Y cyngor a democratiaeth > Eich Cynrychiolydd Rhanbarthol

Eich Cynrychiolydd Rhanbarthol

Caiff Aelodau'r Cynulliad eu hethol gan bobl Cymru. Maent yn cynrychioli diddordebau'r cyhoedd yn ogystal ag unigolion sy'n byw yn yr etholaeth neu'r rhanbarth y mae wedi'i ethol i wasanaethu cyfnod yn y swydd ynddi. Caiff Aelodau Cynulliad eu hethol bob 4 blynedd.

Maent yn dod i gyswllt â'r cyhoedd yn rheolaidd trwy gyfarfodydd, galwadau ffôn neu gymorthfeydd.

Mae Aelodau'r Cynulliad yn derbyn cyflog am eu gwaith ac maent hefyd yn derbyn lwfansau. Mae modd dod o hyd i wybodaeth am y rhain gan ddefnyddio Cronfa Ddata Lwfansau Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'n rhaid i bob Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru lenwi cofrestr ddiddordebau a chaiff y manylion eu cyhoeddi wrth ochr proffil pob Aelod.

Os ydych chi’n breswylydd ac rydych chi'n dymuno dod o hyd i Aelod Cynulliad eich etholaeth neu'ch rhanbarth ewch i chwilotwr Aelodau Cynulliad, Cynulliad Cenedlaethol Cymru.