Asesiad risg pyllau glo

Dylid cyflwyno Adroddiad ar Sefydlogrwydd Datblygiad gyda phob cais cynllunio lle y bo’n briodol. I gael gwybod a oes angen adroddiad o’r fath ar gyfer eich safle, ewch i wefan yr Awdurdod Glo. Os oes angen adroddiad arnoch, mae cyngor ar gael ar y wefan ar sut i fynd ati i’w gael.

Ar ôl cael yr adroddiad, dylech ystyried p’un a oes angen Asesiad Risg Pyllau Glo arnoch, sef dogfen sy’n asesu effaith unrhyw waith cloddio glo blaenorol ar eich datblygiad, ac sy'n cynnwys unrhyw fesurau lliniaru priodol.

Ni allwn benderfynu ar eich cais nes eich bod wedi mynd i'r afael â'r materion hynny yn briodol.

Cysylltwch â ni