FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Ni fydd rhai ffurflenni ar-lein ar gael rhwng 5:00pm a 7:00pm ar y 19 Mawrth 2024, tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol.  Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi

ONLINE FORMS: Some of our online forms will be unavailable between 5:00pm and 7:00pm on the 19 March 2024, whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Cynnyrch â chyfyngiad oed arnynt

Mae'n ffaith anymunol bod mwy a mwy o bobl ifanc yn dechrau ysmygu ac yfed alcohol yn ifancach. Mae gan ein hadran Safonau Masnach ddyletswydd i orfodi cyfreithiau sydd wedi'u cynllunio i amddiffyn iechyd a lles plant a phobl ifanc rhag cynnyrch niweidiol sy'n creu difrod.

Ymhlith y rhain mae:

  • Alcohol
  • Sigaréts
  • Toddyddion ac ail-lenwyr tanwyddau bwten
  • Tân gwyllt
  • Paent chwistrell aerosol
  • Cyllyll
  • Fideos/DVDs
  • Petrol

Atal gwerthu i unigolion o dan oed

Os caiff cynnyrch â chyfyngiad oed arno ei werthu i unigolyn o dan oed, gall y manwerthwr a'r gwerthwr fod yn euog o drosedd. Mae hyn yn gymwys hyd yn oed os yw'r unigolyn o dan oed yn prynu'r eitem i oedolyn. Os nad ydych yn siwr, ac na all yr unigolyn ddarparu prawf dilys o'u hoedran, ein cyngor yw eich bod yn gwrthod gwerthu'r nwyddau iddynt.

Os ydych yn gwerthu cynnyrch â chyfyngiad oed arnynt mae angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o'r terfynau oedran. Dylai pob aelod o staff gael hyfforddiant digonol a dylent fod yn ymwybodol o weithdrefnau a pholisïau'r cwmni.

Rydym wedi llunio pecyn canllaw manwl i fusnesau ar atal gwerthiannau o dan oed ar safleoedd o'r enw, 'No Proof, No Sale'. Mae'r pecyn yn cynnwys canllaw manwl ar y gyfraith yn gysylltiedig â phob cynnyrch, dulliau arfer gorau i atal gwerthu, gwybodaeth am hyfforddiant i staff a deunydd arddangos i'w ddefnyddio mewn safleoedd manwerthu. Gallwch gysylltu â ni i ofyn am gopi neu, mae copi ar gael i'w lawrlwytho.

No Proof, No Sale (PDF 147kb)

No Proof, No Sale (PDF 147kb)

Ceir rhestr lawn o derfynau oedran ac uchafswm dirwyon am werthu nwyddau â chyfyngiad oed arnynt ar wefan Business Companion yr adran Safonau Masnach.

Ymarferion prawf-brynu

Rydym yn cynnal ymarferion prawf-brynu gan ddefnyddio gwirfoddolwyr sy'n blant yn rheolaidd. Gofynnir i wirfoddolwyr geisio prynu amrywiaeth o nwyddau â chyfyngiad oed arnynt gan gynnwys alcohol, tân gwyllt, tybaco a thoddyddion. Os cewch eich dal yn gwerthu'r nwyddau hyn i unigolyn o dan oed gall hyn arwain at achos cyfreithiol.

Os ydych yn gwybod am siopau neu dafarndai sy'n gwerthu cynnyrch â chyfyngiad oed arnynt i unigolion o dan oed, rhowch wybod i ni ar-lein neu drwy gysylltu â ni.

Dod yn wirfoddolwr prawf-brynu

Rydym bob amser yn edrych am wirfoddolwyr i'n helpu gyda phrawf-brynu cynnyrch â chyfyngiad oed arnynt megis sigaréts, alcohol a thân gwyllt, sy'n cael eu cynnal drwy gydol y flwyddyn. Rhaid i wirfoddolwyr fod rhwng 13 a 16½ mlwydd oed a byddant yn derbyn tystysgrif cyflawniad am eu cymorth. Ewch i'r adran gwirfoddoli gwerthiannau i unigolion o dan oed i gael manylion.

Gwirio prawf oedran

Y ffordd hawsaf i atal gwerthu i gwsmeriaid o dan oed yw gofyn i gwsmeriaid ifanc am brawf oedran bob tro, hyd yn oed os ydynt yn edrych ddigon hen yn y lle cyntaf.

Mae'r heddlu a'r adran Safonau Masnach yn argymell mai dim ond prawf oedran gyda dyddiad geni a llun arno y dylech ei dderbyn. Mae  'Validate cards' yn Gynllun Safonau Prawf Oedran (PASS) achrededig.

Mae'r adran Safonau Masnach yn dosbarthu cardiau dilysu (validate cards) i bob disgybl ym mlwyddyn 11 yn y fwrdeistref drwy eu hysgol. Os ydych yn dal mewn addysg uwchradd ac nad oes gennych gerdyn dilysu (validate cards), gallwch gael cerdyn am ddim gan eich ysgol.

Fel arall, gallwch gwblhau ffurflen gais yn un o'r gorsafoedd heddlu canlynol: Bargod, Bedwas, Caerffili, y Coed Duon, Rhisga, Ystrad Mynach, Rhymni.

Mae ffurfiau eraill derbyniol o brawf adnabod a argymhellir yn cynnwys y canlynol:

  • Pasbort
  • Trwydded yrru â llun
  • Cardiau prawf oedran awdurdodedig eraill cardiau PASS achrededig

Caiff cardiau prawf oedran ffug eu defnyddio, felly os nad ydych yn fodlon gydag unrhyw gerdyn am unrhyw reswm, gwrthodwch werthu'r cynnyrch. Ni argymhellir defnyddio eitemau megis tystysgrifau geni a chardiau yswiriant gwladol gan nad oes llun arnynt a gellir eu rhannu rhwng ffrindiau. Yn gyfreithiol mae gennych hawl i wrthod unrhyw gwsmer sydd naill ai dros oed neu o dan oed os nad ydych yn fodlon â'r gwerthiant mewn unrhyw ffordd.

Cysylltwch â ni