Cytundeb Cyflenwi

Mae'r Cytundeb Cyflenwi yn cynnwys amserlen ar gyfer paratoi a chyflwyno'r Ail Gynllun Datblygu Lleol Newydd, ac mae'n cynnwys Cynllun Cynnwys Cymunedau sy'n nodi sut y gall y cyhoedd a grwpiau eraill sydd â diddordeb gyfrannu at baratoi'r cynllun.

Cytunwyd ar y Cytundeb Cyflenwi gan Lywodraeth Cymru ar 17 Mehefin 2021. Mae hyn yn golygu y gall gwaith gychwyn yn ffurfiol ar yr Ail Gynllun Datblygu Lleol Newydd.

Oherwydd marwolaeth Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II, cafodd y cyfarfody Cyngor Arbennig, pan oedd y Strategaeth a Ffefrir am gael ei hystyried, ei ganslo a'i aildrefnu ar gyfer 29 Medi. Mae hyn yn mynd â'r cynllun y tu hwnt i'r llithriad tri mis wedi'i nodi yn y Cytundeb Cyflenwi cytunedig o fis Mehefin 2021.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau cytundeb i'r llithriad ychwanegol i'r cynllun. Mae'r sefyllfa hon yn adlewyrchu arwyddocâd cenedlaethol y digwyddiadau diweddar, ac nad oes effaith andwyol ar randdeiliaid.

Mae'r llythyr hwn ar gael yn gyhoeddus yn unol â'r gofynion sydd wedi'u nodi yn Rheoliad 10, sy'n gysylltiedig â'r Cytundeb Cyflenwi cytunedig.

Llithriad Cytundeb Cyflenwi 

Cysylltwch â ni