Cyfleoedd masnachu Coed Duon
Coed Duon yw ail dref fwyaf y fwrdeistref sirol ac yn un o’r ddwy ganolfan is-ranbarthol.
Mae gan y dalgylch boblogaeth o tua 34,000 ac mae’n cynnwys Argoed, Cefn Fforest, Penmaen, Pengam, Pontllan-fraith ac Ynys-ddu. Mae nifer o adwerthwyr lluosog yn bresennol yng nghanol tref Coed Duon, gan gynnwys: Argos, Wilko, Costa Coffee, Peacocks, Boots, Iceland, B & M Bargains, Superdrug a Poundland, yn ychwanegol at Sinema Maxime sydd â phum sgrin.
Mae’r dref hefyd yn cynnig dewis eang i siopwyr o fanwerthwyr annibynnol, gan wneud ystod ac amrywiaeth ei gynnig o ran manwerthu i fod yn gryfder ei apêl.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Coed Duon wedi gwella’n ddramatig ei seilwaith trafnidiaeth ar ôl gweld adeiladu Ffordd Fenter Sirhywi a Phont y Siartwyr eiconig. Mae’r ffordd newydd bellach yn cysylltu canol y dref gyda Pharc Busnes Oakdale a chymunedau Pen-y-fan ac Oakdale, yn agor y dref i 5,000 o gwsmeriaid ychwanegol posibl.
Mae Coed Duon wedi hir fod yn gyfnewidfa ar gyfer llwybrau bysiau o bob cwr o Gymoedd De-ddwyrain Cymru ac mae adeiladu’r Gyfnewidfa Gorsaf Fysiau gwobrwyol wedi cynyddu hygyrchedd y dref i bobl o’r ardal gyfagos. Mae’r buddsoddiadau newydd yn gwneud Coed Duon yn ddewis deniadol i fuddsoddwyr sy’n edrych i leoli eu hunain yng Nghymoedd y De-ddwyrain.
Mae datblygiadau sector preifat o ddau barc manwerthu, a leolir ar ddau ben canol y dref, wedi creu cyfleoedd newydd ar gyfer manwerthwyr sy’n chwilio am bresenoldeb yn ardal Cymoedd y De-ddwyrain.
Rhagor o wybodaeth
Os hoffech siarad â rhywun am gyfleoedd manwerthu yng Nghoed Duon, neu os hoffech gopi o’r Portffolio Buddsoddi a’r adroddiadau ystadegol annibynnol, cysylltwch â Thîm Rheoli Canol y Dref.
