Hawliadau yswiriant moduron

Os ydych wedi bod mewn digwyddiad gydag un o'n cerbydau ac wedi dioddef colled, difrod neu anaf nad oedd dim bai arnoch chi amdano, bydd angen ichi lenwi ffurflen hawlio a rhoi inni ddau amcanbris am yr atgyweiriadau i’ch cerbyd. 

Mae gan holl gerbydau ein fflyd moduron yswiriant cynhwysfawr gyda QBE Insurance o dan bolisi rhif Y086760FLT0118A.

Mae’n bosibl y gallwn eich cynorthwyo o ran gwneud yr atgyweiriadau ac o ran darparu cerbyd arall ar eich cyfer tra bydd eich cerbyd chi oddi ar y ffordd. 

Dylech gysylltu â ni cyn gynted ag sy’n bosibl ar ôl y ddamwain trwy ffonio 01443 863430 gyda manylion llawn y digwyddiad er mwyn inni wneud yr asesiad angenrheidiol. 

Os ydych chi’n gyfreithiwr sy’n gwneud hawliad anaf personol, mae ein gwybodaeth ar y Porth Hawliadau fel a ganlyn:

Rhif Porthol: G00281
Digolledydd: 
Cyngor Bwrdeistref Caerffili
Tŷ Penallta 
Parc Tredomen
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7PG

Herio penderfyniad

Dim ond llys a all benderfynu a yw’r nam yn beryglus ai peidio, ac a yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi bod yn esgeulus. Am y rheswm hwn, yn anffodus, nid yw ein gweithdrefn gwyno gorfforaethol yn berthnasol i hawliadau yswiriant. Rhaid i unrhyw ymholiadau neu heriau i'n penderfyniad atebolrwydd gael eu gwneud yn ysgrifenedig a'u hanfon at:

Yr Adran Yswiriant a Rheoli Risg
Tŷ Penallta
Parc Tredomen
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7PG
Neu drwy e-bost at Insurance@caerphilly.gov.uk

Ar ôl cael gohebiaeth gennych chi, byddwn ni'n adolygu'ch cais ac yn cadarnhau'r canlyniad yn ysgrifenedig. Fodd bynnag, os na dderbynnir ein penderfyniad, yna argymhellwn eich bod yn ceisio cyngor cyfreithiol annibynnol cyn dechrau unrhyw gamau cyfreithiol, i sicrhau eich bod yn cael cyngor proffesiynol ar ragolygon eich hawliad yn y llys, ac i osgoi bod yn gyfrifol am gostau cyfreithiol na allwch eu hadfer.