Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis. Cliciwch am fwy o fanylion.
Caerphilly Logo
Cofrestrwch i dderbyn e-byst hysbysu
  • Skip to content
  • Hygyrchedd
  • Cysylltwch â ni
  • Y ganolfan newyddion
  • Fy nhudalennau
  • English
  • Tasgau poblogaidd
  • Preswylydd
  • Busnes
  • Pethau i'w gwneud
  • Y Cyngor
  • Cymerwch ran
  • Tasgau poblogaidd
    • Swyddi gwag
    • Covid-19 - Latest information regarding school provision
    • Gwybodaeth Brechlyn COVID-19
    • Cefnogi Pobl – cymorth yn ymwneud â thai
    • Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
    • Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
    • Gwastraff heb ei gasglu
    • Amserlenni bysiau
    • Canolfannau ailgylchu
    • Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
    • Cyngor a chymorth am lifogydd
    • Diwrnodau casglu gwastraff
  • Preswylydd
  • Busnes
  • Pethau i'w gwneud
  • Y Cyngor
  • Cymerwch ran
A allaf helpu?
CORONAFEIRWS (COVID-19) : yr wybodaeth cyngor a chymorth diweddaraf
  • Busnes    Trwyddedu a chaniatâu    Trwyddedau eraill    Trwyddedau amgylcheddol

Trwyddedau amgylcheddol

Rhaid bod gennych drwydded amgylcheddol os ydych yn gweithredu cyfleuster a reoleiddir yng Nghymru neu Loegr.

Mae cyfleuster a reoleiddir yn cynnwys:

  • safleoedd neu offer symudol sy’n cyflawni gweithgareddau rhestredig
  • gweithrediadau gwastraff
  • offer symudol gwastraff
  • gweithrediadau gwastraff mwyngloddio

Mae’r gweithgareddau rhestredig yn cynnwys:

  • ynni – gweithgareddau llosgi tanwydd, nwyeiddio, hylifo a phuro
  • metelau – gweithgynhyrchu a phrosesu metelau
  • mwynau – gweithgynhyrchu calch, sment, cynhyrchion ceramig neu wydr
  • cemegion – gweithgynhyrchu cemegion, cynhyrchion fferyllol neu ffrwydron, storio cemegion mewn crynswth
  • gwastraff – llosgi gwastraff, gweithredu safleoedd tirlenwi, adfer gwastraff
  • toddyddion – defnyddio toddyddion
  • arall – gweithgynhyrchu papur, mwydion coed a bord, trin cynhyrchion pren, caenu, trin tecstilau ac argraffu, gweithgynhyrchu teiars newydd, ffermio moch a dofednod yn ddwys

Rhennir gweithgareddau rhestredig yn dri chategori: Rhan A(1), Rhan A(2) a Rhan B.

Mae trwyddedau Rhan A yn rheoli gweithgareddau sy’n cael amrywiaeth o effeithiau amgylcheddol, gan gynnwys:

  • gollyngiadau i’r aer, tir a dŵr
  • effeithlonrwydd ynni
  • lleihau gwastraff
  • defnyddiaeth deunyddiau crai
  • sŵn, dirgryniadau a gwres
  • atal damweiniau

Mae trwyddedau Rhan B yn rheoli gweithgareddau sy’n achosi allyriadau i’r aer.

Mae’r drwydded mae ar eich busnes ei hangen yn dibynnu ar y prosesau penodol dan sylw a’r gollyngiadau canlyniadol.

Mae trwyddedau ar gael oddi wrth Adran yr Amgylchedd neu’ch awdurdod lleol (y rheoleiddiwr) gan ddibynnu ar y categori mae’ch busnes ynddo:

  • Mae safleoedd neu offer symudol Rhan A(1) yn cael eu rheoleiddio gan Asiantaeth yr Amgylchedd
  • Mae safleoedd neu offer symudol Rhan A(2) a Rhan B yn cael eu rheoleiddio gan yr awdurdod lleol, ac eithrio gweithrediadau gwastraff a gyflawnir ar safleoedd Rhan B sy’n cael eu rheoleiddio gan Asiantaeth yr Amgylchedd
  • Mae gweithrediadau gwastraff neu offer symudol gwastraff a gyflawnir heblaw ar safle, neu gan offer symudol Rhan A neu Ran B, yn cael eu rheoleiddio gan Asiantaeth yr Amgylchedd
  • Mae gweithrediadau gwastraff mwyngloddio’n cael eu rheoleiddio gan Asiantaeth yr Amgylchedd

Amodau’r drwydded

Trwyddedu Amgylcheddol – Amodau’r Drwydded (PDF 13kb)

Ffioedd

  • £3318 am bob gweithgaredd Rhan A
  • Gweithgaredd Safonol - £1629
  • Offer symudol:
    • Cais cyntaf ac ail gais - £1629
    • Trydydd i seithfed cais - £972
    • Wythfed cais a rhai wedi hynny - £492
  • Gweithgareddau ffi ostyngol
    • Ailorffenwyr cerbydau - £355
    • Adfer Anwedd Petrol I a II ar y cyd - £252
    • Pob gweithgaredd ffi ostyngol arall - £152

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais am drwydded ar lein.

Gwneud cais am Drwydded Amgylcheddol B

Gwneud cais am Drwydded Amgylcheddol A2

Hysbysiad ildio trwydded (Rhan B) (PDF)

Cais i ildio trwydded (Rhan A2) (PDF)

Proses gwerthuso cais

Bydd y rheoleiddiwr yn ystyried diogelu’r amgylchedd o’i ystyried yn gyfan trwy, yn benodol, atal gollyngiadau i’r aer, dŵr a thir neu, lle nad yw hynny’n ymarferol, eu lleihau.

Mae’n bosibl y bydd y rheoleiddiwr yn rhoi gwybod i’r cyhoedd am y cais a rhaid iddo ystyried unrhyw sylwadau.

Rhaid i’r cais fod oddi wrth weithredwr y cyfleuster rheoleiddiedig a rhaid i’r rheoleiddiwr fod wedi’i fodloni fod yn rhaid iddo weithredu’r cyfleuster yn unol â’r drwydded amgylcheddol.

Cydsyniad mud

Mae er budd y cyhoedd bod yn rhaid inni brosesu’ch cais cyn y gellir ei gymeradwyo. Os nad ydych wedi clywed gennym ymhen 14 diwrnod, dylech gysylltu â ni. 

Rhaid inni benderfynu ar geisiadau cyn pen 4 mis ar ôl i gais gael ei wneud.

Cysylltwch â ni
  • E-bost
  • Ffôn
  • Cyfeiriad
Facebook Rhannwch ar Facebook
Twitter Rhannwch ar Twitter
 
Rhowch Adborth
Ychwanegwch at fy nhudalennau
 
Print this
Gwasanaethau A i Y
  • A
  • B
  • C
  • Ch
  • D
  • Dd
  • E
  • F
  • Ff
  • G
  • Ng
  • H
  • I
  • L
  • Ll
  • M
  • N
  • O
  • P
  • Ph
  • R
  • Rh
  • S
  • T
  • Th
  • U
  • W
  • Y

Cysylltwch â ni ar gyfryngau cymdeithasol ac ymunwch â'r sgwrs


Am brofiad gwell, edrychwch ar y wefan hon ar Internet Explorer 11 neu uwch, Mozilla Firefox 27 neu uwch, Safari 7 neu uwch, Chrome 30 neu uwch, Opera 12 neu uwch neu feddalwedd borwr gyfwerth.

  • Ymwadiad
  • Hawlfraint
  • Polisi Preifatrwydd
  • Cwcis
  • Accessibility
  • Map o'r safle
Hawlfraint © 2017, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Cedwir pob hawl