Trwydded sefydliad lletya anifeiliaid

Dylai unrhyw un sy'n dymuno darparu busnes llety ar gyfer cŵn a chathod pobl eraill, boed yn annedd breifat neu fasnachol, sicrhau fod trwydded ganddynt.

Wrth ystyried cais, mae gennym ddyletswydd i sicrhau bod y llety'n addas a lles yr anifeiliaid yn cael ei fodloni.  Bydd swyddog awdurdodedig ynghyd â milfeddyg neu ymarferydd a awdurdodir gan y Cyngor yn archwilio'r adeiladau i sicrhau eu bod yn addas.

Ni ddylech gael eich gwahardd o unrhyw un o'r canlynol ar adeg y cais:

  • cadw sefydliad lletya anifeiliaid
  • cadw siop anifeiliaid anwes dan Ddeddf Anifeiliaid Anwes 1951
  • cadw anifeiliaid dan Ddeddf  Amddiffyn Anifeiliaid (Diwygio) 1954
  • bod yn berchen, cadw, ymwneud â chadw neu fod â hawl i reoli neu ddylanwadu ar gadw anifeiliaid, delio mewn anifeiliaid neu gludo neu fod yn rhan o gario anifeiliaid dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006
  • bod yn berchen, cadw, delio mewn neu gludo anifeiliaid dan Ddeddf Iechyd a Lles Anifeiliaid (yr Alban) 2006.

Fe'ch cynghorir cyn i chi gyflwyno cais, dylech gysylltu â'r Adran Drwyddedu ar 01443 866750 i drafod eich cynigion a/neu ofyn am gyngor.

Pe bai trwydded yn cael ei rhoi, bydd y nifer o gŵn a/neu gathod y gellir eu lletya yn cael ei nodi ar y drwydded ac yn amodol ar ein hamodau safonol o'r drwydded ynghyd ag unrhyw amodau penodol eraill.

Ffioedd

Cliciwch yma am restr lawn o ffioedd trwydded

Sut i wneud cais

Gwneud cais i redeg sefydliad lletya anifeiliaid

Adnewyddu eich trwydded i redeg sefydliad lletya anifeiliaid

Dweud wrthym am newid i sefydliad lletya anifeiliaid cyfredol

Mae'n rhaid darparu cynllun bras o'r eiddo sydd i gael ei drwyddedu. Ar gyfer ceisiadau preswyl masnachol, rhaid i chi hefyd lenwi'r ffurflen sydd ynghlwm ar gyfer pob bloc a fydd yn darparu ar gyfer anifeiliaid.

Hysbysiad i Geidwaid Sefydliadau Lletya Anifeiliaid (PDF 48kb)

Ffurflen A - Manylion o bob bloc a fydd yn darparu ar gyfer anifeiliaid (PDF 48kb)

Hysbysiadau preifatrwydd - Ceisiadau am drwyddedau/cofrestriadau a roddwyd mewn perthynas â chadw anifeiliaid (PDF)

Caniatâd dealledig

Os na glywch oddi wrthym o fewn 28 diwrnod gallech gymryd bod eich cais wedi cael ei gwireddu. Mae'r cyfnod cychwyn yn rhedeg o dderbyn yr holl ddogfennau a thaliad o'r ffi berthnasol.

Cysylltwch â ni