Rhyddhad caledi

Mae gennym bwerau disgresiwn i roi rhyddhad ardrethi i dalwyr ardrethi sy’n wynebu caledi ariannol. Mae chwarter cost unrhyw ryddhad caledi yn cael ei dalu’n uniongyrchol gan dalwyr treth gyngor lleol, felly, er mwyn rhoi rhyddhad caledi, mae’n rhaid i ni sicrhau ei fod o fudd i’r gymuned ehangach yn ogystal â’r talwr ardrethi dan sylw.

Dim ond o dan amgylchiadau eithriadol y gellir ystyried ceisiadau am ryddhad caledi.

Meini prawf ac amodau

Mae Adran 49 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 yn rhoi pŵer disgresiwn i awdurdod bilio ostwng neu ddileu swm ardrethi busnes sy’n daladwy ar eiddo ar yr amod ei fod yn fodlon ar y canlynol:

  • byddai’r talwr ardrethi yn wynebu caledi os na fyddai’r cyngor yn gwneud hynny; ac
  • mae’n rhesymol i’r cyngor wneud hynny, gan ystyried buddiannau’r unigolion sy’n destun i’w dreth gyngor.

Sut i wneud cais

Gan fod pob achos yn cael ei ystyried yn ôl ei deilyngdod ei hun, mae’n rhaid i chi wneud cais ysgrifenedig a ategir gan ffigyrau masnachu cyfredol a chopïau o gyfrifon archwiliedig neu gyfrifon a dderbyniwyd gan Gyllid y Wlad am y ddwy flynedd ddiwethaf.

Wrth asesu eich cais, byddwn yn ystyried yr effeithiau y bydd colli eich busnes yn eu cael ar yr ardal leol.

Mae’n rhaid i chi barhau i dalu eich ardrethi busnes tra bod y cais yn cael ei ystyried a bydd unrhyw ordaliadau yn cael eu had-dalu fel y bo angen.

Cysylltwch â ni os ydych o’r farn y gallech fod yn gymwys.
 

Cysylltwch â ni