheolaeth dros gyflawni'r canlyniadau sy'n bwysig iddynt 
  • Atal ac ymyrryd yn gynnar: Cynyddu gwasanaethau ataliol o fewn cymunedau er mwyn helpu pobl i aros yn iach ac i'n helpu ni i wybod pan fydd angen cymorth ychwanegol arnynt er mwyn atal problemau rhag cyrraedd cam critigol
  • Cydgynhyrchu:  Cynnig cyfleoedd i bobl gymryd rhan yn y ffordd y caiff eu gofal a'u cymorth eu dylunio a'u darparu 
  • Cydweithio: Partneriaethau cryf rhwng yr amrywiol sefydliadau a'r bobl sy'n eu cefnogi, gan helpu pobl i fyw'r bywyd y maent am ei fyw am fwy o amser

Cynllun Corfforaethol 2018-2023 gan gynnwys Amcanion Llesiant 

Yn 2018, gwnaethom nodi ein chwe Amcan Llesiant a'u cynnwys fel rhan o'n Cynllun Corfforaethol.  Nid proses newydd yw'r broses o bennu amcanion.  Rydym wedi bod yn pennu Amcanion Llesiant ac Amcanion Gwella ers sawl blwyddyn; ond dyma'r tro cyntaf i ni bennu amcanion dros gyfnod cynllunio o bum mlynedd. 

Gwnaethom lunio ein Hamcanion Llesiant gan ddefnyddio gwybodaeth a data o'r Asesiad Llesiant a gynhaliwyd er mwyn llywio Cynllun Llesiant y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.  Cyfeiriodd at bryderon pobl a'r meysydd yr hoffent iddynt gael eu gwella. 

Roedd yr Amcanion hefyd yn seiliedig ar ein dyletswydd i sicrhau cynaliadwyedd a ddisgrifir yn y pum ffordd o weithio ar gyfer pob amcan.  Gwnaethom ystyried hefyd sut y gallem adeiladu ar gryfderau sy'n cefnogi gwelliant yn ein cynlluniau gweithredu (ac nid dim ond meysydd i'w gwella). 

Rydym yn dangos sut mae ein Hamcanion yn cyfrannu at y saith Nod Llesiant cenedlaethol ac nid dim ond yn y meysydd isod rydym yn gweithredu.  Wrth reswm, nid yw'n bosibl ymdrin â phopeth mae'r Cyngor yn ei wneud, ond rydym wedi pennu'r chwe amcan hyn gan eu bod yn holl bwysig er mwyn gwella llesiant trigolion yn y byrdymor a'r hirdymor.  Caiff yr Amcanion hyn eu hadolygu'n rheolaidd a byddwn yn ymgynghori ar unrhyw newidiadau â'n trigolion. 

  • Amcan 1 – Gwella cyfleoedd addysg i bawb 
  • Amcan 2 – Galluogi cyflogaeth 
  • Amcan 3 – Mynd i'r afael ag argaeledd, cyflwr a chynaliadwyedd cartrefi ledled y fwrdeistref sirol a darparu cyngor, cymorth neu gefnogaeth i helpu i wella llesiant pobl 
  • Amcan 4 – Hybu system drafnidiaeth fodern, integredig a chynaliadwy sy'n cynyddu cyfleoedd, yn hybu ffyniant ac yn lleihau i'r eithaf effeithiau niweidiol ar yr amgylchedd
  • Amcan 5 – Creu bwrdeistref sirol sy'n cefnogi ffordd iach o fyw yn unol â'r Egwyddor Datblygu Cynaliadwy yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 
  • Amcan 6 – Cynorthwyo trigolion i aros yn annibynnol a gwella eu llesiant

Bydd ein Hamcanion Cydraddoldeb Strategol yn sicrhau cynnydd wrth hybu cydraddoldeb a chynhwysiant i bob nodwedd warchodedig ac wrth gyflawni Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus.  Bydd yr amcanion yn sicrhau ein bod yn cyflawni ein rhwymedigaethau fel y'u hamlinellir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Er mwyn sicrhau bod ein Hamcanion Cydraddoldeb Strategol yn berthnasol, gofynnwyd am sylwadau o ran a fydd yr amcanion a amlinellwyd yn helpu'r Cyngor i leihau anghydraddoldeb yn y gweithlu ac yn cynorthwyo o ran cyflenwi gwasanaethau a sicrhau mynediad at wasanaethau.  

Y Broses Ymgynghori ar y Cynllun Strategol Cydraddoldeb a'r Canlyniadau 

Cynhaliwyd ymgynghoriad ffurfiol o 11 Tachwedd 2019 hyd at 6 Rhagfyr 2019.  Cafodd yr ymgynghoriad gyhoeddusrwydd eang, roedd yn hygyrch ar nifer o lwyfannau ac roedd ar gael yn ddwyieithog ac ar ffurf hawdd ei deall.  

Cyhoeddwyd yr ymgynghoriad ar wefan y Cyngor.  Roedd fersiynau o'r arolwg ar gael i'w lawrlwytho mewn amrywiaeth o fformatau ar gais.  Rhannwyd manylion yr ymgynghoriad drwy lwyfannau cyfryngau cymdeithasol y Cyngor, gan gyrraedd 4,173 o bobl a chan arwain at 187 o ymgysylltiadau.  Lluniwyd datganiad i'r wasg ar gyfer y cyfryngau lleol a chafodd gyhoeddusrwydd ar wefan y Cyngor.

Cynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau ymgysylltu â grwpiau rhanddeiliaid allweddol; aeth aelodau o staff y Tîm Cydraddoldeb, Y Gymraeg ac Ymgynghori i gyfarfod sirol Pobl yn Gyntaf Caerffili a Grwpiau'r Rhwydwaith Rhieni er mwyn cael gwybod barn y cyfranogwyr am bob un o'r amcanion cydraddoldeb drafft.  Cyfarfu hwylusydd Iaith Arwyddion Prydain â phobl Fyddar ledled y fwrdeistref sirol, gan ddogfennu eu sylwadau ar y cynllun drafft, a chyflwyno crynodeb o'u sylwadau.  Yn yr un modd, cynhaliodd Disability Can Do sesiynau ymgynghori â grwpiau anabledd er mwyn cael gwybod eu barn ar yr amcanion cydraddoldeb drafft.  Er y gwnaed ymdrech i ymgynghori â phob sector o'r gymuned, mae'n amlwg na chymerodd rhai rhanddeiliaid ran yn y broses.

Tynnodd yr ymatebion i'r ymgynghoriad sylw at nifer o themâu cyffredin yn ogystal â materion a rhwystrau penodol mewn perthynas â'r amcanion drafft a amlinellwyd.

Beth mae pobl yn meddwl y dylem ei wneud: 

  • Dylid darparu gwybodaeth mewn fformatau ac ieithoedd gwahanol (gan gynnwys Iaith Arwyddion Prydain) er mwyn sicrhau ei bod yn hygyrch i bawb.  Mae hyn yn arbennig o bwysig mewn perthynas â gwasanaethau allweddol y Cyngor (e.e. sbwriel ac ailgylchu) ac nid dim ond gwasanaethau wedi'u targedu o fewn yr adran Gwasanaethau Cymdeithasol (Amcan Cydraddoldeb 1 – Cam Gweithredu 3)
  • Dylid cynnig hyfforddiant cydraddoldeb ac amrywiaeth i gyflogeion y Cyngor (Amcan Cydraddoldeb 3 – Cam Gweithredu 2) 
  • Cynnig hyfforddiant i'r staff er mwyn gwella ymwybyddiaeth o faterion cydraddoldeb a'r Gymraeg fel y gellir grymuso staff i nodi achosion o wahaniaethu a stereoteipio a mynd i'r afael â nhw (Amcan Cydraddoldeb 3 – Cam Gweithredu 2
  • Gweithio gyda sefydliadau yn y trydydd sector er mwyn nodi ffyrdd y gallwn gydweithio i gyflawni ein dyletswyddau o ran cydraddoldeb (Amcan Cydraddoldeb 3 – Cam Gweithredu 4)
  • Adolygu ac atgyfnerthu prosesau mewnol ar gyfer cynnal Asesiadau Effaith Cydraddoldeb a gwaith ymgynghori cysylltiedig (Amcan Cydraddoldeb 4 – Cam Gweithredu 7)
  • Sicrhau y caiff ymatebwyr a'r gymuned ehangach eu hysbysu'n rheolaidd am gynnydd y cynllun ac ymgyngoriadau eraill a gynhelir
  • Mae angen i'r Cyngor sicrhau bod y broses o ddatblygu'r ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn parhau'n flaenoriaeth 
  • Dylai'r Cyngor chwarae rhan arweiniol wrth nodi'r rhesymau dros y bwlch cyflog rhwng y rhywiau a gweithio gydag eraill (yn enwedig Llywodraeth Cymru) i nodi cynigion o ran sut i leihau'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau
  • Sicrhau bod yr Aelodau Etholedig yn meithrin ymwybyddiaeth o faterion cydraddoldeb a sicrhau bod eglurder ynghylch rôl yr Aelodau Etholedig wrth helpu i gyflawni mewn perthynas â materion cydraddoldeb (Amcan Cydraddoldeb 3 – Cam Gweithredu 2)

Er i ni ymdrechu i ymgysylltu â phob sector o'r gymuned, mae'n amlwg na chafwyd unrhyw ymatebion gan unigolion sy'n cynrychioli grwpiau crefyddol lleol na'r gymuned pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig.  Ymdriniwyd â hyn fel cam gweithredu o dan Amcan Cydraddoldeb Strategol 4 - Adolygu a diweddaru ein grwpiau rhanddeiliaid allweddol yn y fwrdeistref sirol sy'n cynrychioli grwpiau â nodweddion gwarchodedig.

I weld yr adroddiad llawn ewch i https://www.caerffili.gov.uk/cydraddolde

Adran 4: Cyflawni A Monitro'r Amcanion Cydraddoldeb

Cynllun Corfforaethol 

Mae gan y Cyngor Gynllun Corfforaethol 5 mlynedd sy'n cynnwys chwe Amcan Llesiant.  Mae'r chwe amcan hynny yn cynnwys camau gweithredu i wella cynwysoldeb ac amrywiaeth mewn meysydd amrywiol. 

Cynllunio Gwasanaethau 

Mae Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i 'wneud trefniadau' i wella'n barhaus.  Mae ein cylchoedd cynllunio yn rhan o'r trefniadau hynny.  Mae ein cylchoedd cynllunio yn nodi ein blaenoriaethau, ac mae nodau cydraddoldeb, y Gymraeg a chynwysoldeb wedi’u cynnwys fel rhan o'r cylchoedd hyn. 

Asesiad Perfformiad Cyfadran

Rydym wedi cyflwyno ffordd newydd o asesu a chyflwyno adroddiadau, sef 'Asesiad Perfformiad Cyfardan'.  Nod yr asesiadau hyn yw dod ag amrywiaeth o wybodaeth a gaiff ei chofnodi ar wahân ynghyd i greu 'un ffynhonnell wirionedd'.  Y diben yw cynnig dealltwriaeth o'r ffordd y mae pob Cyfadran yn perfformio, gan nodi achosion ac effeithiau a gweithredu'n unol â'r wybodaeth hon er mwyn gwella.  Bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth am gydraddoldeb ac iaith ac fe'i cyflwynir hefyd i'r Pwyllgorau Craffu a'r Cabinet. 

Adroddiad Perfformiad 

Unwaith y flwyddyn, rydym yn cyflwyno adroddiad i'r cyhoedd ar ein perfformiad yn erbyn ein Hamcanion Llesiant ac yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am welliannau mewn perthynas â chydraddoldeb a'r Gymraeg.  Rydym yn nodi unrhyw fethiannau a'r hyn rydym wedi'i ddysgu a beth rydym yn ei wneud er mwyn gwella.

Adroddiad Monitro Blynyddol y Cynllun Cydraddoldeb Strategol 

O dan Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, mae dyletswydd gyfreithiol ar y Cyngor i lunio a chyhoeddi Adroddiad Monitro Blynyddol mewn perthynas â'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol, sy'n cyflwyno adroddiad ar gynnydd y Cyngor wrth ddarparu gwasanaethau yn erbyn y dyletswyddau statudol, dyletswyddau cydraddoldeb y sector cyhoeddus ac Amcanion Cydraddoldeb Strategol y Cyngor ei hun.  Mae'n rhaid cyhoeddi'r adroddiad erbyn 31 Mawrth bob blwyddyn.