Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis. Cliciwch am fwy o fanylion.
Caerphilly Logo
Cofrestrwch i dderbyn e-byst hysbysu
  • Skip to content
  • Hygyrchedd
  • Cysylltwch â ni
  • Y ganolfan newyddion
  • Fy nhudalennau
  • English
  • Tasgau poblogaidd
  • Preswylydd
  • Busnes
  • Pethau i'w gwneud
  • Y Cyngor
  • Cymerwch ran
  • Tasgau poblogaidd
    • Swyddi gwag
    • COVID-19 - Yr wybodaeth ddiweddaraf am ysgolion
    • Gwybodaeth Brechlyn COVID-19
    • Cefnogi Pobl – cymorth yn ymwneud â thai
    • Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
    • Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
    • Gwastraff heb ei gasglu
    • Amserlenni bysiau
    • Canolfannau ailgylchu
    • Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
    • Cyngor a chymorth am lifogydd
    • Diwrnodau casglu gwastraff
  • Preswylydd
  • Busnes
  • Pethau i'w gwneud
  • Y Cyngor
  • Cymerwch ran
A allaf helpu?
CORONAFEIRWS (COVID-19) : yr wybodaeth cyngor a chymorth diweddaraf
  • Busnes    Ardrethi busnes    Gwerthoedd ardrethol

Gwerthoedd ardrethol

Rhoddir gwerth ardrethol i’ch safle gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Rydym yn defnyddio’r gwerth hwn i gyfrifo faint o ardrethi busnes y dylech ei dalu.

Cedwir manylion am bob safle, gan gynnwys disgrifiad cryno a’r gwerth ardrethol, ar restr ardrethu lleol. Os bydd eiddo yn rhannol ddomestig ac yn rhannol annomestig, mae’r gwerth ardrethol ond yn ymwneud â’r rhan annomestig gan y bydd treth gyngor yn daladwy ar y rhan ddomestig.

Adolygir gwerthoedd ardrethol bob pum mlynedd – gelwir hyn yn ailbrisio. Mae ailbrisiad newydd wedi ei drefnu i ddod i rym o 1 Ebrill 2023 yn seiliedig ar renti farchnad ar 1 Ebrill 2021.

Dangosir manylion am werth ardrethol eich safle, a sut mae wedi’i gyfrifo, ar brisiad cryno'r eiddo. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth, gan gynnwys gwerth ardrethol presennol eiddo yng Nghymru a Lloegr a'r prisiad cryno ar wefan y Swyddfa Brisio.

Mae copi o’r rhestr ardrethu lleol ar gael:

  • Setiau data trethi busnes
  • ar wefan Asiantaeth y Swyddfa Brisio
  • Swyddog Rhestru, Asiantaeth Swyddfa Brisio (ASB), Tŷ Rhodfa, Heol Tŷ Glas, Cardiff, CF14 5GR. (Rhif Ffôn: 03000 505505, e-bost ratingwales@voa.gsi.gov.uk).

Lluosydd

Mae'r gwerth ardrethol yn cael ei luosi gan ffigwr sy’n cael ei bennu'n flynyddol gan Lywodraeth Cymru (a elwir yn y lluosydd) i gyfrifo'r ardrethi sy'n daladwy.

Ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2020, mae’r lluosydd wedi’i osod ar 53.5 ceiniog. Os yw gwerth ardrethol eich eiddo yn £20,000, byddem yn ei luosi gan 53.5c i gael cyfanswm o gyfraddau gros sy'n daladwy ar gyfer y flwyddyn o £10,700.

Os oes hawl gennych i unrhyw fath o ryddhad neu eithriad ardrethi, bydd y swm hwn yn cael ei ostwng wedyn unol â hynny.

Mae'r lluosydd fel arfer yn newid bob blwyddyn yn unol â chwyddiant (Mynegai Prisiau Defnyddwyr) ac eithrio yn y flwyddyn gyntaf yn dilyn ailbrisio pan gaiff ei ddefnyddio i sicrhau bod y newidiadau cyffredinol mewn gwerthoedd ardrethol yn cael effaith niwtral o ran refeniw (h.y. mae'r cyfanswm o gyfraddau busnes a godir yn aros yr un fath). Gall Llywodraeth Cymru hefyd wneud rheoliadau i bennu swm amgen sydd yn is na'r mynegai prisiau defnyddwyr ar gyfer mis Medi y flwyddyn ariannol flaenorol.

Beth i’w wneud os ydych chi’n credu bod eich gwerth ardrethol yn anghywir

Os ydych yn anghytuno â gwerth ardrethol eich eiddo, gallwch apelio i Asiantaeth y Swyddfa Brisio, yn amodol ar gyfyngiadau amser penodol, am un o’r rhesymau canlynol:

  • Mae’r gwerth ardrethol cychwynnol yn y rhestr ardrethu yn anghywir, yn eich barn chi.

  • Mae’r gwerth ardrethol yn anghywir yn sgil newid materol yn yr eiddo. Er enghraifft, mae rhan o’r eiddo wedi’i dymchwel; rydych wedi ehangu’r eiddo, mae newid wedi bod yn ei ddefnydd; newid ffisegol yn yr ardal leol neu newid yn y defnydd a wneir o eiddo cyfagos.

  • Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio wedi diwygio’r gwerth ardrethol a nodir ar y rhestr ardrethu lleol a’ch bod o’r farn bod y gwerth newydd yn anghywir.

  • Mae gwall yng nghofnod yr eiddo yn y rhestr ardrethu e.e. mae’r disgrifiad yn anghywir.

  • Dangosir eich eiddo ar y rhestr ond ni ddylai fod yno e.e. adeilad amaethyddol.

  • Rydych o'r farn bod penderfyniad y Tribiwnlys Prisio neu’r Uchel Lys yn cael effaith ar werth ardrethol eich eiddoO dan rai amgylchiadau, cyflwynir eich apêl i’r Tribiwnlys Prisio er ystyriaeth.

Ni allwch atal taliad neu wrthod talu ardrethi busnes gan eich bod yn aros am benderfyniad ar apêl yn erbyn gwerth ardrethol eiddo.

Os bydd gennych unrhyw ymholiadau pellach neu os hoffech apelio yn erbyn gwerth ardrethol eich eiddo, ewch i wefan Asiantaeth y Swyddfa Brisio neu cysylltwch â:

Prif Brisiwr Cymru a’r Swyddog Prisio
Ardrethi Annomestig Cymru
Asiantaeth y Swyddfa Brisio
Tŷ Rhodfa
Tŷ Glas Road
Llanisien
Caerdydd
CF14 5GR
Ffôn: 03000 505 505
E-bost:  ratingwales@voa.gsi.gov.uk

Cysylltwch â ni
  • Ebost
  • Ffôn
  • Cyfeiriad
Facebook Rhannwch ar Facebook
Twitter Rhannwch ar Twitter
 
Rhowch Adborth
Ychwanegwch at fy nhudalennau
 
Print this
Gwasanaethau A i Y
  • A
  • B
  • C
  • Ch
  • D
  • Dd
  • E
  • F
  • Ff
  • G
  • Ng
  • H
  • I
  • L
  • Ll
  • M
  • N
  • O
  • P
  • Ph
  • R
  • Rh
  • S
  • T
  • Th
  • U
  • W
  • Y

Cysylltwch â ni ar gyfryngau cymdeithasol ac ymunwch â'r sgwrs


Am brofiad gwell, edrychwch ar y wefan hon ar Internet Explorer 11 neu uwch, Mozilla Firefox 27 neu uwch, Safari 7 neu uwch, Chrome 30 neu uwch, Opera 12 neu uwch neu feddalwedd borwr gyfwerth.

  • Ymwadiad
  • Hawlfraint
  • Polisi Preifatrwydd
  • Cwcis
  • Accessibility
  • Map o'r safle
Hawlfraint © 2017, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Cedwir pob hawl