Gwarchod Data - Hysbysiad Prosesu Teg

Mae'r Fenter Twyll Genedlaethol yn cymharu setiau o ddata personol electronig yn ddiogel a ddelir gan un sefydliad yn erbyn data a gedwir gan yr un sefydliad neu sefydliad arall yn y sector cyhoeddus i weld faint y maent yn cyfateb, ac i nodi camgymeriadau neu hawliadau a thaliadau a allai fod yn dwyllodrus. 

Lle canfyddir pâr, mae'n bosibl y bydd yn dangos bod anghysondeb sy'n gofyn am ymchwiliad pellach, ond ni wneir tybiaeth a oes twyll, gwall neu esboniad arall hyd nes y cynhelir ymchwiliad. 

Mae gan y Cyngor ddyletswydd gyfreithiol i gymryd rhan er mwyn diogelu arian cyhoeddus, a bydd yn darparu rhai categorïau penodol o wybodaeth bersonol i'r Fenter Twyll Genedlaethol. Mae Swyddfa Cabinet y DU yn gweinyddu'r Fenter Twyll Genedlaethol ar ran Archwilydd Cyffredinol Cymru.  

Mae'r Fenter Twyll Genedlaethol wedi gweithredu ers 1996, ac mae'n cydymffurfio â Chôd Ymarfer statudol caeth y gellir ei ddarganfod yma: https://www.gov.uk/government/publications/code-of-data-matching-practice-for-national-fraud-initiative 

Mae Swyddfa Archwilio Cymru hefyd yn cyhoeddi gwybodaeth y gellir ei darganfod ar http://www.audit.wales/cy/amdanom-ni/menter-twyll-genedlaethol 

Mae gennych nifer o hawliau mewn perthynas â'r wybodaeth, gan gynnwys yr hawl i gael gafael ar wybodaeth sydd gennym amdanoch chi a'r hawl i gwyno os ydych chi'n anhapus â'r ffordd y mae eich gwybodaeth yn cael ei phrosesu.

Am ragor o wybodaeth am eich hawliau a sut rydym yn prosesu'ch gwybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol:

Hysbysiad Preifatrwydd - Y Fenter Twyll Genedlaethol (PDF)

Cysylltwch â ni