Gwerthu anifeiliaid fel anifeiliaid anwes

Os ydych chi'n gwerthu, neu'n bwriadu gwerthu, anifeiliaid fel anifeiliaid anwes (neu gyda'r bwriad o'u hailwerthu yn ddiweddarach fel anifeiliaid anwes) wrth gynnal busnes neu'r rhai sy'n gweithredu ar sail fasnachol, bydd angen Trwydded i wneud hynny o dan Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy'n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021.

Mae’r amgylchiadau y mae’n rhaid i awdurdod lleol eu hystyried wrth benderfynu a yw gweithgaredd yn cael ei gynnal wrth gynnal busnes at ddibenion yr Atodlen hon yn cynnwys, er enghraifft, p’un a yw’r gweithredwr:

  • Yn gwneud unrhyw werthiant drwy’r gweithgaredd, neu fel arall yn cynnal y gweithgaredd gyda’r bwriad o wneud elw, neu
  • Yn ennill unrhyw gomisiwn neu ffi o’r gweithgaredd

Mae hyn yn cynnwys gwerthu o eiddo masnachol neu ddomestig a phob platfform gwerthu ar-lein.

Bydd arolygiad yn cael ei gynnal gan swyddog awdurdodedig o unrhyw fangre y mae’r gweithgaredd trwyddedadwy, neu unrhyw ran ohono, yn cael ei gynnal neu i’w gynnal arni.  Mae gweithredwyr newydd a gweithredwyr sy'n dymuno amrywio'r drwydded fel arfer hefyd yn destun arolygiad gan filfeddyg neu ymarferydd wedi’i benodi gan Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili lle mae ffi ar wahân yn daladwy amdano.  Byddwch yn ymwybodol bod y ffi hon yn parhau i fod yn daladwy os bydd y drwydded yn cael ei gorfodi.

Meini prawf cymhwysedd

Does dim hawl gan y bobl canlynol wneud cais am drwydded:

  • Person sydd wedi dal trwydded ac a gafodd ei dirymu o dan reoliad 14 o’r Rheoliadau hyn.
  • Person sydd wedi ei wahardd o dan adran 33 o Ddeddf Llesiant Anifeiliaid (Gogledd Iwerddon) 2011(10).
  • Person sydd wedi ei wahardd o dan adran 34 o’r Ddeddf.
  • Person sydd wedi ei wahardd o dan adran 40(1) a (2) o Ddeddf Iechyd a Lles Anifeiliaid (Yr Alban) 2006(11).
  • Person sydd wedi ei wahardd rhag cadw anifail gwyllt peryglus o dan adran 6(2) o Ddeddf Anifeiliaid Gwyllt Peryglus 1976(12).
  • Person sydd wedi ei wahardd rhag cadw siop anifeiliaid anwes o dan adran 5(3) o Ddeddf Anifeiliaid Anwes 1951(13).
  • Person sydd wedi ei wahardd rhag cael gwarchodaeth dros anifail o dan adran 1(1) o Ddeddf Diogelu Anifeiliaid (Diwygio) 1954(14).
  • 8Person sydd wedi ei wahardd rhag  berchen ar anifail o dan adran 3 o Ddeddf Diogelu Anifeiliaid 1911(15).

Darllenwch y ddogfen ganllaw atodedig cyn gwneud cais

Ffioedd

Ewch i'n tudalen ffi'r drwydded am ragor o wybodaeth.

Sut i wneud cais

Rhaid cwblhau'r ffurflen gais a'i chyflwyno gyda'r holl ddogfennau eraill (fel y bo'n berthnasol) sydd wedi’u manylu ar y rhestr wirio atodedig. Mae'n bosibl y bydd gofyn i chi ddarparu dogfennaeth bellach os oes angen i wneud penderfyniad ar eich cais.

Mae modd cyflwyno cais drwy e-bost neu drwy'r post.

Gwneud cais nawr

Ceisiadau Adnewyddu

Rhaid cyflwyno ceisiadau adnewyddu o leiaf 10 wythnos cyn y dyddiad y daw’r drwydded gyfredol i ben.  Gall methu â chyflwyno’r cais o fewn yr amserlen hon olygu y bydd eich trwydded yn dod i ben os na fydd modd i ni wneud penderfyniad ar eich cais.

Hysbysiad Preifatrwydd

Ceisiadau am drwyddedau/cofrestriadau a roddwyd mewn perthynas â chadw anifeiliaid (PDF)

Cysylltwch â ni