Dod yn gynghorydd

Oes gennych chi ddiddordeb mewn cynrychioli pobl leol a gwneud gwahaniaeth i ddemocratiaeth leol? Os felly, darllenwch ymlaen a helpwch i lunio dyfodol Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Oeddet ti’n gwybod y gallet ti gael dy dalu am gyflawni dy ddyletswyddau fel cynghorydd? Gallet ti hefyd hawlio lwfansau am fod yn gynghorydd, fel cael ad-daliad am gostau gofal plant neu bobl hŷn sy’n ddibynnol arnat ti yn ogystal â chostau teithio. Mae angen mwy o amrywiaeth o bobl, a phobl iau, sy’n dod o wahanol gefndiroedd i sefyll yn yr etholiadau lleol nesaf yng Nghymru yn 2022. Beth amdani? Gwylia’r ffilm fer hon i gael gwybod mwy.

Cer i wefan:

Meini prawf ar gyfer dod yn gynghorydd

I ddod yn gynghorydd yng Nghyngor Caerffili, rhaid i chi fod:

  • yn 18 oed neu'n hŷn ac ar gofrestr etholwyr yr awdurdod lleol yr hoffech sefyll ynddo
  • wedi gweithio yn yr ardal am y 12 mis diwethaf neu fwy
  • wedi meddiannu tir yn yr ardal, naill ai fel perchennog neu denant, am 12 mis neu fwy.

I asesu p'un a ydych yn bodloni'r meini prawf i ddod yn gynghorydd ai peidio, edrychwch ar Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, sy'n amlinellu'r manylion cymhwyso'n llawn.

Ni allwch chi fod yn gynghorydd os ydych:

  • Yn gweithio i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili; (dim ond yng nghyswllt dod yn gynghorydd bwrdeistref sirol y mae hyn yn berthnasol, nid cynghorydd cymuned) neu
  • Yn dal swydd o dan gyfyngiadau gwleidyddol mewn awdurdod arall; neu
  • Yn fethdalwr; neu
  • Wedi bod yn y carchar (gan gynnwys dedfrydau gohiriedig) am 3 mis neu fwy yn ystod y 5 mlynedd diwethaf; neu
  • Wedi cael eich anghymhwyso dan ddeddfwriaeth sy'n ymwneud ag arfer anghyfreithlon neu lwgr 

Sut mae dod yn gynghorydd?

I ddod yn gynghorydd rhaid i chi gynnig eich hun ar gyfer etholiad. Oni bai fod sedd wag achlysurol yn codi o fewn ward, cynhelir etholiadau ar ddydd Iau cyntaf mis Mai, unwaith bob pedair blynedd.

I sefyll mewn etholiad rhaid i chi lenwi ffurflen enwebu. Bydd y ffurflenni hyn ar gael ar y dudalen etholiadau i ddod berthnasol neu gellir gofyn amdanynt drwy gysylltu â'r gwasanaethau etholiadol.

Rhaid dychwelyd pob dogfen i

  • Papur enwebu, wedi'i lofnodi gan 10 etholwr sydd wedi'u cofrestru yn y ward lle rydych am sefyll
  • Tystysgrif gan swyddog enwebu'r blaid, yn eich awdurdodi i ymgeisio a defnyddio disgrifiad ac arwyddlun y blaid
  • Caniatâd ysgrifenedig i'ch enwebiad

Rhaid dychwelyd pob dogfen i

Y Swyddog Canlyniadau
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Tŷ Penallta
Parc Tredomen
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7PG

 

Os caiff etholiad ei gynnal (os bydd mwy o enwebiadau na nifer y seddi gwag), cynhelir pleidlais ar ddyddiad penodedig.

Cymorth i gynghorwyr

Mae ystod o gymorth ar gael i gynghorwyr i'w helpu yn eu rôl:

  • Cymorth a chyngor ar unrhyw fater
  • Cyfrifiadur cartref, sy'n rhoi mynediad at systemau perthnasol y cyngor gan gynnwys e-bost
  • Rhaglen sefydlu aelodau
  • Pecyn hyfforddiant cynhwysfawr

Taliadau i Gynghorwyr

Os ydych yn ystyried sefyll mewn etholiad i fod yn gynghorydd, dyma wybodaeth am y taliadau y gallech eu derbyn.

Taliadau i Gynghorwyr (PDF)

Cysylltwch â ni