Trwydded bridio cŵn
Mae angen i unrhyw berson sy’n cadw sefydliad bridio cŵn fod â thrwydded o dan Reoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014.
Mae’r rheoliadau’n datgan bod angen Trwydded Bridio Cŵn lle bo’r person yn cadw 3 neu ragor o eist bridio ac:
- Yn bridio 3 neu ragor o dorllwythi o gŵn bach mewn unrhyw gyfnod o 12 mis NEU
- Yn hysbysebu ar werth 3 neu ragor o dorllwythi o gŵn bach yn ystod unrhyw gyfnod o 12 mis NEU
- Yn cyflenwi cŵn bach a anwyd o 3 neu ragor o dorllwythi o gŵn bach yn ystod unrhyw gyfnod o 12 mis NEU
- Yn hysbysebu busnes o fridio neu o werthu cŵn bach o’r fangre honno.
Ystyr gast fridio yw gast heb ei hysbaddu, nad yw’n iau na 6 mis oed.
Mae angen y drwydded pa un a yw’r gweithgarwch er elw masnachol ai peidio.
Er mwyn cael y drwydded, yn gyntaf mae’n rhaid ichi gyflwyno ffurflen gais a Chynllun Gwella a Chyfoethogi a Chynllun Cymdeithasoli ysgrifenedig ynghyd ag adroddiad oddi wrth filfeddyg yn cadarnhau bod y geist bridio a’r cŵn magu yn addas i’w defnyddio yn y sefydliad bridio. Dylid anfon y rhain, ynghyd â’r ffi ofynnol, at yr adran drwyddedu. Os ydych eisiau cyflwyno’r rhain yn bersonol, bydd angen apwyntiad.
Mae’n bosibl y byddwch eisiau gofyn am gyngor gan eich milfeddyg eich hun neu berson arall â chymwysterau priodol wrth gwblhau’r rhaglenni hyn. Fel arall, mae’n bosibl y bydd y dolenni isod yn eich helpu i gwblhau’r rhaglenni hyn.
Bydd pob mangre newydd yn cael ei harchwilio hefyd gan Ymarferydd Milfeddygol cymeradwy’r Awdurdod, y codir ffi ychwanegol amdano, a chan un o swyddogion yr Awdurdod, er mwyn sicrhau bod y llety’n addas; y trefniadau ar gyfer sicrhau bod y cŵn yn cael digon o fwyd, diod a gwasarn, ac amserlen ar gyfer ymweld â’r cŵn a’u hymarfer o fewn ysbeidiau priodol. Hefyd rhaid bod rhagofalon boddhaol ar waith i atal a rheoli lledaeniad clefydau ymysg y cŵn, a bod y cŵn yn cael eu diogelu os oes tân neu argyfwng arall.
Bydd yn ofynnol i’r sawl sy’n gwneud cais i adnewyddu trwydded ei gyflwyno ynghyd ag Adroddiad Iechyd a Lles sydd wedi’i lunio gan ei filfeddyg ei hun. Rhaid i’r adroddiad hwn fod wedi’i ddyddio dim mwy na 3 mis cyn dechrau’r drwydded.
Ffurflenni a dogfennau cysylltiedig
Ffurflen gais (PDF)
Amodau’r drwydded (PDF)
Cynllun Amgylchedd a Chyfoethogi (PDF)
Cynllun Cymdeithasoli (PDF)
Ffioedd trwyddedau
Hysbysiadau preifatrwydd - Ceisiadau am drwyddedau/cofrestriadau a roddwyd mewn perthynas â chadw anifeiliaid (PDF)
Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch lles anifeiliaid mewn sefydliad bridio neu’n amau bod rhywun yn bridio heb drwydded.