Asesiadau Effaith Integredig

Mae gennym gannoedd o bolisïau a chynlluniau mewn lle, y mae'n rhaid i ni eu gweithredu er mwyn darparu'r ystod eang o wasanaethau yr ydym yn gyfrifol amdanynt, i bawb sy'n dymuno cael mynediad atynt.
 
Er mwyn sicrhau bod pob un o'r rhain yn ystyried materion cydraddoldeb a'r Gymraeg, mae'n rhaid cynnal ‘Asesiad Effaith Integredig.
 
Mae hyn yn golygu bod unrhyw gamau posibl y byddem yn eu cymryd yn cael eu hasesu o nifer o wahanol safbwyntiau i weld pa effaith, os o gwbl, bydd gweithredu hynny yn cael ar y cyhoedd.  Er enghraifft, byddai polisi ynghylch adnewyddu adeiladau yn cael eu hasesu i sicrhau y byddai unrhyw waith yn darparu mynediad llawn i bobl ag anableddau. Neu efallai bod canllawiau ar sut yr ydym yn delio â'r cyhoedd yn cael eu hasesu er mwyn sicrhau bod rhywun sydd am ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain yn gallu gwneud hynny.
 
Cafodd yr Asesiad Effaith Integredig ei ddatblygu i gyd-fynd â gweithrediad y Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol ar 31 Mawrth 2021.
 
Mae’r Asesiad Effaith Integredig yn sicrhau y bydd pob cynnig wrth symud ymlaen ar gyfer penderfyniad yn dangos tystiolaeth ac yn rhoi sylw dyledus i bum darn o ddeddfwriaeth yn ogystal ag alinio’r cynigion â’r Amcanion Llesiant yn ein Cynllun Corfforaethol. Mae’r asesiad yn cynnwys yr adrannau canlynol:

  • Cydraddoldeb
  • Dyletswydd Economaidd-Gymdeithasol os bydd y cynnig o natur strategol,
  • Yr Amcanion Llesiant yn y Cynllun Corfforaethol a dolenni i unrhyw bolisi perthnasol arall gan y Cyngor a’r Egwyddorion Datblygu Cynaliadwy neu’r 5 ffordd o weithio fel rydyn ni’n eu hadnabod,
  • 7 Nod Llesiant Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol,
  • Y Gymraeg, roedd angen diweddaru’r adran hon yn dilyn canllawiau a gyhoeddwyd gan y Comisiynydd ar Safonau Llunio Polisi
  • ac yn olaf ymgynghori, ymgysylltu ac Egwyddorion Gunning
Cysylltwch â ni