Cydraddoldeb mewn ysgolion

Mae ysgolion a chyrff llywodraethu yn dod o dan yr un ddeddfwriaeth ac yr ydym ni yn ei wneud, ond drwy weithio gyda'n gilydd, gallwn ni gyd cyflawni ein targedau ac osgoi dyblygu cynlluniau a gweithdrefnau.

Mae'r adran hon o'r wefan yn ymdrin â nifer o gyhoeddiadau gan gyrff lleol, rhanbarthol a chenedlaethol ar faterion cydraddoldeb a chydlyniant cymunedol, er mwyn helpu ysgolion i gyflawni amcanion a chamau gweithredu cydraddoldeb o fewn amgylchedd eu hysgol eu hunain, er mwyn gwella profiad addysgol plant a phobl ifanc, waeth beth yw eu hunaniaeth, amgylchiadau a chefndir.

Mae'r holl ddogfennau ar gael yn gyhoeddus i'w rhannu ac nid oes unrhyw fwriad i dorri hawlfraint.

Cynllun Cydraddoldeb Strategol Ysgolion Model

Bwriad y ddogfen hon yw dangos i ysgolion a chyrff llywodraethu enghraifft o'r hyn y gallai eu polisi eu hunain gynnwys. Mae'n cynnwys llawer o fanylion efallai y bydd ysgol yn dymuno golygu neu ychwanegu cyd-destun lleol iddo a dim ond fel canllaw y cyflwynir y model hwn.

Efallai er enghraifft y bydd ysgolion yn dewis uno a chopïo rhannau o gynlluniau eraill, megis eu cynlluniau hil neu anabledd cyfredol, y bydd y cynllun hwn yn cymryd eu lle fel cynllun cydraddoldeb a set o amcanion cynhwysfawr.

Model o Gynllun Cydraddoldeb Strategol Ysgolion Model 2012 (PDF 246kb)

Ffeil Ffeithiau Cydraddoldeb Llywodraethwyr Cymru 03/11

Cynhyrchwyd y canllaw hwn ar y cyd gan Lywodraethwyr Cymru a'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (Cymru).

Mae gan ysgolion oblygiadau dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 fel cyflogwyr, cyrff sy'n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus ac fel darparwyr gwasanaethau. Ar gyfer ysgolion Sefydledig, Gwirfoddol a Gynorthwyir, y corff llywodraethu yw'r cyflogwr tra yn y gymuned ac ysgolion Gwirfoddol a Reolir, yr ALl yw'r cyflogwr, ond mae'r corff llywodraethol yn gyfrifol am faterion staffio, ac ati.

Ffeil Ffeithiau Cydraddoldeb Llywodraethwyr Cymru (PDF 134kb)

Gwrthsafiad a Pharch

Cynhyrchwyd y ddogfen 'Gwrthsafiad a Pharch' er mwyn rhoi arweiniad a chyngor i ysgolion ar sut y gallant ddatblygu'r maes pwysig iawn hwn o bolisi ymhellach yn unol â'r Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion.

Mae'n amlwg bod ysgolion sy'n canolbwyntio ar y gymuned, a'r athrawon a'r staff sy'n gweithio gyda phobl ifanc, ran allweddol i'w chwarae i sicrhau bod ganddynt amgylchedd diogel a chefnogol lle i gwestiynu pethau, ond hefyd i ddeall a meithrin goddefgarwch a pharch tuag at bobl eraill.

Gwrthsafiad a Pharch (PDF 1.3mb)

Cyfarwyddyd CLlLC - Cydraddoldeb ac Ysgolion

Mae hwn yn set o ddogfennau a gynhyrchwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fel adnodd cenedlaethol ar gyfer ysgolion, cyrff llywodraethu ac awdurdodau addysg lleol.

Papur Hysbysu am Ddyletswyddau Sector Cyhoeddus yng Nghymru 2011 (PDF 95kb)
Materion Cydraddoldeb ym Maes Addysg 2011 (PDF 143kb)
Risgiau Cydraddoldeb ym Maes Addysg 2011 (PDF 143kb)

Digwyddiadau Bwlio a Gwahaniaethu mewn Ysgolion

Ers Medi 2012, mae'n ofynnol i bob ysgol yn y fwrdeistref sirol gyflwyno ffurflenni monitro tymhorol i'r Cyngor o ran digwyddiadau gwahaniaethol. Mae'n ofynnol bod ffurflenni Dim Achos yn cael eu cyflwyno hefyd, er mwyn sicrhau bod yr ysgolion yn agored ac yn dryloyw am unrhyw fater a all fod wedi codi, oherwydd gall peidio â datgelu digwyddiadau arwain at ganlyniadau difrifol.

Rydym wedi cynhyrchu adroddiad sy'n cynnwys yr holl waith sydd wedi ei wneud o 2011 i 2013 ar y materion hyn, gan gynnwys y nifer o ddigwyddiadau, pa fath o ddigwyddiad a'r hyn sy'n cael ei wneud i godi ymwybyddiaeth o'r materion hyn a mynd i'r afael â nhw.

Adroddiad Addysg, Ysgolion a Chydraddoldeb 2015 (PDF 577kb)

Mae'r ffurflen a ddefnyddir i fonitro'r digwyddiadau hyn isod er gwybodaeth.

Ffurflen Adrodd ar Ddigwyddiadau Gwahaniaethol (xls 92kb) (Saesneg yn unig)

‘Show Racism the Red Card’ - Prosiect Caerffili 2014

Yn ystod y flwyddyn academaidd 2013-2014, cafodd 16 o ysgolion cynradd, 8 ysgol gyfun a 22 o glybiau ieuenctid hyforddiant ‘Show Racism the Red Card’ gyda chyfanswm o 2629 o blant a phobl ifanc yn cael yr hyfforddiant hwn.

Mae ‘Show Racism the Red Card’ yn elusen gwrth-hiliaeth sydd â'r nod o godi ymwybyddiaeth ymhlith pobl ifanc am hiliaeth o fewn ein cymdeithas. Maent yn defnyddio safle pwerus pêl-droedwyr proffesiynol a sêr chwaraeon eraill fel modelau rôl i gyflwyno’r neges gwrth-hiliaeth.

Mae'r adroddiad gwerthuso llawn ar gael i'w lawrlwytho isod.

Show Racism the Red Card - Caerphilly Project Report 2014 (PDF)

Cysylltwch â ni