Compact 2018-2023

Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili sector gwirfoddol bywiog a gweithgar sydd yn chwarae rôl gyflenwol ac unigryw wrth nodi anghenion dinasyddion y fwrdeistref. Rydym yn gweithio gyda sefydliadau gwirfoddol a chymunedol er mwyn helpu i gynnal a gwella ansawdd bywyd i bawb ym mwrdeistref sirol Caerffili.

Cafodd Compact ei sefydlu yn 1999 ac mae'n gytundeb rhwng sefydliadau a'r sector gwirfoddol a chymunedol ym Mwrdeistref Sirol Caerffili. Mae'r Compact yn cydnabod y manteision i'r ddwy ochr y gellir eu helwa o gydweithrediad agos ac mae'n gosod canllawiau ar gyfer sut y dylai pob parti gydweithio. Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili sector gwirfoddol bywiog a gweithgar sydd yn chwarae rôl gyflenwol ac unigryw wrth nodi a chwrdd ag anghenion y bobl leol. Mae cynnydd sylweddol wedi'i wneud wrth harneisio gwaith y sector gwirfoddol ynghyd â chwaraewyr mawr eraill yn y fwrdeistref sirol.

Dyma''r pumed cytundeb compact ac mae'n darparu fframwaith effeithiol am weithio i gryfhau ein partneriaeth gyda'n gilydd wrth ddarparu gwasanaethau o ansawdd i'r pob a'r cymunedau lleol.

Compact 2018 - 2023 (PDF 1mb)

Yn y canfed flwyddyn ers y trychineb glofaol yn Senghenydd, mae'r olwyn mwyngloddio'n cael ei ddefnyddio ar gyfer delweddau'r Cytundeb Compact newydd sy'n symboleiddio cydgysylltiad Partneriaid yn dod ynghyd wrth ddarparu ar gyfer y fwrdeistref sirol.