Gwe-ddarlledu

Fe wnaethom ddechrau gwe-ddarlledu cyfarfodydd y cyngor llawn ym mis Mawrth 2015.

Mae gwe-ddarllediad yn recordiad fideo a sain nad yw wedi’i olygu a chyfarfod y cyngor sydd ar gael i’w weld ar ein gwefan.

Mae recordiadau ar gael i’w gwylio am ddim. Gallwch eu gwylio’n fyw neu fel arall, gallwch ddal fyny gyda chyfarfodydd y gorffennol gan ddefnyddio’r llyfrgell o recordiadau wedi’u harchifo.

Hefyd byddwch yn gweld dolenni agendâu ac adroddiadau ar gyfer pob cyfarfod, a fydd yn rhoi’r wybodaeth gefndirol am y materion sy’n cael eu trafod.

Am ragor o wybodaeth, e-bost ar committee@caerphilly.gov.uk.

Cyfarfodydd y Cyngor - Coronavirus

Mae cyfarfodydd y Cyngor wedi ailgychwyn a gallwch weld dyddiadau'r cyfarfodydd sydd ar ddod drwy edrych ar y Calendr Cyfarfodydd. Fodd bynnag, nodwch y bydd pob cyfarfod yn cael ei gynnal yn “rhithwir” ar Microsoft Teams, felly ni fydd neb o'r wasg na'r cyhoedd yn gallu mynychu'r cyfarfodydd yn y cnawd. Fodd bynnag, bydd recordiad o bob cyfarfod ar gael i'w weld ar y ddolen hon.