Deddf Gamblo 2005 - Datganiad o Bolisi Trwyddedu

Mae'r Cyngor wedi cwblhau ei harolwg o'r Datganiad o Bolisi Trwyddedu, sy'n nodi'r ffordd yr ydym yn delio â cheisiadau am drwyddedau mangre ar gyfer swyddfeydd betio, canolfannau hapchwarae i oedolion a chanolfannau adloniant i'r teulu ac wrth roi trwyddedau ar gyfer hapchwarae a pheiriannau hapchwarae mewn clybiau, tafarndai, ayyb.

Cymeradwywyd y Polisi Trwyddedu cyfredol yn y Cyngor llawn ar 17 Tachwedd 2015 i'w weithredu ar 31  Ionawr 2016. Yn unol â'r Ddeddf, rhaid i’r Polisi Trwyddedu gael ei adolygu ac, mewn unrhyw achos, mae'n rhaid i'r Cyngor adolygu'r polisi bob tair blynedd.

Cynhaliwyd proses ymgynghori a oedd wedi cynnwys ysgrifennu at nifer o gyrff ac unigolion a ymgynghorwyd â hwy, drwy gyfrwng hysbyseb cyhoeddus mewn papurau newydd lleol a drwy ddefnyddio gwefan y cyngor. O ganlyniad i'r broses honno, diweddarwyd y Polisi Trwyddedu gan gymryd i ystyriaeth y sylwadau perthnasol a dderbyniwyd a chan ystyried y Canllawiau a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Gamblo.

Ar 13 Rhagfyr 2018, fe wnaeth y Cyngor llawn fabwysiadu’r Polisi Trwyddedu diwygiedig yn ffurfiol. Bydd y Polisi yn cael ei gyhoeddi ar 1 Ionawr 2019 a bydd yn cael ei weithredu ar 31 Ionawr 2019. Fel arall, gellir cael copïau oddi wrth yr Is-adran Trwyddedu, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Tŷ Penallta, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, Hengoed, CF82 7PG.

Deddf Gamblo 2005 - Datganiad o Bolisi Trwyddedu (PDF 1.7mb)

Cysylltwch â ni