Cyfleoedd manwerthu Rhisga
RMae Rhisga wedi’i lleoli mewn ardal hardd yn ne-ddwyrain y Fwrdeistref Sirol..
Mae’r dref yn gorwedd mewn dyffryn eang a amgylchynir gan fryniau serth llawn coedwigoedd. Mae’n agos at Goedwig Cwmcarn, sy’n cynnig rhywbeth ar gyfer y teulu cyfan a gellir ei harchwilio ar feic neu ar droed.
Caiff ei ffinio gan Gamlas Sir Fynwy ac Aberhonddu ar un ochr ac Afon Ebwy ar y llall. Mae’r dref yn buddio o’i hagosrwydd at yr M4 ac mae ganddi gysylltiadau rheilffyrdd da. Mae gorsaf reilffordd newydd wedi’i hadeiladu yn Rhisga yn dilyn ail-agor llinell Rheilffordd Glyn Ebwy ar gyfer trafnidiaeth i deithwyr ac mae bellach yn darparu cymudwyr gyda gwasanaeth bob awr i mewn i ganol dinas Casnewydd.
Manwerthwyr annibynnol bach yn bennaf sydd yno, sy’n rhoi i Risga naws tref farchnad fechan. Mae siop fwyd Lidl wedi’i lleoli yng nghanol y dref ac archfarchnad Tesco wedi’i hadeiladu ar hen safle tir llwyd. Mae’r siop â chysylltiad i ganol y dref gyda phont droed dros Afon Ebwy.
Yn y blynyddoedd diwethaf, bu buddsoddiad newydd sylweddol yn y dref gyda’r cyn adeilad Sinema’r Palas yn cael ei ailddatblygu’n gyflawn. Mae’r adeilad wedi’i ailgyflunio ac yn cadw ffasâd hanesyddol y sinema wreiddiol ac yn awr mae’n cynnwys llyfrgell gyda chyfleuster Cwsmer yn Gyntaf.
Mae gan ganol tref Rhisga y fantais o gael Parc Tiroedd Tredegar wedi’i leoli yn ganolog sy’n darparu ardal chwarae i blant a hefyd yn safle digwyddiad pwrpasol, y gellir ei ddefnyddio gan y gymuned leol i gynnal digwyddiadau.
Os hoffech siarad â rhywun am gyfleoedd manwerthu yn Nhref Rhisga, neu os hoffech gopi o’r Portffolio Buddsoddi a’r adroddiadau ystadegol annibynnol, cysylltwch â Thîm Rheoli Canol y Dref.

