Cerbydau Hygyrch i Gadeiriau Olwyn
Cafodd gofyniad i gynnal rhestr ddynodedig o gerbydau hygyrch i gadeiriau olwyn fel y gweithredir gan y Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ei gymeradwyo gan y Pwyllgor Trwyddedu Tacsi a Chyffredinol y Cyngor.
Mae cyhoeddi’r rhestr ddynodedig yn rhoi rhwymedigaethau ar yrwyr cerbydau hygyrch i gadeiriau olwyn.
- I gario’r teithiwr/wraig tra ei fod/ei bod yn y gadair olwyn
- Peidio â gwneud tâl ychwanegol am wneud hynny
- I gario’r gadair olwyn os yw’r teithiwr/wraig yn dewis i eistedd mewn sedd teithiwr/wraig
- I gymryd camau o’r fath sydd yn angenrheidiol er mwyn sicrhau bod y teithiwr/wraig yn cael ei gario/ei chariot mewn cysur rhesymegol; a
- I roi cymorth symudedd i deithiwr/wraig fel sy’n ofynnol yn rhesymegol
Mae cymorth symudedd yn cael ei ddiffinio fel y ganlyn: -
- Er mwyn galluogi’r teithiwr/wraig i fynd i mewn ac allan o’r cerbyd
- I alluogi’r teithiwr/wraig i fynd i mewn neu allan o’r cerbyd tra yn y gadair olwyn os yw’r teithiwr/wraig yn dymuno aros yn y gadair olwyn
- I lwytho bagiau’r teithwyr i mewn neu allan o’r cerbyd
- I roi’r gadair olwyn i mewn neu ei thynnu allan o’r cerbyd os nad yw’r teithiwr/wraig yn dymuno aros yn y gadair olwyn
Wrth archebu tacsis hygyrch i gadeiriau olwyn, cynghorir y cyhoedd i wirio gyda’r gweithredwr y gall y cerbyd gymryd y math arbennig o gadair olwyn.