Clefydau heintus 

Mae ein swyddogion wrth law i ddelio ag ymholiadau yn gysylltiedig â chlefydau trosglwyddadwy. P’un ai’n achos unigol neu’n achos a allai fod wedi digwydd o ganlyniad i ddigwyddiad megis pryd neu fwffe parti priodas, bydd ein swyddogion yn ymchwilio i’r achos ac yn rhoi cyngor neu'n cymryd y camau priodol i atal achosion pellach.  

Y rheiny sy’n trin bwyd

Pe bai rhai gweithwyr fel y rheiny sy’n trin bwyd neu weithwyr gofal yn cael eu heintio gyda chlefyd trosglwyddadwy, gallai fod angen iddynt fod i ffwrdd o'r gwaith am gyfnod penodol, 48 awr ar ôl i'r symptomau ddod i ben fel arfer.  Dylech ofyn i’ch cyflogwr a'ch meddyg cyn dychwelyd.  

Os ydych yn trin bwyd mae gennych gyfrifoldeb i sicrhau eich bod yn paratoi, coginio a gweini bwyd mewn ffordd hylan. 

Wrth drin bwyd gallwch basio germau ymlaen ac er mwyn atal hyn rhaid i chi: 

  • Olchi eich dwylo bob amser
  • Dweud wrth y rheolwr os nad ydych yn teimlo’n dda 

Golchi eich dwylo'n drylwyr gyda dŵr cynnes a sebon bob amser: 

  • Ar ôl defnyddio’r tŷ bach, gartref neu yn y gwaith
  • Cyn dechrau gwaith, ac ar ôl egwyl
  • Ar ôl trin bwyd amrwd
  • Ar ôl trin sbwriel, A
  • Sychu eich dwylo ar ôl i chi eu golchi 

Dweud wrth eich rheolwr os ydy'r canlynol yn wir: 

  • Rydych wedi bod yn sâl (chwydu)
  • Mae’r dolur rhydd arnoch
  • Mae gennych friwiau (coch, wedi chwyddo, gyda chrawn)
  • Rydych yn teimlo’n sâl
  • Rydych wedi bod yn teimlo’n sâl ar eich gwyliau
  • Mae gan rywun yn eich cartref salwch neu'r dolur rhydd 

Symptomau

Mae gan bob clefyd ei gyfres unigryw o nodweddion.  Dyma rai o’r cyfryngau heintus mwyaf cyffredin. 

Salmonella (PDF 23kb)

Campylobacter (PDF 24kb)

E.Coli 0157 (PDF 24kb)

Gwenwyn Bwyd (PDF 30kb)

Giardia (PDF 23kb)

Cryptosporidiwm (PDF 24kb)

Hepatitis-A (PDF 23kb)

Hepatitis-E (PDF 23kb)

Gastroenteritis Firaol (PDF 24kb)

Shigella (PDF)

Os oes gennych symptomau fel y dolur rhydd a chwydu cyson, y cam cyntaf yw cysylltu â'ch meddyg am apwyntiad a gofyn iddo gymryd sampl ysgarthol. 

Os ydych yn eithaf siŵr o ffynhonnell eich salwch cysylltwch â ni ar unwaith oherwydd bydd angen i ni ddechrau ymchwilio i'r posibiliad o achos.  Yna bydd swyddog yn cysylltu â chi dros y ffôn neu drwy lythyr i ofyn ychydig o gwestiynau ynghylch yr hyn yr ydych wedi'i fwyta a lle rydych wedi bod yn ddiweddar. 

Cysylltwch â ni