Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis. Cliciwch am fwy o fanylion.
Caerphilly Logo
  • Skip to content
  • Hygyrchedd
  • Cysylltwch â ni
  • Y ganolfan newyddion
  • Tanysgrifio
  • English
  • Tasgau poblogaidd
  • Preswylydd
  • Busnes
  • Pethau i'w gwneud
  • Y Cyngor
  • Cymerwch ran
  • Covid-19
  • Tasgau poblogaidd
    • Swyddi a hyfforddiant
    • Gwybodaeth Brechlyn COVID-19
    • Canolfannau Hamdden
    • Taliadau Cymorth i Ofalwyr Di-dâl
    • Cynllun Cymorth Costau Byw
    • Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
    • Cefnogi Pobl – cymorth yn ymwneud â thai
    • Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
    • Gwastraff heb ei gasglu
    • Amserlenni bysiau
    • Etholiadau Lleol 2022
    • Councillors and committees
    • Canolfannau ailgylchu
    • Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
    • Diwrnodau casglu gwastraff
  • Preswylydd
  • Busnes
  • Pethau i'w gwneud
  • Y Cyngor
  • Cymerwch ran
  • Covid-19
A allaf helpu?
Argyfwng Wcráin : Mae'r manylion am sut i gynnig cymorth, a ble i gael gwybodaeth a chyngor, ar gael ar ein tudalen we Cymorth i Wcráin.
  • Busnes    Trwyddedu a chaniatâu    Tacsi    Canllawiau COVID-19 i Ddeiliaid Trwydded Tacsi a Phreifat

 Rhybudd Oren am Dywydd Eithafol / Amber Extreme Weather Warning

Mae disgwyl tymheredd uchel dros y penwythnos a dechrau'r wythnos nesaf. Mae tywydd poeth yn gallu cynyddu perygl diffyg hylif a thrawiad gwres. Mynnwch gyngor ar sut i gadw'n oer gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
High temperatures are expected for the next few days. Hot weather can increase your risk of dehydration and heatstroke. Get advice on how to stay cool from Public Health Wales.

Further information available

Taxi and private licence holders - Covid-19 guidance

Mae gweithredwyr tacsis a cherbydau hurio preifat yn darparu gwasanaeth hanfodol i’r cyhoedd ac mae canllawiau presennol y llywodraeth yn caniatáu iddynt barhau i weithredu. Os ydych yn yrrwr tacsi sy’n gweithio yn ystod argyfwng COVID-19, mae’n siŵr eich bod yn poeni am eich iechyd a diogelwch chi yn ogystal â’ch teithwyr.

Mae’r sefyllfa’n newid yn gyson ac felly cynghorir teithwyr, gyrwyr a gweithredwyr i sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r canllawiau diweddaraf ar deithio. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi gwybodaeth am y coronafeirws (COVID-19) a chyngor ar deithio a thrafnidiaeth a chanllawiau i deithwyr a gweithredwyr.

Mae gan yrwyr a gweithredwyr ddyletswydd i gymryd gofal rhesymol o ddiogelwch eu teithwyr ac felly fe’u cynghorir i ddilyn yr egwyddorion a’r enghreifftiau yng nghanllawiau’r llywodraeth a’u troi’n weithredoedd penodol.

Bydd dilyn y cyngor diweddaraf ar hylendid a chadw pellter cymdeithasol yn eich helpu i’ch cadw chi a’ch cwsmeriaid yn fwy diogel.

  • Peidiwch â gweithio fel gyrrwr neu deithio fel teithiwr os oes gennych COVID-19, os oes gennych unrhyw un neu ragor o’r prif symptomau neu os ydych yn credu eich bod wedi dod i gysylltiad â’r feirws drwy deithiwr (neu rywle arall).  
  • Gwnewch yn siŵr bod y cerbyd wedi’i awyru’n dda: agorwch y ffenestri os yw’n gyfforddus gwneud hynny ac ni ddylid gosod y system aerdymheru i ail-gylchredeg yr aer.  
  • Dilynwch y canllawiau ar gadw pellter cymdeithasol ac osgoi cyswllt corfforol: defnyddiwch daliadau digyffwrdd lle bynnag y bo’n bosibl.  
  • Golchwch eich dwylo’n rheolaidd a pheidio â chyffwrdd eich wyneb. Efallai y bydd gyrwyr yn dymuno cael hylif diheintio dwylo a hancesi papur ar gael iddynt hwy ac i deithwyr.  
  • Ar ôl pob cwsmer, dylid glanhau’r cerbyd yn drylwyr gan ddefnyddio chwistrelliad diheintio, yn benodol yr arwynebau y mae cwsmeriaid yn debygol o’u cyffwrdd, er enghraifft dolenni drws a chlipiau’r gwregys diogelwch.
  • Cynghorir gyrwyr i lanhau’r mannau hynny o’r cerbyd y maent yn eu cyffwrdd yn rheolaidd ychydig o weithiau'r dydd a phob amser ar ddechrau a diwedd pob shifft. Mae hyn yn cynnwys dolenni drysau, y llyw, y brêc llaw a’r switsys.
  • Nid yw masgiau wyneb yn orfodol mewn cerbydau hacni neu gerbydau hurio preifat ar hyn o bryd yng Nghymru. Mae’r dystiolaeth yn awgrymu nad yw gwisgo gorchudd wyneb yn eich diogelu chi, ond gallai ddiogelu eraill os ydych wedi’ch heintio. Mae angen esbonio’n glir y gofyniad i deithwyr wisgo masg wyneb wrth dderbyn archeb. Mae’n bwysig bod teithwyr yn gallu eich adnabod fel gyrrwr cyfreithlon. Felly, byddwch yn barod i dynnu gorchuddion wyneb er mwyn i deithwyr weld yn glir o’ch bathodyn trwydded mai chi ydych chi, gan ddilyn y canllawiau priodol ar gyfer cadw pellter cymdeithasol. 
  • Gwelwyd cynnydd yn y diddordeb i ddefnyddio sgriniau fel ffordd o ddarparu gwahaniad ffisegol rhwng gyrwyr a theithwyr er mwyn lleihau trosglwyddiad COVID-19. Nid oes tystiolaeth ar gael i ddangos bod partisiwn mewn tacsis neu gerbydau hurio preifat yn lleihau trosglwyddo’r haint COVID-19, ond gallai greu canlyniadau o ran beth allai ddigwydd y tu mewn i gerbyd pe byddai gwrthdrawiad. Mae’n bwysig bod unrhyw sgrin ddiogelu yn cael ei gosod yn ddiogel ac nad yw’n cyflwyno unrhyw beryglon diogelwch newydd ac anfwriadol. Nid yw’r Cyngor yn bwriadu ei gwneud yn ofyniad i osod sgriniau. Byddai angen i yrwyr sy’n dymuno gosod sgrin wneud hynny yn unol â pholisi’r Cyngor ar osod sgrin ddiogelwch dros dro mewn cerbydau hurio preifat gan gynnwys sicrhau caniatâd gan yr adran drwyddedu. Mae’r polisi ar gael yma.  

Nid oes unrhyw ofyniad i weithredwr hurio preifat ymrwymo i gontract i ddarparu cerbyd hurio preifat i unrhyw un, ar yr amod nad yw unrhyw wrthodiad yn seiliedig ar nodwedd warchodedig o dan adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol). Mae rhagor o ganllawiau ar pryd y byddai’n rhesymol i wrthod taith ar gael ar wefan y sefydliad trwyddedu.

Mae rhagor o wybodaeth ddefnyddiol ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Polisi Sgriniau Dros Dro mewn Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat

Crynodeb

  1. Mae amodau trwydded y Cyngor yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod trwyddedu gymeradwyo unrhyw addasiadau a wneir i gerbyd. Os bydd gyrrwr/gweithredwr yn dymuno gosod sgrin dros dro, dylai ddilyn y Weithdrefn Gymeradwyo isod.  

  2. Y gyrrwr/gweithredwr sy’n gyfrifol am sicrhau bod y ddyfais sy’n cael ei gosod yn cydymffurfio â rheoliadau’r llywodraeth a’r diwydiant, ei bod yn addas i’r diben ac nad yw'n cyfaddawdu diogelwch y cyhoedd.  

  3. Mae angen glanhau a chynnal a chadw’r sgriniau yn rheolaidd.  

  4. Mae’r Cyngor yn cadw’r hawl i gael gwared ar unrhyw sgriniau os bydd unrhyw bryderon ynghylch eu diogelwch, eu haddasrwydd i’r diben neu gydymffurfiaeth â deddfwriaeth iechyd a diogelwch.

Cyflwyniad 

  1. Oherwydd y pandemig Coronafeirws, rydym wedi derbyn ymholiadau yn ddiweddar gan yrwyr ynglŷn â gosod sgriniau diogelu yn eu cerbydau rhwng y seddau blaen a’r seddau ôl.  

  2. Mae partisiwn neu sgriniau diogelwch yn darparu rhwystr ffisegol rhwng gyrwyr a theithwyr yn y cerbyd. Maent yn cael eu gosod fel arfer fel nodwedd diogelwch i ddiogelu’r gyrrwr rhag ymosodiadau corfforol neu ladrad. Gwelwyd cynnydd yn y diddordeb i ddefnyddio sgriniau fel ffordd o ddarparu gwahaniad ffisegol rhwng gyrwyr a theithwyr er mwyn lleihau trosglwyddo COVID-19.  

  3. Nid oes tystiolaeth ar gael i brofi bod gosod partisiwn mewn tacsis neu gerbydau hurio preifat yn lleihau’r risg o drosglwyddo’r haint COVID-19. Nid yw sgriniau mewn tacsis neu gerbydau hurio preifat yn darparu uned wedi’i selio’n llwyr sy’n gwahanu’r gyrrwr oddi wrth y teithiwr yn llwyr. Felly, er bod posibilrwydd y gallai partisiwn leihau’r risg o drosglwyddo haint, ni fyddai’r risg yn cael ei diddymu’n llwyr.  

  4. Mae’r Tîm Trwyddedu yn sylweddoli bod unrhyw beth sy’n helpu i ddiogelu gyrwyr a theithwyr rhag lledaeniad y coronafeirws i’w groesawu, ond mae’n bwysig bod unrhyw offer ôl-farchnad yn cael eu gosod yn ddiogel ac nad ydynt yn cyflwyno peryglon newydd ac anfwriadol i ddiogelwch.  

  5. Yn dilyn profion diogelwch cynhwysfawr, bydd cerbydau wedi cyflawni’r Gymeradwyaeth Math Cerbyd Cyfan Ewropeaidd a gallai newid neu ychwanegu at du mewn y cerbyd newid ‘cymeradwyaeth math’ y cerbyd. Hefyd, gallai unedau sydd wedi’u gosod yn wael, eu hadeiladu’n amhriodol, neu gynnyrch a gynhyrchwyd gan ddefnyddio deunyddiau anniogel gael effaith drychinebus pe byddai cerbyd yn cael damwain ar y ffordd.  

  6. Mae’r Cyngor yn ymwybodol bod yna gwmnïau sy’n hysbysebu’r gosodiadau ‘sydd wedi bod yn destun asesiad risg llawn’, nad ydynt yn cydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol. Dylai gyrwyr fod yn ymwybodol hefyd y gallai gosod sgrin effeithio ar allu cerbyd i basio prawf MOT, er enghraifft pan fyddant yn cyfyngu ar symudiad y seddau blaen. Cynghorir gyrwyr i sicrhau cadarnhad annibynnol gan weithgynhyrchwr y cerbyd, MIRA (neu gorff tebyg) a’u hyswiriwr cyn talu i osod sgrin a allai fod yn beryglus ac nad yw’n cydymffurfio.  

  7. Mae amodau trwydded y Cyngor yn datgan:

‘bydd angen hysbysu’r Cyngor ynghylch unrhyw addasiad i ddyluniad cerbyd, naill ai i beirianwaith neu i’r corff, a gallai ofyn i’r perchennog gyflwyno’r cerbyd ar gyfer archwiliad pellach.’

  1. Am y rhesymau hyn, cyn gosod unrhyw ddyfais sgrinio yn wirfoddol yn eich cerbyd, mae’n rhaid i chi wneud cais am gymeradwyaeth i osod sgrin dros dro yn dilyn y weithdrefn isod.

Gofynion cyffredinol

  1. Mae’r penderfyniad i osod sgrin ddiogelwch yn benderfyniad i’r gyrrwr, perchennog a/neu’r gweithredwr ei wneud, ar ôl cynnal eich asesiad risg eich hun. Oherwydd yr amrywiaeth eang ac amrywiol o gerbydau a’r gwahanol fathau o sgriniau diogelwch sydd ar gael, nid yw’n bosibl cynnig cyngor penodol ar brynu neu osod y dyfeisiau hyn; fodd bynnag, mae’n rhaid bodloni’r gofynion sylfaenol canlynol:

 
  1. Mae’n rhaid i’r ddyfais fod wedi’i hadeiladu i’r diben fel sgrin ddiogelwch mewn cerbyd ac mae’n rhaid iddi fod yn addas i wneuthuriad a model penodol y cerbyd.

  1. Ni ddylai lapio o gwmpas sedd y gyrrwr a chreu rhaniad rhwng y ddwy sedd flaen, yn ogystal â rhwng y blaen a’r cefn.

 
  1. Ni ddylai gosodiad a/neu ddyluniad y ddyfais ddylanwadu neu ymyrryd yn andwyol â chryfder strwythurol neu systemau diogelwch y gyrrwr a’r teithiwr (gan gynnwys bagiau aer) yn y cerbyd. Yn benodol, ni ddylai’r gosodiad:

 
  1. Cyflwyno unrhyw risg ychwanegol i deithwyr a/neu’r gyrrwr yn ystod gwrthdrawiad a/neu pan fo’r cerbyd yn cael ei ddefnyddio fel arfer fel tacsi neu gerbyd hurio preifat.

  2. Ymyrryd â gweithrediad diogel y cerbyd a/neu nodweddion diogelwch y cerbyd ar unrhyw adeg.

  3. Rhwystro neu amharu ar olwg y gyrrwr a/neu’r teithwyr mewn unrhyw ffordd.

 
  1. Mae’n rhaid i sgriniau gael eu gosod yn broffesiynol ac yn ddiogel a chael eu cynnal a’u cadw yn unol â manylebau ac argymhellion y gwneuthurwr.

 
  1. Ni ddylai fod unrhyw grafiadau, cymylu neu sticeri ar ddyfeisiau, a fyddai’n amharu ar welededd y gyrrwr neu’r teithwyr.

 
  1. Ni ddylai sgriniau amharu ar symudiad y gyrrwr na’i allu i gyfathrebu â theithwyr.

 
  1. Ni ddylai sgriniau amharu ar allu gyrrwr neu deithiwr i fynd i mewn ac allan o’r cerbyd na chyflwyno perygl baglu.

 
  1. Os ydych wedi gosod sgrin ddiogelwch gymeradwy yn eich cerbyd, mae’n rhaid i chi wneud yn siŵr eich bod yn glanhau’r sgrin ar ôl pob taith gyda theithiwr, yn ogystal ag arwynebau caled eraill er enghraifft dolenni drysau, weindwyr ffenestri, gwregysau diogelwch, dyfeisiau talu, y seddau blaen neu ôl ac arwynebau eraill y gallai teithwyr fod wedi’u cyffwrdd gan ddefnyddio diheintydd cartref arferol. Yna, dylai gyrwyr olchi/diheintio eu dwylo eu hunain. Dylid cwblhau proses lanhau drylwyr o’r cerbyd gyda chynnyrch glanhau arferol ar ddiwedd pob shifft/diwrnod gwaith.  

  2. Bydd y perchennog yn sicrhau bod y sgrin ddiogelwch yn cael ei chynnal a’i chadw’n briodol ac yn rheolaidd yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr gan berson cymwys. Bydd y perchennog yn llunio ac yn cadw cofnodion ysgrifenedig o bob gwaith cynnal a chadw am o leiaf 12 mis. Bydd cofnodion ysgrifenedig o’r fath ar gael ar gais gan swyddog awdurdodedig y Cyngor, neu swyddog Heddlu.

Y Weithdrefn Gymeradwyo 

  1. Os ydych yn dymuno gosod sgrin ddiogelwch, bydd angen i chi wneud cais i’r Cyngor yn Trwyddedu@caerffili.gov.uk a darparu cadarnhad:

 
  1. Y bydd y gwaith gosod yn cael ei gynnal yn unol â gofynion y polisi hwn.

 
  1. Y bydd eich yswiriant yn parhau i fod yn ddilys os byddwch yn gosod y sgrin ddiogelwch.

 
  1. Bod y cynnyrch i’w osod yn cydymffurfio â rheoliadau’r llywodraeth a’r diwydiant, ni fydd yn cyfaddawdu diogelwch y cerbyd ac mae wedi’i gymeradwyo gan MIRA (neu gorff tebyg) i’w ddefnyddio yn y Deyrnas Unedig.

 
  1. Rydych yn cytuno i dynnu’r sgrin ddiogelwch o fewn 21 diwrnod ar ôl y dyddiad y bydd Llywodraeth Cymru’n gwneud datganiad swyddogol bod y cyfyngiadau cadw pellter cymdeithasol presennol yn dod i ben, mewn cysylltiad â COVID-19.

 
  1. Pan fydd yr Awdurdod yn fodlon bod y gosodiad arfaethedig yn bodloni’r meini prawf ac sydd wedi’u hamlinellu uchod, cewch osod sgrin ddiogelwch yn eich cerbyd.

 
  1. Pan fydd y partisiwn neu’r sgrin wedi’i gosod yn y cerbyd, mae’n rhaid i berchennog y cerbyd anfon e-bost i’r Adran Drwyddedu gyda’r canlynol:

 
  1. Ardystiad gan y gosodwr neu dystiolaeth arall i brofi bod y gosodiad:

 
  1. Yn cydymffurfio â rheoliadau’r llywodraeth a’r diwydiant, er enghraifft Rheoliadau Cerbydau Ffordd (Adeiladwaith a Defnydd) a deddfwriaeth ddiogelwch berthnasol y Deyrnas Unedig a’r Gymuned Ewropeaidd;

 
  1. Wedi’i ardystio gan wneuthurwr y cerbyd nad yw’n cyfaddawdu diogelwch y cerbyd;

 
  1. Yn cydymffurfio â safon berthnasol Comisiwn Economaidd Ewrop y Cenhedloedd Unedig/yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer prawf cymeradwyo math o offer gwreiddiol sy’n cwmpasu ffitiadau mewnol. Dylai sefydliad annibynnol peirianyddol, profi, ymgynghori ac ardystio cynnyrch e.e. MIRA, Millbrook neu sefydliad arall tebyg gymeradwyo'r sgrin a'r gwaith gosod.

 
  1. Ffotograff(au) o’r partisiwn neu’r sgrin a osodwyd yn y cerbyd.

 
  1. Copi o e-bost perchennog/gweithredwr y cerbyd i’r cwmni yswiriant a chydnabyddiaeth y cwmni yswiriant fod yr yswiriant yn parhau i fod yn ddilys.

 
  1. Mae’r Cyngor yn cadw’r hawl i fynnu bod y sgrin yn cael ei thynnu os na fydd yn fodlon ei bod yn ddiogel, yn addas i’r diben ac yn cydymffurfio â’r gyfraith.

Share on Facebook
Share on Twitter
 
Post Feedback
Ychwanegwch at fy nhudalennau
 
Print this page
Gwasanaethau A i Y
  • A
  • B
  • C
  • Ch
  • D
  • Dd
  • E
  • F
  • Ff
  • G
  • Ng
  • H
  • I
  • L
  • Ll
  • M
  • N
  • O
  • P
  • Ph
  • R
  • Rh
  • S
  • T
  • Th
  • U
  • W
  • Y

Cysylltwch â ni ar gyfryngau cymdeithasol ac ymunwch â'r sgwrs


Am brofiad gwell, edrychwch ar y wefan hon ar Internet Explorer 11 neu uwch, Mozilla Firefox 27 neu uwch, Safari 7 neu uwch, Chrome 30 neu uwch, Opera 12 neu uwch neu feddalwedd borwr gyfwerth.

  • Ymwadiad
  • Hawlfraint
  • Polisi Preifatrwydd
  • Cwcis
  • Accessibility
  • Map o'r safle
Hawlfraint © 2022, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Cedwir pob hawl