Beth yw ASC?

Mae’r Ardoll Seilwaith Cymunedol (a elwir yn ‘Yr ardoll’ neu ‘ASC’) yn galluogi awdurdodau cynllunio lleol i godi arian gan ddatblygwyr sy’n mynd i’r afael â phrojectau adeiladu newydd yn eu hardal. Bydd y cyllid a godir yn cael ei fuddsoddi mewn seilwaith y mae ei angen i gefnogi twf, megis ysgolion a gwelliannau trafnidiaeth.

Cymhwysir ASC fel ffi ar bob metr sgwâr o ofod llawr newydd a grëir gan y datblygiad, a chaiff cyfraddau gwahanol eu nodi ar gyfer mathau gwahanol o ddatblygiadau, yn dibynnu ar ba mor ymarferol mae pob math o ddatblygiad. Mae ASC yn disodli nifer o rwymedigaethau cynllunio presennol, fel Rhwymedigaeth Rhwydwaith Strategol Basn Caerffili. Bydd cytundebau Adran 106 yn parhau i gael eu defnyddio at ddibenion safle-benodol i wneud datblygiadau unigol yn dderbyniol o safbwynt cynllunio. Byddwn hefyd yn defnyddio cytundebau Adran 106 i sicrhau tai fforddiadwy o gynlluniau datblygu preswyl.

Mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi Canllawiau ar yr Ardoll Seilwaith Cymunedol. Mae’r ddogfen hon ar ffurf cwestiynau ac atebion a bydd yn ymdrin â’r rhan fwyaf o ymholiadau sydd gennych chi am ASC.

Daeth y Rhestr Codi Tâl am ASC i rym ar 1 Gorffennaf 2014 ac mae’n berthnasol i bob datblygiad cymwys sy’n cael ei gymeradwyo ar ôl y dyddiad hwn.

Beth mae arian ASC yn cael ei wario arno?

Gall yr arian a godir drwy'r ffi gael ei ddefnyddio i ariannu seilwaith angenrheidiol lle nad oes digon o gyllid, os o gwbl, i'w ddarparu. Mae’n ofynnol i ni baratoi a chyhoeddi rhestr o’r holl seilwaith y gellid ei ddarparu drwy ASC. Mae’r rhestr hon i’w gweld yn Rhestr Seilwaith Rheoliad 123.

Faint sy’n rhaid i mi ei dalu?

Rhaid i gyfraddau ASC gael eu gosod yn lleol drwy sicrhau cydbwysedd rhwng faint o ASC y gellid ei godi i ddarparu projectau seilwaith newydd ac effaith ASC ar ymarferoldeb cynlluniau datblygu newydd. Ewch i ‘Faint sy’n rhaid i mi ei dalu?’ i weld manylion y costau.

A fydd fy natblygiad yn atebol i dalu ASC?

Nid yw pob datblygiad yn atebol i dalu ASC. Fodd bynnag, y Cyngor, fel yr Awdurdod Codi Tâl, sy’n penderfynu a yw datblygiad arfaethedig yn atebol i dalu ASC. I’n galluogi ni i wneud hyn, bydd yn ofynnol i ‘Ffurflen Pennu ASC’ gael ei chwblhau a’i chyflwyno fel rhan o bob cais cynllunio. I gael rhagor o wybodaeth am atebolrwydd ASC ewch i’r wefan ‘Ceisiadau cynllunio sy’n atebol i dalu ASC’.

Cysylltwch â ni