Polisi Anghenion Dysgu Ychwanegol

Egwyddorion a nodau 

Yr egwyddorion sy'n sail i'r system anghenion dysgu ychwanegol yw cefnogi creu system addysg gwbl gynhwysol lle rhoddir cyfle i bob dysgwr lwyddo a chael mynediad at addysg sy'n diwallu eu hanghenion a'u galluogi i gymryd rhan mewn dysgu, elwa ohono, a'i fwynhau.

Ymarfer sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn  

Mae ymarfer sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn rhoi'r plant, y bobl ifanc a'u rhieni wrth wraidd penderfyniadau.  Bydd yr Awdurdod Lleol, ysgolion a lleoliadau yn defnyddio ystod o adnoddau i gasglu gwybodaeth berthnasol ac i lywio gweithredoedd i helpu dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol. 

Partneriaeth 

Ein nod yw sicrhau cefnogaeth a darpariaeth o ansawdd uchel drwy weithio mewn partneriaeth â'r Gwasanaeth Cyflawni Addysg, gwasanaethau lleol a rhanbarthol ac ysgolion a lleoliadau addysgol eraill.  Rydyn ni wedi ymrwymo i gynorthwyo ysgolion a lleoliadau addysgol eraill i godi cyraeddiadau a chyflawniadau, gan ddathlu cynnydd tuag at nodau realistig sy'n annog y disgyblion ac sydd wedi'u datblygu ar y cyd â phlant a phobl ifanc.

Mewn cydweithrediad â'r Gwasanaeth Cyflawni Addysg, byddwn ni'n darparu ystod o raglenni hyfforddi a datblygu proffesiynol a fforymau rhannu gwybodaeth ar gyfer ysgolion ac asiantaethau eraill er mwyn cynnal a datblygu gwybodaeth a sgiliau i helpu plant a phobl ifanc gydag ADY yn effeithiol. 

Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth â rhieni a gofalyddion ac mae'n gwerthfawrogi'r cyfraniad y gallwch chi ei wneud i alluogi plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol i gyflawni eu potensial. Ar hyn o bryd, mae SNAP Cymru yn darparu gwasanaeth partneriaeth annibynnol i rieni.