Datganiad Hygyrchedd ar gyfer Gwefan Cyngor Sir Caerffili 

Defnyddio'r wefan hon

Mae gwefan y Cyngor caerffili.gov.uk wedi cael ei datblygu ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ac fe'i rheolir ganddo.

Rydym am i gynifer o bobl â phosibl i allu defnyddio'r wefan hon.  Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech allu: 

  • Newid lliwiau, lefelau gwrthgyferbyniad a ffontiau
  • Chwyddo’r testun at hyd at 300% heb iddo fynd oddi ar ochrau’r sgrin
  • Welywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • Welywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • Gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin 

Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall. Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych anabledd neu anghenion hygyrchedd.

Pa mor hygyrch yw'r wefan hon

Gwyddom nad yw rhai rhannau o'n gwefan ar gael yn llawn:

  • Nid yw'r rhan fwyaf o'n dogfennau PDF yn gwbl hygyrch i feddalwedd darllenydd sgrin
  • Mae rhywfaint o destun dolenni yn cynnwys testun allanol neu efallai na fydd yn gwneud synnwyr heb gyd-destun
  • Mae rhai dolenni cyfagos yn mynd i'r un URL
  • Nid yw rhai meysydd yn nodi eu pwrpas yn rhaglennol
  • Mae rhai dolenni yn defnyddio'r un testun ar gyfer gwahanol gyrchfannau
  • Rhai tablau heb benawdau
  • Rhai manylion llywioddim wedi’u hysgrifennu fel rhestrau

Beth i'w wneud os na allwch gael mynediad i rannau o'r wefan hon 

Os na allwch chi ddod o hyd i rywbeth sydd ei angen arnoch chi ar y safle hwn, dywedwch wrthym amdano a byddwn yn darparu’r hyn sydd ei angen arnoch chi mewn ffordd arall:

E-bost: RhPC@caerffili.gov.uk

Er mwyn ein helpu i ddeall y broblem cyn gynted ag y gallwn, dywedwch wrthym:

  • y cyfeiriad gwe neu deitl y dudalen lle daethoch chi o hyd i'r broblem
  • beth yw'r broblem 
  • pa gyfrifiadur a meddalwedd rydych yn eu defnyddio

Mae hyn dim ond er mwyn i chi nodi i ni’r problemau hygyrchedd. Os hoffech chi gysylltu â ni am rywbeth arall, a bod angen ymateb arnoch, defnyddiwch ein tudalen gyswllt.

Os ydych chi wedi gwneud cwyn ac nad ydych chi’n fodlon â'r hyn a wnaethom yn ei gylch, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb.

Adrodd am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon

Rydyn ni bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon.

Os byddwch chi’n dod o hyd i unrhyw RhPC@caerffili.gov.uk.

Y weithdrefn orfodi

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych chi’n hapus â sut rydyn ni’n ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb.

Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni eich hun

Os oes gennych nam lleferydd, yn fyddar neu fod fam ar eich clyw, gallwch gysylltu â ni drwy ddefnyddo ‘Next Generation Text’ (a elwir hefyd yn Text Relay a TypeTalk). Deialwch 18001 cyn y rhif ffôn llawn.

Mae gan ein swyddfeydd ddolenni sain, neu os byddwch chi’n cysylltu â ni cyn eich ymweliad gallwn ni drefnu cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain neu rywun i gyfieithu iaith heblaw Cymraeg neu Saesneg.

Mae dogfennau, biliau, tudalennau gwe ac adnoddau eraill ar gael mewn ieithoedd a fformatau eraill ar gais.  Byddwn ni hefyd yn trafod gyda'r cwsmer wrth drefnu i ddod o hyd i'r ateb gorau. 

Gwybodaeth dechnegol o ran hygyrchedd Caerffili.gov.uk

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi ymrwymo i sicrhau bod ei wefan ar gael, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Mae caerffili.gov.uk yn cydymffurfio'n rhannol â Safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau fersiwn 2.2, oherwydd y diffyg cydymffurfio a restrir isod.

Sut y gwnaethom brofi caerffili.gov.uk

Profwyd caerffili.gov.uk y llynedd ar 9 Tachwedd 2023. Cynhaliwyd y prawf gan Silktide. Profwyd sampl o 125 tudalen o'r wefan.

Rydyn ni wedi sgorio 96/100 ar gyfer hygyrchedd, mae 96.3% yn cydymffurfio ar gyfer gwiriadau lefel A WCAG 2.2, mae 95.9% yn cydymffurfio ar gyfer gwiriadau lefel AA WCAG 2.2 ac mae 95.6% yn cydymffurfio ar gyfer gwiriadau lefel AAA WCAG 2.2.

Accessibility-9-November-2023.PNG

Ebostiwch RhPC@caerffili.gov.uk er mwyn cael copi o adroddiadau ac i ofyn am ragor o fanylion am adroddiadau.

Cynnwys nad yw'n hygyrch

Nid yw'r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.

Diffyg cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd

  • Sicrhau bod dolenni'n egluro eu diben WCAG A 2.4.4
  • Cyfuno dolenni cyfagos â'r un cyrchfan - WCAG A 1.1.1
  • Adnabod diben y meysydd yn rhaglennol - WCAG AA 1.3.5
  • Ceisio osgoi defnyddio'r un testun dolenni ar gyfer cyrchfannau gwahanol WCAG A 2.4.4
  • Ychwanegu penawdau at dablau WCAG A 1.3.1
  • Marcio manylion llywio fel rhestrau WCAG A 1.3.1

Ein nod yw atgyweirio’r pwyntiau uchod erbyn mis Awst 2024. 

Materion yn ymwneud â dogfennau PDF a Word

Nid yw rhan fwyaf o’n dogfennau PDF a Word yn bodloni safonau hygyrchedd – er enghraifft, efallai na fyddant wedi’u marcio fel eu bod yn hygyrch i ddarllenydd sgrin.

Ein nod yw bod mewn sefyllfa lle bydd unrhyw ddogfen PDF neu Word newydd a gyhoeddir gennym ni’yn bodloni safonau hygyrchedd oni bai ein bod yn penderfynu eu bod yn cynrychioli baich anghymesur fewn ystyr y rheoliadau hygyrchedd. Yn y pen draw, rydyn  ni’n bwriadu darparu fersiwn HTML hygyrch o'r wybodaeth fel y brif ffynhonnell.

Mae sawl mil o ddogfennau PDF a Word ar ein gwefan megis adroddiadau, strategaethau, dogfennau cyfarfodydd a mwy.

Ar gyfer pob dogfen PDF a Word a gyhoeddwyd ar neu ar ôl 23 Medi 2018, ein nod yw cyflawni un o'r canlynol:

  • Eu tynnu oddi ar y wefan lle nad oes ei angen mwyach
  • Gosod fersiwn HTML hygyrch yn ei le, lle bo modd
  • Sicrhau bod unrhyw gynnwys newydd yn cael ei gyflwyno ar ffurf HTML hygyrch lle bo modd  
  • Pan fo angen dogfen PDF, ei gwneud mor hygyrch â phosibl drwy:
    • Sicrhau eu bod yn ddarllenadwy i beiriant (WCAG A 1.1.1)
    • Pennu penawdau ar gyfer pob PDF (WCAG A 1.3.1)
    • Unioni dogfennau PDF sydd heb eu tagio (WCAG A 1.3.1)
    • Sicrhau bod dogfennau PDF yn nodi iaith ddiofyn (WCAG A 3.1.1)
    • Diffinio teitl ar gyfer pob dogfen PDF (WCAG A 2.4.2)
    • Sicrhau bod penawdau dogfennau PDF yn dilyn trefn resymegol (WCAG A 1.3.1)
    • Gwella teitlau dogfennau PDF gwan (WCAG A 2.4.2)
    • Sicrhau bod dogfennau PDF hir yn defnyddio llyfrnodau i gynorthwyo cyrchu’r cynnwys (WCAG AA 2.4.5)

Oherwydd maint y gwaith dan sylw, ein nod yw cyflawni hyn erbyn mis Rhagfyr 2024. 

Mae’r meini prawf canlynol yn newydd yn Nghanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) 2.2:

  • Ffocws Heb ei Guddio - Cadw yr eitem â ffocws yn weladwy pan fydd eitem yn cael ffocws bysellfwrdd, mae'n rhannol weladwy o leiaf (Isafswm) WCAG (AA) 2.4.11
  • Ffocws Heb ei Guddio - Pan fydd eitem yn cael ffocws bysellfwrdd, mae'n gwbl weladwy (Uwch) WCAG (AAA) 2.4.12
  • Golwg Ffocws - Ei gwneud hi'n haws gweld ffocws y bysellfwrdd gan ddefnyddio dangosydd ffocws o faint a chyferbyniad digonol WCAG (AAA) 2.4.13
  • Symudiadau Llusgo - Peidio â dibynnu ar lusgo am weithredoedd defnyddwyr, ar gyfer unrhyw weithred sy'n cynnwys llusgo, darparu bwyntydd syml arall WCAG (AA) 2.5.7
  • Maint Targed - Gwneud rheolyddion yn haws i'w gweithredu gan sicrhau bod targedau'n cyrraedd isafswm maint neu fod ganddyn nhw ddigon o le o'u cwmpas. (Isafswm) WCAG (AA) 2.5.8
  • Cymorth Cyson – Rhoi help yn yr un lle pan fydd yn ymddangos ar nifer o dudalennau WCAG (A) 3.2.6
  • Mynediad Diangen - Ei gwneud yn haws i ddefnyddwyr gwblhau prosesau aml-gam trwy beidio â gofyn am yr un wybodaeth ddwywaith yn yr un sesiwn WCAG (A) 3.3.7
  • Dilysu Hygyrch - Gwneud mewngofnodi yn bosibl gyda llai o ymdrech feddyliol trwy beidio â gwneud i bobl ddatrys, galw i gof, neu drawsgrifio rhywbeth i fewngofnodi (Isafswm) WCAG (AA) 3.3.8
  • Dilysu Hygyrch - Gwneud mewngofnodi yn bosibl gyda llai o ymdrech feddyliol trwy beidio â gwneud i bobl adnabod gwrthrychau neu ddelweddau a chyfryngau wedi'u darparu gan ddefnyddwyr i fewngofnodi (Uwch) WCAG (AAA) 3.3.9

Ein nod yw ymchwilio i'r meini prawf newydd uchod a'u pennu os yw'n berthnasol erbyn Awst 2024.

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd 

Dogfennau PDF ac eraill

Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn eu gwneud yn ofynnol i ni unioni dogfennau PDF neu eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydyn nhw’n hanfodol er mwyn i ni ddarparu ein gwasanaethau.

Fideo byw

Dydyn ni ddim yn bwriadu ychwanegu capsiynau at ffrydiau fideo byw oherwydd bod fideo byw wedi'i heithrio rhag bodloni'r rheoliadau hygyrchedd.

Systemau trydydd parti

Rydyn ni’n mynnu bod unrhyw systemau trydydd parti newydd a gomisiynwn ar gyfer y wefan yn cydymffurfio â Safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau 2.2. Fodd bynnag, mae systemau trydydd parti yn rhannol neu'n gyfan gwbl allan o'n rheolaeth ac felly efallai na fyddan nhw’n cydymffurfio â'r un lefelau hygyrchedd â gweddill y wefan. Mae systemau trydydd parti yn cynnwys:

  • HomeSearch Caerphilly - gwneud cais am dai cymdeithasol
  • Capita 360 - taliadau ar-lein
  • EClaims Capita - hawliadau budd-daliadau
  • Stopford Bookings - archebu cofrestryddion
  • iTrent - gwneud cais am swydd wag yn y cyngor
  • Abavus - gwasanaethau Fy Nghyngor
  • Idox - chwilio am geisiadau cynllunio, rheoliadau rheoli adeiladu a’r gofrestr trwyddedu
  • Modern.gov - gwybodaeth am Gynghorwyr, cyfarfodydd, agendâu a chofnodion
  • Public-I - gwe-ddarlledu 

Rydyn ni’n monitro hygyrchedd y safleoedd hyn ac yn gofyn i gyflenwyr ddatrys materion hygyrchedd sy'n codi.

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar fedi 18 Medi 2020.  Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 9 Tachwedd 2023.