FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Ni fydd rhai ffurflenni ar-lein ar gael rhwng 5:00pm a 7:00pm ar y 19 Mawrth 2024, tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol.  Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi

ONLINE FORMS: Some of our online forms will be unavailable between 5:00pm and 7:00pm on the 19 March 2024, whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Arolygiadau Iechyd a Diogelwch

Rydym yn cynnal arolygiadau i sicrhau bod cyflogwyr yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau cyfreithiol ac i asesu eu bod yn cydymffurfio â deddfwriaeth gyfredol. 

Rydym yn arolygu swyddfeydd, siopau, storfeydd, mannau a ddefnyddir ar gyfer gweithgareddau hamdden a safleoedd eraill nad ydynt yn ddiwydiannol. Mae safleoedd diwydiannol mwy fel ffatrïoedd yn cael eu harolygu gan  Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.

Mae pa mor aml y bydd safleoedd yn cael eu harolygu yn dibynnu ar y peryglon sy'n gysylltiedig â'r gweithle a pha mor dda mae'r peryglon yn cael eu rheoli. Bydd yr arolygwyr yn dyrannu "sgôr risg" i'r safle yn dilyn yr arolygiad yn seiliedig ar ei ganfyddiadau/chanfyddiadau.  

Beth i'w ddisgwyl yn ystod arolygiad

Fel arfer gwneir arolygiadau heb rybudd gyda'r rheolwr a'r busnes. Efallai y bydd yr arolygwr hefyd am siarad â gweithwyr, cynrychiolwyr iechyd a diogelwch, cynrychiolwyr undeb llafur a phobl eraill o ddiddordeb. 

Yn ystod yr arolygiad bydd y swyddog yn gofyn am gael archwilio gwaith papur yn cynnwys y canlynol:

  • Polisi iechyd a diogelwch y cwmni
  • Asesiad risg
  • Asesiad COSHH (Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd)
  • Llyfr/Cofnod Damweiniau
  • Cofnod hyfforddiant
  • Cofnod cynnal a chadw, er enghraifft, y gweithle a'r offer gwaith
  • Adroddiadau arolygiadau mewnol
  • Tystysgrifau, er enghraifft, arholiadau gosodiadau trydanol a theclynnau nwy
  • Gweithdrefnau mewn argyfwng

Cynhelir arolygiad corfforol o'r gweithle hefyd i bennu: -

  • Cyflwr/glendid y safle megis y strwythur allanol a waliau mewnol, lloriau, nenfydau, ffenestri, llwybrau traffig, darnau gosod a gosodiadau
  • Darpariaeth cyfleusterau lles megis toiledau, cyfleusterau ymolchi/sychu, dŵr yfed, ystafelloedd seibiant a gofod i gadw dillad
  • Cyflwr meysydd allanol fel meysydd parcio, llwybrau cerddwyr
  • Pa mor gyfforddus yw'r gweithle, e.e. tymheredd, awyru, goleuo, gweithfannau, dimensiynau'r ystafell a gofod
  • Cyflwr a lleoliad offer gwaith

Yn dilyn yr arolygiad

Ar ddiwedd yr arolygiad bydd y swyddog yn eich cynghori am ei ganfyddiadau/chanfyddiadau. Yn dilyn yr ymweliad, bydd y swyddog yn creu adroddiad yn amlinellu'r gofynion angenrheidiol i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth. 

Mewn rhai achosion, efallai y bydd yn angenrheidiol cymryd camau gweithredu ffurfiol ar unwaith os yw'r swyddog yn darganfod unrhyw beth sy'n cyflwyno perygl difrifol i iechyd a/neu ddiogelwch. 

Gellir cyflwyno hysbysiadau gwella os yw'r swyddog o'r farn bod unigolyn/unigolion yn torri gofynion cyfreithiol. Bydd yr hysbysiad yn amlinellu beth sydd o'i le ac yn rhoi terfyn amser i gydymffurfio. 

Gellir cyflwyno hysbysiadau gwaharddiad lle mae perygl difrifol o niwed personol. Mae'r hysbysiad yn rhoi cyfarwyddyd i unigolyn beidio â chynnal gweithgareddau penodol. 

Mae erlid hefyd yn opsiwn lle mae diffyg ystyriaeth amlwg o'r gyfraith, diffyg ystyriaeth ddi-hid o iechyd a diogelwch, mwy nag un torcyfraith neu fethu â chydymffurfio â hysbysiadau.

Cysylltwch â ni

Tudalennau Cysylltiedig

Prosecutions