Dechrau busnes bwyd 

Wrth ddechrau busnes bwyd newydd mae’n bwysig eich bod yn cofrestru eich safle, ystyried yr holl ddeddfwriaeth hylendid ac yn cydymffurfio â'r gofynion cyfredol o ran cyfraith bwyd.  Mae sefydlu busnes yn y ffordd gywir yn creu sylfaen ar gyfer dyfodol llwyddiannus i'ch busnes.  

Cyn dechrau eich busnes bwyd

Cyn agor, cysylltwch â ni. Gallwn eich helpu chi, cofrestru eich busnes bwyd, cynllunio eich busnes, trefnu casgliad gwastraff ac ailgylchu, a chael hyfforddiant ac offer priodol.

Sut ydw i’n cofrestru fy safle bwyd? 

Eich cam cyntaf yw cofrestru eich safle. Mae cofrestru am ddim a rhaid i chi gofrestru o leiaf 28 diwrnod cyn agor eich busnes.  Os ydych yn gerbyd arlwyo/manwerthu symudol bydd angen caniatâd masnachu ar y stryd arnoch. 

Hyfforddiant hylendid bwyd

Mae angen i chi sicrhau bod eich gweithwyr yn cael eu goruchwylio, eu cyfarwyddo a’u hyfforddi mewn materion hylendid bwyd er mwyn cynhyrchu bwyd diogel i gwsmeriaid. Ewch i’n hadran hyfforddiant hylendid bwyd i gael manylion.

Cynhyrchu System Rheoli Diogelwch Bwyd  

Cyn gweithredu fel busnes bwyd, a chyn eich arolwg, bydd angen i chi greu system rheoli diogelwch bwyd, sy'n esbonio'r gweithdrefnau yr ydych yn eu dilyn yn eich busnes i sicrhau eich bod yn cynhyrchu bwyd sy'n ddiogel i'w fwyta.  Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi cynhyrchu system rheoli diogelwch bwyd o'r enw 'Safer Food Better Business (SFBB)' i fusnesau bach ei defnyddio.

I fusnesau sydd â phrosesau mwy cymhleth gallai’r pecynnau isod fod yn fwy priodol.

Safe Catering

Cooksafe

I gynhyrchwyr llai efallai y bydd y pecyn cymorth MyHaccp toolkit I gynhyrchwyr llai efallai y bydd y pecyn cymorth.

I gynhyrchwyr llai efallai y bydd y pecyn cymorth wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Cysylltwch â ni

Tudalennau Cysylltiedig

Food business licences