Trwydded sw

I redeg sw yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, mae arnoch angen trwydded. 

Meini prawf cymhwysedd

O leiaf dau fis cyn gwneud cais am drwydded, rhaid ichi roi inni hysbysiad ysgrifenedig (gan gynnwys yn electronig) o’ch bwriad i wneud y cais. Rhaid i’r hysbysiad nodi:

  • lleoliad y sw
  • y mathau o anifeiliaid a nifer fras pob grŵp a gedwir i’w arddangos yn y fangre a’r trefniadau ar gyfer eu llety, eu cynhaliaeth a’u lles
  • nifer fras a chategorïau’r staff sydd i gael eu cyflogi yn y sw
  • nifer fras yr ymwelwyr a’r cerbydau modur y mae lle i gael ei ddarparu iddynt
  • nifer fras y mynedfeydd i’r fangre a’u lleoliadau
  • sut y gweithredir y mesurau cadwraeth gofynnol yn y sw

O leiaf dau fis cyn gwneud y cais, rhaid ichi hefyd gyhoeddi hysbysiad o’r bwriad hwnnw mewn un papur newydd lleol ac un papur newydd cenedlaethol, ac arddangos copi o’r hysbysiad hwnnw. Rhaid i’r hysbysiad nodi lleoliad y sw a dweud bod yr hysbysiad o gais i’r awdurdod lleol ar gael i’w archwilio yn swyddfeydd yr awdurdod lleol. 

Ffioedd

Cliciwch yma i weld rhestr lawn o’r ffioedd trwyddedau

Sut i wneud cais

Erbyn hyn, gallwch wneud cais ar lein.

Anfon hysbysiad o’ch bwriad i weithredu sw

Gwneud cais am drwydded i weithredu sw

Dweud wrthym am newid i’ch trwydded sw bresennol

Hysbysiadau preifatrwydd - Ceisiadau am drwyddedau/cofrestriadau a roddwyd mewn perthynas â chadw anifeiliaid (PDF)

Y broses gwerthuso cais

Wrth inni ystyried cais, byddwn yn cymryd i ystyriaeth unrhyw sylwadau a gyflwynir gan neu ar ran:

  • yr ymgeisydd
  • y prif swyddog heddlu (neu yn yr Alban, y prif gwnstabl) yn yr ardal berthnasol
  • yr awdurdod priodol – naill ai’r awdurdod gorfodi neu’r awdurdod perthnasol ar gyfer yr ardal lle bydd y sw yn cael ei leoli
  • corff llywodraethol unrhyw sefydliad cenedlaethol sy’n ymwneud â gweithredu sŵau
  • yr awdurdod cynllunio lleol ar gyfer yr ardal lle bydd y sw yn cael ei leoli
  • unrhyw berson sy’n honni y byddai’r sw yn effeithio ar iechyd neu ddiogelwch pobl sy’n byw yn y gymdogaeth
  • unrhyw un sy’n dweud y byddai’r sw yn effeithio ar iechyd neu ddiogelwch unrhyw un sy’n byw yn agos ato
  • unrhyw berson arall y gallai ei sylwadau ddangos sail y mae gan yr  awdurdod bŵer neu ddyletswydd arni i wrthod rhoi trwydded

Cyn rhoi neu wrthod rhoi’r drwydded, byddwn yn ystyried unrhyw adroddiadau gan archwilwyr wedi’u seilio ar ein harchwiliad o’r sw, yn ymgynghori â chi ynghylch unrhyw amodau yr ydych yn cynnig y dylid eu hatodi i’r drwydded ac yn gwneud trefniadau i archwiliad gael ei gynnal. Rhoddir o leiaf 28 diwrnod o rybudd o’r archwiliad. 

Ni fyddwn yn rhoi’r drwydded os teimlwn y byddai’r sw yn cael effaith niweidiol ar iechyd neu ddiogelwch pobl sy’n byw yn agos ato, neu’n cael effaith ddifrifol ar gynnal cyfraith a threfn, neu os nad ydynt wedi’u bodloni y byddai’r mesurau cadwraeth priodol yn cael eu gweithredu’n foddhaol.

Hefyd mae’n bosibl y bydd cais yn cael ei wrthod:

  • os nad ydym wedi’n bodloni bod y safonau lletya, staffio neu reoli’n addas ar gyfer gofal a lles priodol yr anifeiliaid neu ar gyfer gweithredu’r sw mewn modd priodol
  • os ydych chi, neu os ydych yn gwmni corfforedig, os yw’r cwmni neu unrhyw un o gyfarwyddwyr, rheolwyr, ysgrifenyddion neu swyddogion tebyg eraill y cwmni, neu geidwad yn y sw, wedi cael euogfarn o unrhyw drosedd yn ymwneud â cham-drin anifeiliaid

Mae’n bosibl y bydd yr Ysgrifennydd Gwladol, ar ôl ymgynghori â ni, yn ein cyfarwyddo i atodi amod neu amodau i drwydded.

Mae’n bosibl y byddwn yn cynghori’r Ysgrifennydd Gwladol, oherwydd nifer fach yr anifeiliaid a gedwir yn y sw neu nifer fach y mathau o anifeiliaid a gedwir yno, y dylid gwneud cyfarwyddyd nad yw trwydded yn ofynnol.

Cydsyniad mud

Mae er budd y cyhoedd bod yn rhaid inni brosesu’ch cais cyn y gellir ei gymeradwyo. Os nad ydych wedi clywed gennym ymhen 28 diwrnod dylech gysylltu â’r awdurdod hwn cyn gynted ag sy’n bosibl.

Cysylltwch â ni