Cymryd rhan yn y broses graffu

Mae'n rhaid i Bwyllgorau Craffu wneud trefniadau i ganiatáu i bobl sy'n byw neu'n gweithio yn ardal yr awdurdod lleol i gyflwyno sylwadau ar unrhyw fater sy'n cael ei drafod.

Er bod yn rhaid i ni ystyried unrhyw safbwyntiau a godwyd ym mhwyllgorau craffu, rhaid i ni hefyd sicrhau bod barn yn rhesymol ac yn briodol. Mae ein protocol yn esbonio'r meini prawf a ddefnyddir wrth ystyried cais gan y cyhoedd.

Mae yna nifer o ffyrdd y gallwch fod yn rhan o'r gwaith craffu.

  • Gallwch fynegi eich barn ar eitemau penodol yr agenda a gyhoeddwyd yn y blaenraglen waith. Bydd eich sylwadau ar gael i aelodau'r pwyllgor. 
  • Gallwch ofyn i bwyllgorau craffu i ystyried i faterion sy'n peri pryder nad ydynt wedi'u cynnwys yn ei flaenraglen waith.
  • Gallwch fynychu cyfarfodydd y pwyllgor craffu er mwyn arsylwi adroddiadau o dan drafodaeth, oni bai bod y pwyllgor craffu, yn gweithredu ar gyngor, yn penderfynu bod y mater wedi ei eithrio. 

Siarad a Darparu Tystiolaeth yng nghyfarfodydd y Pwyllgor Craffu

Gallwch naill ai ddarparu tystiolaeth ysgrifenedig neu siarad yn y cyfarfod pwyllgor craffu. Mae gan bob person 5 munud i siarad, oni roddir cyngor gwahanol gan y Cadeirydd. Os oes sawl cynrychiolaeth i siarad ar fater bydd nifer y siaradwyr yn cael ei benderfynu gan y Cadeirydd, fel arfer hyd at uchafswm o dri. Nid yw hyn yn cynnwys ceisiadau gan Gynghorwyr Bwrdeistref Sirol Caerffili, sy'n cael eu penderfynu gan gyfansoddiad y cyngor. Rydyn ni'n gofyn i bawb sy'n cymryd rhan yng nghyfarfodydd y Pwyllgor Craffu drin ei gilydd â pharch a chwrteisi.

Os ydych chi am wneud cyflwyniad ysgrifenedig, gallwch chi ei anfon at WWW.Craffu@caerffili.gov.uk neu ei bostio at y Gwasanaethau Democrataidd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Tŷ Penallta, Parc Busnes Tredomen, Ystrad Mynach CF82 7PG. Bydd hwn yn cael ei gylchredeg i'r Pwyllgor Craffu ar eich rhan. Sylwch fod deddfau enllib ac athrod yn llym iawn. Os ydych chi'n dweud neu'n ysgrifennu rhywbeth difenwol yn gyhoeddus am berson sy'n anwir, efallai y byddwch chi mewn perygl o ddwyn achos cyfreithiol. Yn yr un modd, dylech sicrhau nad yw eich sylwadau yn wahaniaethol. Ni fydd datganiadau ysgrifenedig sy'n cynnwys sylwadau amhriodol, gwahaniaethol neu ddifenwol yn cael eu hanfon at aelodau'r pwyllgor.

Efallai y byddwch hefyd yn gweld eich canllaw ymarferol i graffu yn ddefnyddiol.

Cysylltwch â ni