Faint fydd yn rhaid i mi ei dalu?

Codir tâl ar ddatblygiadau cymwys sy’n cael caniatâd cynllunio o 1 Gorffennaf 2014 yn unol â’r cyfraddau a nodir yn y Rhestr Codi Tâl am ASC.

Cyfrifir y swm sy’n daladwy drwy luosi maint gofod llawr y datblygiad sy’n atebol i dalu ASC gyda’r gyfradd briodol o Restr Codi Tâl am ASC y cyngor. At hynny, wrth i brisiau newid dros amser, defnyddir addasydd i adlewyrchu’r newidiadau hyn.  Gelwir yr addasydd hwn yn Fynegai ASC, ac mae’n seiliedig ar y Mynegai Pris Tendro Mewnol sydd ar gael gan y Gwasanaeth Gwybodaeth Costau Adeiladu (BSIC).

Caiff y swm sy'n daladwy ei gyfrifo pan gaiff caniatâd cynllunio ei gymeradwyo. Dangosir cyfrifiadau enghreifftiol o Atebolrwydd ASC yn nodyn canllaw 1 – cyfrifiadau enghreifftiol o atebolrwydd ASC (PDF).

Lle bo’n rhaid i ddatblygiad dalu mwy na £40,000 o gostau ASC, gall wneud y taliad mewn 4 rhandaliad dros gyfnod o 18 mis. Ceir manylion yn ein Polisi Rhandaliadau

Mae taliadau ASC yn orfodol, ac nid oes modd eu trafod. Os na fyddwch yn talu ar amser, cewch gosb, a chaiff unrhyw gytundeb i dalu drwy randaliadau ei dynnu’n ôl. Ceir pwerau gorfodi cryf a chosbau os methir â thalu, gan gynnwys 'hysbysiadau stopio', gordaliadau a dedfryd o garchar.

Rhyddhad o gostau ASC

Mae'r Rheoliadau ASC yn eithrio mathau penodol o ddatblygiadau sy’n atebol i dalu ASC rhag y gost. Mae’r Rheoliadau ASC yn darparu ar gyfer dau fath o eithriad - eithriadau gorfodol, h.y. eithriadau sydd bob amser yn berthnasol, ac eithriadau yn ôl disgresiwn, h.y. eithriadau y mae'r cyngor, fel yr awdurdod codi tâl, wedi'u rhoi ar gael.

Mae’r eithriadau gorfodol fel a ganlyn:

Mae’r cyngor wedi ymrwymo i gynnig y canlynol yn ôl disgresiwn:

  • Datblygiadau Elusennol ar gyfer Buddsoddiad (Rheoliad 44, Nodyn Canllaw 4 ASC: Datblygiad Elusennol)
  • Datblygiad Elusennol fel Cymorth Gwladwriaethol (Rheoliad 45, Nodyn Canllaw 4 ASC: Datblygiad Elusennol)
  • Perchentyaeth Cost Isel Tai Cymdeithasol (Rheoliad 49A, Nodyn Canllaw 3 ASC: Rhyddhad Tai Cymdeithasol). Ceir gwybodaeth fanwl am y prosesau ar gyfer hawlio'r rhyddhad hwn yn​ Adran 2.7 o’r Canllaw ar yr Ardoll Seilwaith Cymunedol.

Mae’n rhaid gwneud cais am yr eithriadau uchod, ac eithrio’r Datblygiadau Bach a’r Rhandai, ac ni chânt eu cymhwyso fel mater o drefn. Penderfynir ar yr eithriadau Datblygiadau Bach a Rhandai ac Estyniadau Preswyl gan y Cyngor fel rhan o broses weinyddol y cais.

Mae’r Rheoliadau ASC yn nodi gofynion penodol ar gyfer yr ymgeisydd a’r awdurdod codi tâl ar gyfer cymeradwyo’r Tâl ASC. Dylid nodi bod yr eithriadau uchod ond ar gael os yw'r HOLL ofynion ASC wedi'u bodloni a bod y ffurflenni a'r hysbysiadau priodol wedi'u cyflwyno ar yr adeg briodol. Nodir manylion y broses a’r gofynion ar gyfer ymgeiswyr yn yr adran ‘Rydw i wedi cyflwyno fy Nghais a'r Ffurflen Pennu ASC, beth nesaf?' isod.

Lle nad yw gofynion y Rheoliadau ASC wedi'u bodloni, ni ellir gwneud eithriadau a bydd y tâl ASC llawn yn daladwy ar unwaith, neu pan fydd y gwaith datblygu’n dechrau.

Datblygiadau a ganiateir a datblygiadau hysbysiad ymlaen llaw

Mewn achosion prin, gall ‘datblygiad a ganiateir’ (hynny yw, datblygiad nad oes angen caniatâd cynllunio ar ei gyfer) fod yn ddigon mawr i fod yn atebol i dalu ASC. Rhaid i chi gyflwyno hysbysiad o ddatblygiad taladwy i ni cyn i'r gwaith datblygu ddechrau. Yna caiff y tâl ASC ei gyfrifo a’i gymhwyso yn yr un modd â phe bai caniatâd cynllunio wedi'i roi.

Mae hyn hefyd yn wir ar gyfer datblygiadau sy’n cael caniatâd cynllunio dan y broses ‘hysbysiad ymlaen llaw’, yn arbennig gwaith i newid swyddfeydd yn llety preswyl.

Cysylltwch â ni

Tudalennau Cysylltiedig

Apeliadau