Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis. Cliciwch am fwy o fanylion.
Caerphilly Logo
Cofrestrwch i dderbyn e-byst hysbysu
  • Skip to content
  • Hygyrchedd
  • Cysylltwch â ni
  • Y ganolfan newyddion
  • Fy nhudalennau
  • English
  • Tasgau poblogaidd
  • Preswylydd
  • Busnes
  • Pethau i'w gwneud
  • Y Cyngor
  • Cymerwch ran
  • Tasgau poblogaidd
    • Swyddi gwag
    • COVID-19 - Yr wybodaeth ddiweddaraf am ysgolion
    • Gwybodaeth Brechlyn COVID-19
    • Cefnogi Pobl – cymorth yn ymwneud â thai
    • Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
    • Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
    • Gwastraff heb ei gasglu
    • Amserlenni bysiau
    • Canolfannau ailgylchu
    • Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
    • Cyngor a chymorth am lifogydd
    • Diwrnodau casglu gwastraff
  • Preswylydd
  • Busnes
  • Pethau i'w gwneud
  • Y Cyngor
  • Cymerwch ran
A allaf helpu?
CORONAFEIRWS (COVID-19) : yr wybodaeth cyngor a chymorth diweddaraf
  • Busnes    Trwyddedu a chaniatâu    Trwyddedau ffyrdd a phriffyrdd    Sgaffaldiau a phalisau

Sgaffaldiau a phalisau

Mae ar unrhyw sgaffaldiau neu balisau sy’n cymryd lle neu’n estyn allan ar neu dros y Briffordd angen trwydded sgaffaldiau a rhaid cael caniatâd oddi wrthym ni.

Nid cyfrifoldeb y cwsmer (na’i gontractwr) yw gwneud cais am y drwydded hon. Cyfrifoldeb y cwmni sgaffaldiau yw sicrhau y gwnaethpwyd cais am y drwydded a’i bod wedi cael ei rhoi.

Amodau’r drwydded

Mae’n bwysig bod y rheoliadau a rheolaethau perthnasol ar waith yn briodol cyn a thrwy gydol cyfnod y drwydded. Felly, rhaid peidio â dechrau ar y gwaith nes bod y gwaith papur swyddogol, ynghyd â braslun, wedi cael ei gwblhau a bod y drwydded wedi cael ei rhoi. Rhaid i’r amodau sydd ynghlwm wrth y drwydded gael eu darllen yn ofalus a rhaid cadw atynt bob amser.

Mae gofynion sylfaenol yr amodau fel a ganlyn:

  • Rhaid cymryd yr holl ragofalon angenrheidiol i ddiogelu cerddwyr a phob math arall o draffig trwy ddefnyddio rhodfa i gerddwyr.
  • Rhaid i’r sgaffaldiau / palisau gael eu codi fel bod 2.1m o uchdwr gyda gorchudd llawn uwchben a lled 1.2m o droetffordd yn cael eu cadw’n glir i gerddwyr bob amser a rhaid cadw llif di-dor o draffig.
  • Eich bod yn derbyn atebolrwydd am unrhyw ddifrod i’r droetffordd neu’r gerbytffordd a all godi oherwydd bodolaeth y sgaffaldiau / palisau.
  • Eich bod yn derbyn atebolrwydd am unrhyw hawliad neu achos a all godi oherwydd bodolaeth y sgaffaldiau / palisau.
  • Darparu goleuadau rhybudd yn ystod oriau tywyllwch.
  • Tynnu ymaith sgaffaldiau / palisau cyn gynted â bod y gwaith wedi’i gwblhau.
  • Yn ddarostyngedig i unrhyw orchymyn a wneir ar apêl os yw person yn torri darpariaeth A.172 o’r Ddeddf mae’n euog o drosedd ac yn agored i gael dirwy heb fod yn fwy na £100; ac os yw’n parhau â’r drosedd ar ôl cael euogfarn, mae’n euog o drosedd arall ac yn agored i gael dirwy heb fod yn fwy na £2.00 am bob dydd yr eir ymlaen â’r drosedd.
  • Deddf Priffyrdd 1980 – Is-adran 175(A) (Pobl Anabl). Ni ddylai gwaith ffordd rwystro pobl ddall ac anabl yn ddiangen rhag mynd heibio’n ddilyffethair. Dylid darparu rampiau a rhwystrau lle bo angen i ddiogelu cerddwyr dall ac anabl.
  • Mae’r gymeradwyaeth hon yn ddilys am un mis ar ôl dyddiad y llythyr hwn ar yr amod y cawn wybod eich bod yn derbyn yr amodau hyn. Pan ddaw’r gymeradwyaeth hon i ben, os oes angen y sgaffaldiau / palisau o hyd rhaid ichi wneud cais arall gan roi 48 awr o rybudd.

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais ar lein neu lawrlwytho ffurflen gais.

Gwneud cais i godi sgaffaldiau ar lein

Lawrlwytho ffurflen gais i godi sgaffaldiau (PDF 17kb)

Ar ôl i’ch cais ddod i law, byddwn yn eich hysbysu am y penderfyniad i roi’r drwydded naill ai dros y ffôn neu yn ysgrifenedig cyn pen 48 awr.

Ffioedd

Cliciwch yma i weld rhestr lawn o ffioedd trwyddedau

I gael mwy o wybodaeth am drwyddedau sgaffaldiau, dylech gysylltu â ni.

Facebook Rhannwch ar Facebook
Twitter Rhannwch ar Twitter
 
Rhowch Adborth
Ychwanegwch at fy nhudalennau
 
Print this
Gwasanaethau A i Y
  • A
  • B
  • C
  • Ch
  • D
  • Dd
  • E
  • F
  • Ff
  • G
  • Ng
  • H
  • I
  • L
  • Ll
  • M
  • N
  • O
  • P
  • Ph
  • R
  • Rh
  • S
  • T
  • Th
  • U
  • W
  • Y

Cysylltwch â ni ar gyfryngau cymdeithasol ac ymunwch â'r sgwrs


Am brofiad gwell, edrychwch ar y wefan hon ar Internet Explorer 11 neu uwch, Mozilla Firefox 27 neu uwch, Safari 7 neu uwch, Chrome 30 neu uwch, Opera 12 neu uwch neu feddalwedd borwr gyfwerth.

  • Ymwadiad
  • Hawlfraint
  • Polisi Preifatrwydd
  • Cwcis
  • Accessibility
  • Map o'r safle
Hawlfraint © 2017, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Cedwir pob hawl