Datganiad o Bolisi Trwyddedu

Mae'r Ddeddf Trwyddedu 2003 yn mynnu bod awdurdodau trwyddedu yn cyhoeddi Datganiad o Bolisi Trwyddedu sy'n nodi sut y byddwn yn gweinyddu ein swyddogaethau trwyddedu o dan y Ddeddf. Mae'r Ddeddf yn mynnu ein bod yn cadw'r polisi dan adolygiad ac, mewn unrhyw achos, mae'n rhaid adolygu'r polisi bob tair blynedd.

Rydym wedi cwblhau ein harolwg o'r Datganiad o Bolisi Trwyddedu, sy'n nodi sut rydym yn gweinyddu ein swyddogaethau o dan y Ddeddf Trwyddedu 2003.

Cynhaliwyd proses ymgynghori a oedd wedi cynnwys ysgrifennu at nifer o gyrff ac unigolion drwy gyfrwng hysbyseb cyhoeddus mewn papurau newydd lleol a drwy ddefnyddio gwefan y cyngor. O ganlyniad i'r broses honno, diweddarwyd y Polisi Trwyddedu gan gymryd i ystyriaeth y sylwadau perthnasol a dderbyniwyd a chan ystyried y canllawiau diwygiedig a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth ym mis Mawrth 2010.

Ar 17 Tachwedd 2020, fabwysiadwyd y Polisi Trwyddedu diwygiedig yn ffurfiol gan y cyngor llawn, i'w weithredu ar 1 Ionawr 2021 ymlaen.

Fel arall, mae copïau ar gael drwy gysylltu â'r adran drwyddedu.

Cysylltwch â ni