Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis. Cliciwch am fwy o fanylion.
Caerphilly Logo
  • Skip to content
  • Hygyrchedd
  • Cysylltwch â ni
  • Y ganolfan newyddion
  • Tanysgrifio
  • English
  • Tasgau poblogaidd
  • Preswylydd
  • Busnes
  • Pethau i'w gwneud
  • Y Cyngor
  • Cymerwch ran
  • Covid-19
  • Tasgau poblogaidd
    • Swyddi a hyfforddiant
    • Gwybodaeth Brechlyn COVID-19
    • Canolfannau Hamdden
    • Taliadau Cymorth i Ofalwyr Di-dâl
    • Cynllun Cymorth Costau Byw
    • Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
    • Cefnogi Pobl – cymorth yn ymwneud â thai
    • Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
    • Gwastraff heb ei gasglu
    • Amserlenni bysiau
    • Etholiadau Lleol 2022
    • Councillors and committees
    • Canolfannau ailgylchu
    • Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
    • Diwrnodau casglu gwastraff
  • Preswylydd
  • Busnes
  • Pethau i'w gwneud
  • Y Cyngor
  • Cymerwch ran
  • Covid-19
A allaf helpu?
Argyfwng Wcráin : Mae'r manylion am sut i gynnig cymorth, a ble i gael gwybodaeth a chyngor, ar gael ar ein tudalen we Cymorth i Wcráin.
  • Busnes    Ardrethi busnes    Rhyddhad ac eithriadau eraill    Eiddo gwag neu eiddo a feddiannir yn rhannol

Eiddo gwag neu eiddo a feddiannir yn rhannol

Eiddo gwag

Nid oes angen i chi dalu ardrethi busnes ar eiddo diwydiannol gwag am y 6 mis cyntaf y mae’n wag.  Ar gyfer mathau eraill o eiddo gwag, ni chodir ardrethi am 3 mis.  Ar ôl y cyfnod hwn, mae’n rhaid i’r rhan fwyaf o’r talwyr ardrethi dalu ardrethi busnes llawn.

Mae rhywfaint o eiddo heb ei feddiannu yn gymwys i gael rhyddhad estynedig am eiddo gwag, a elwir yn eithriad:

  • safle â gwerth ardrethol o dan £2,600
  • mae’r perchennog wedi’i eithrio dan y gyfraith rhag meddiannu’r eiddo neu ganiatáu iddo gael ei feddiannu; gall yr eithriad hwn fod yn berthnasol pan fo awdurdod lleol wedi cymryd camau cyfreithiol i atal meddiannaeth ar sail risg i iechyd a/neu ddiogelwch a bod gwaharddeb neu hysbysiad gorfodi ar waith mewn perthynas ag eiddo. Nid yw'r eithriad hwn yn berthnasol lle nad oes gan eiddo ganiatâd cynllunio ar gyfer defnydd penodol, neu lle mae amodau cynllunio wedi'u gosod.
  • safleoedd a gedwir yn wag oherwydd camau a gymerir gan neu ar ran y Goron neu unrhyw awdurdod lleol neu gyhoeddus gyda’r bwriad o wahardd meddiannaeth neu gaffael yr eiddo
  • mae ystad y perchennog yn destun gorchymyn methdalu
  • mae gan y perchennog hawl i feddiannu'r eiddo yn ei gapasiti fel cynrychiolydd personol person marw neu ymddiriedolwr dan Ddeddf Gweithredoedd Cymodi 1914 yn unig
  • mae’r perchennog yn gwmni yn nwylo gweinyddwyr, neu’n destun gorchymyn gweinyddu, neu’n destun gorchymyn dirwyn i ben, neu’n cael ei ddirwyn i ben yn wirfoddol
  • mae gan y perchennog hawl i feddiannu’r eiddo yn ei gapasiti fel diddymwr
  • safleoedd o dan berchenogaeth elusennau – dim ond os bydd defnydd nesaf yr eiddo yn llwyr neu’n bennaf at ddibenion elusennol
  • safleoedd clybiau chwaraeon amatur cymunedol - dim ond os bydd y defnydd nesaf yn llwyr neu’n bennaf fel clwb chwaraeon
  • adeiladau rhestredig neu henebion fel y’u diffinnir yn Neddf Henebion a Mannau Archeolegol 1979 

Eiddo a feddiannir yn rhannol

Os bydd eiddo wedi’i feddiannu’n rhannol am gyfnod byr, mae gennym bwerau disgresiwn mewn rhai achosion i ddyfarnu rhyddhad mewn perthynas â’r rhan o’r safle sydd heb ei meddiannu.

Er mwyn cael rhyddhad ar gyfer eiddo a feddiannir yn rhannol, bydd angen i un o’r Swyddogion Archwilio/Ymweld ymweld â’r safle a bydd angen tystysgrif arbennig gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Bydd angen i chi e-bostio manylion i ni ynghyd â chynllun o’r safle.

Gwnewch gais yn brydlon oherwydd dim ond pan fydd safle’n cael ei feddiannu’n rhannol y gall yr awdurdod lleol/Asiantaeth y Swyddfa Brisio gadarnhau eich cais. O dan rai amgylchiadau, bydd y rhan heb ei meddiannu yn destun tâl ardrethi eiddo gwag.

Cysylltwch â ni i gael rhagor o fanylion.

Cysylltwch â ni
  • Ebost
  • Ffôn
  • Cyfeiriad
Facebook Rhannwch ar Facebook
Twitter Rhannwch ar Twitter
 
Rhowch Adborth
Ychwanegwch at fy nhudalennau
 
Print this
Gwasanaethau A i Y
  • A
  • B
  • C
  • Ch
  • D
  • Dd
  • E
  • F
  • Ff
  • G
  • Ng
  • H
  • I
  • L
  • Ll
  • M
  • N
  • O
  • P
  • Ph
  • R
  • Rh
  • S
  • T
  • Th
  • U
  • W
  • Y

Cysylltwch â ni ar gyfryngau cymdeithasol ac ymunwch â'r sgwrs


Am brofiad gwell, edrychwch ar y wefan hon ar Internet Explorer 11 neu uwch, Mozilla Firefox 27 neu uwch, Safari 7 neu uwch, Chrome 30 neu uwch, Opera 12 neu uwch neu feddalwedd borwr gyfwerth.

  • Ymwadiad
  • Hawlfraint
  • Polisi Preifatrwydd
  • Cwcis
  • Accessibility
  • Map o'r safle
Hawlfraint © 2022, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Cedwir pob hawl