Cymeradwyo safleoedd bwyd

Os yw eich busnes bwyd yn paratoi neu'n trin bwyd sy'n dod o anifeiliaid i'w gyflenwi i fusnesau eraill, efallai bydd angen cymeradwyaeth gennym ni arnoch. 

Mae hyn yn cynnwys y canlynol:

  • Cig mâl, paratoadau cig a chig wedi'i wahanu'n fecanyddol
  • Cynhyrchion cig
  • Molysgau deufalf byw a chynhyrchion pysgodfa
  • Llaeth amrwd (ac eithrio llaeth gwartheg amrwd)
  • Cynhyrchion llaeth
  • Wyau (ac eithrio cynnyrch amrwd)
  • Cynnyrch wyau
  • Coesau brogaod a malwod
  • Braster a chriwsion anifeiliaid wedi’u rendro
  • Stumogau, pledrennau a choluddion wedi’u trin
  • Gelatin a colagen
  • Rhai storfeydd oer a marchnadoedd cyfanwerthu

Nid oes angen cymeradwyaeth ar gyfer rhai sefyllfaoedd. Er enghraifft, os yw eich busnes bwyd yn cyflenwi bwyd sy’n dod o anifeiliaid yn uniongyrchol i’r defnyddiwr terfynol (y person sy’n bwyta’r cynnyrch bwyd), ni fydd angen cymeradwyaeth ar eich busnes.  Hefyd, efallai y cewch eich eithrio yn ddibynnol ar i ba raddau y mae'r busnes yn dymuno cyflenwi bwyd sy'n dod o anifeiliaid i fusnesau eraill. 

Hyd yn oed os nad oes angen i’ch busnes bwyd gael ei gymeradwyo, bydd dal angen i chi gofrestru eich busnes fel busnes bwyd gyda ni. 

Ni allwch weithredu eich sefydliad bwyd nes ein bod ni wedi'i gymeradwyo. Fel rhan o'r broses gymeradwyo mae'n rhaid i chi roi gweithdrefnau ar waith i reoli diogelwch bwyd yn seiliedig ar egwyddorion yr Hazard Analysis Critical Control Point (HACCP).

Bydd y dogfennau HACCP yn rhan o’ch ‘system rheoli diogelwch bwyd’ a dylid eu teilwra i gyd-fynd â’ch busnes a dylent fod yn briodol i’r math o gynnyrch yr ydych yn bwriadu ei gynnig. 

Sut i wneud cais am gymeradwyaeth

Ffioedd 

Nid oes ffi gymeradwyo. 

Cydsyniad tawel 

Nid oes angen cydsyniad tawel.  Mae er lles y cyhoedd ein bod ni’n ymweld â’ch eiddo cyn cymeradwyo, sy’n gallu cymryd ychydig wythnosau.  Os nad ydych wedi clywed gennym o fewn cyfnod rhesymol, cysylltwch â ni.

Apeliadau

Os nad ydych yn hapus gyda'n penderfyniad i roi cymeradwyaeth, gallwch apelio i Lys yr Ynadon cyn pen 28 diwrnod o'r penderfyniad.  Os ydych chi dal yn anhapus gyda phenderfyniad Llys yr Ynadon, gallwch apelio i Lys y Goron.  Mewn rhai amgylchiadau, mae gennych hawl i geisio adolygiad barnwrol. 

Terfynau amser prosesu

Rydym yn ceisio prosesu ceisiadau ar gyfer cymeradwyaeth mor gyflym â phosibl.  Fodd bynnag, ni allwn ystyried cymeradwyaeth oni bai ein bod ni wedi cael ffurflen gais lawn a'r holl ddogfennau perthnasol eraill, e.e. cynllun HACCP.  Mae angen i ni hefyd gynnal arolwg manwl o’r safle cyn y gallwn roi cymeradwyaeth. 

Rydym yn ceisio prosesu ceisiadau ar gyfer cymeradwyaeth mor gyflym â phosibl.  Fodd bynnag, ni allwn ystyried cymeradwyaeth oni bai ein bod ni wedi cael ffurflen gais lawn a'r holl ddogfennau perthnasol eraill, e.e. cynllun HACCP.  Mae angen i ni hefyd gynnal arolwg manwl o’r safle cyn y gallwn roi cymeradwyaeth. cysylltwch â ni.

Newidiadau i gymeradwyaeth

Ar ôl cael eich cymeradwyo, bydd angen i chi roi gwybod i ni am unrhyw newid o ran gweithredwr busnes bwyd neu newid yn natur y busnes. 

Cysylltwch â ni